Gwybodaeth a chyngor am drenau

Gwasanaethau trenau – gwybodaeth gyffredinol

Trafnidiaeth Cymru sy'n gweithredu gwasanaethau trenau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Cymerodd y cwmni yr awenau ar gyfer gwasanaethau trenau rhyngdrefol, gwledig, a threnau ar gyfer cymudwyr ledled Cymru a siroedd y gororau.

Gwasanaethau trenau – manylion cyswllt

Trafnidiaeth Cymru
Rhadbost, TFW Rail Customer Relations
Ffôn: 0333 3211 202
E-bost: customer.relations@tfwrail.wales
 
Ymholiadau National Rail
Ffôn: 03457 48 49 50
www.nationalrail.co.uk
 
Gwasanaeth Cymraeg
Ffôn: 0345 60 40 500
Ffôn testun: 03456 05 06 00

Gwasanaeth Gwybodaeth Trafnidiaeth Gyhoeddus Llywodraeth Cymru
Ffôn: 0800 464 0000

Traveline Cymru
Ffôn: 0800 464 00 00
www.traveline.cymru

Cymorth

Mae cymorth ar gael ar gyfer cwsmeriaid ag anableddau neu gwsmeriaid sy'n cael anhawster wrth ymuno neu ymadael â'r trên. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gofyn i gwsmeriaid sydd angen cymorth ffonio 0333 005 0501 ychydig ddyddiau cyn eu taith i drefnu hyn.

 phwy ydw i'n cysylltu pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le ar y trên?

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch, ansawdd, prydlondeb a glendid. Mae'r cwmni yn gweithio'n gyson i wella ansawdd y gwasanaethau mae'n eu cynnig, ond, weithiau, mae rhywbeth yn mynd o'i le. Os cewch chi broblem, cysylltwch â:

Cysylltiadau Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru
Rhadbost, TFW Rail Customer Relations
Ffôn: 0333 3211 202
E-bost: customer.relations@tfwrail.wales

Yn achos unrhyw gwynion nad ydyn nhw'n cael eu datrys mewn modd boddhaol gan y cwmni, Trafnidiaeth Cymru, mae modd eu hatgyfeirio nhw i'r Ombwdsmon Rheilffyrdd, sef cynllun annibynnol newydd sydd wedi cael ei sefydlu i archwilio cwynion heb eu datrys ynghylch cwmnïau trenau, a'r gwasanaethau maen nhw'n eu gweithredu. Cysylltwch â:

Yr Ombwdsmon Rheilffyrdd
cymraeg.railombudsman.org
Ffôn: 0330 094 0362
Ffôn testun: 0330 094 0363
E-bost: info@railombudsman.org