Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Tanysgrifio
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi a hyfforddiant
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Canolfannau Hamdden
    • Taliadau Cymorth i Ofalwyr Di-dâl
    • Cynllun Cymorth Costau Byw
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Etholiadau Lleol 2022
    • Councillors and committees
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
A allaf helpu?
Argyfwng Wcráin : Mae'r manylion am sut i gynnig cymorth, a ble i gael gwybodaeth a chyngor, ar gael ar ein tudalen we Cymorth i Wcráin.
  • Preswylydd    Trafnidiaeth a pharcio    Teithio Llesol    Llwybr Teithio Llesol Cam 1 – Pengam i Ystrad Mynach

Llwybr Teithio Llesol Cam 1 – Pengam i Ystrad Mynach

Teitl

Llwybr Teithio Llesol Cam 1 – Pengam i Ystrad Mynach

Agor

8 Gorffennaf 2019

Cau

23 Gorffennaf 2019

Trosolwg

Sicrhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i alluogi'r awdurdod i greu llwybr cerdded a beicio Teithio Llesol yn Ystrad Mynach.

Ymgynghorodd y Cyngor â phreswylwyr y fwrdeistref sirol ynghylch eu barn a'u cynigion o ran gwella isadeiledd cerdded a beicio ar gyfer teithiau pob dydd yn y gymuned. Roedd yr ymgynghoriad hwn yn sail i greu Map Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol o ran llwybrau i'w datblygu er mwyn eu gwneud yn addas ar gyfer cerdded, beicio a theithio ar gefn sgwter.

Y llwybr rhwng Pengam ac Ystrad Mynach yw un o'r llwybrau a nodwyd ar gyfer eu gwella er mwyn galluogi rhagor o bobl i ddefnyddio dulliau cynaliadwy ar gyfer teithiau pob dydd, ac mae wedi cael ei flaenoriaethu. Gwahoddir preswylwyr a pherchnogion i adolygu'r cynigion a chyflwyno sylwadau fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â'r cynllun hwn.

Bydd y cynllun arfaethedig, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn darparu'r gwelliannau canlynol:

  • Ymestyn y terfyn cyflymder 20mya presennol, gan gynnwys mesurau gostegu traffig ar hyd Heol Pengam, Ystrad Mynach.

  • Gwella'r pyrth 20mya presennol ledled canol y dref.

  • Newidiadau i'r droedffordd ymwthiol ar Heol Pengam ar bwys y gyffordd â Stryd Davies.

  • Gwella'r marciau ffordd a'r arwyddion cysylltiedig i gyflwyno lonydd beicio ymgynghorol.

  • Adeiladu tri thwmpath pen gwastad newydd a fydd yn cynnwys croesfan sebra wrth y gyffordd â Stryd Davies.

  • Creu safle bysiau/troedffordd ymwthiol newydd ar bwys 43/45 Heol Pengam ar gyfer bysiau sy'n teithio tua'r dwyrain er mwyn cynnwys croesfan sebra newydd.

Mae'ch sylwadau, eich barn a'ch awgrymiadau yn bwysig i ni, a byddant yn helpu'r Cyngor i ddatblygu manylion terfynol y cynllun; bydd yr holl sylwadau sy'n ymwneud â'r cynnig yn cael eu hystyried.

Er mwyn galluogi cyfranogiad, mae digwyddiad ymgynghori wedi'i drefnu yn Ysgol Lewis i Ferched ar 16 Gorffennaf 2019 rhwng 16:30 a 18:30. Bydd swyddogion y Cyngor ar gael i ateb eich cwestiynau yn y digwyddiad. Os na allwch fynychu'r digwyddiad hwn, gallwch hefyd weld y cynnig, a chyflwyno barn a sylwadau drwy lenwi holiadur, ar y wefan hon tan 23 Gorffennaf 2019; ar ôl y cyfnod hwn, bydd y Cyngor yn tybio nad ydych am wneud unrhyw sylwadau.

Pam rydym yn ymgynghori?

Rydym yn ymgynghori â phreswylwyr a'r rhai yr effeithir arnynt gan y cynnig i sicrhau bod y cynllun gorau yn cael ei ddatblygu ac i alluogi'r gymuned i roi ei barn a'i sylwadau ar y cynigion.

Dogfennau

Holiadur (PDF)
Hysbysiad preifatrwydd (PDF)
Cynllun Arfaethegid 1 (1.8MB)
Cynllun Arfaethegid 2 (560kb)
Trosolwg o'r cynllun (775kb)

Ffyrdd o fynegi eich barn

https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=156154223075

Yn yr arddangosfa yn Ysgol Lewis  i Ferched, Stryd Oakfield, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7WW ar 16 Gorffennaf 2019 rhwng 16:30 a 18:30.

Ymholiadau

Cysylltwch â Mrs Liz Gibby ar 01443 866595 neu drwy anfon e-bost i gibbye@caerffili.gov.uk

Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau

Bydd canlyniad yr ymgynghoriad ar gael erbyn 7 Awst 2019.

Canlyniadau disgwyliedig

Bydd yr ymgynghoriad yn llywio gwaith dylunio terfynol y gwelliannau cerdded a beicio ac yn galluogi gwaith gwerthuso'r cynnig. Bydd yr ymgynghoriad yn helpu'r gwaith ymgysylltu a gwaith cyflawni'r cynllun.

  • Adroddiad Cryno'r Ymgynghoriad (PDF)
  • Cynllun Arfaethegid 1 (PDF)
  • Cynllun Arfaethegid 2 (PDF)
Facebook Share on Facebook
Twitter Share on Twitter
 
Post Feedback
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this page
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2022, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl