Lle parcio i bobl anabl

Os ydych yn defnyddio cadair olwyn yn barhaol, yn derbyn bathodyn glas dilys parhaol ac yn cael anawsterau parcio sylweddol y tu allan i'ch cartref, efallai y byddwch yn gymwys i gael eich ystyried am le parcio i bobl anabl (LlPiBA).  

Mae'r asesiad ar gyfer ceisiadau o'r fath yn broses ddwy ran:

  1. Rydych yn cael eich asesu fel yn bodloni meini prawf y Gwasanaethau Cymdeithasol a nodir isod 

  2. Mae'r Isadran Briffyrdd yn penderfynu ar ddichonoldeb darparu LlPiBA

Mae hefyd yn bwysig nodi bod gan unrhyw un sy’n meddu ar fathodyn glas dilys yr hawl i barcio yn unrhyw LlPiBA, waeth beth yw ei leoliad, megis y tu allan i'ch cartref. 

Meini prawf y Gwasanaethau Cymdeithasol

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer elfen Gwasanaethau Cymdeithasol yr asesiad, rhaid i chi fodloni pob un o'r amodau canlynol:  

  • Rydych yn defnyddio cadair olwyn yn barhaol pan rydych dan do neu’r tu allan; mae ‘parhaol’ yn golygu nad ydych yn gallu fod yn symudol heb gadair olwyn a ragnodwyd gan weithiwr proffesiynol, megis Meddyg, Ffisiotherapydd, Therapydd Galwedigaethol; ac
  • Rydych yn derbyn bathodyn glas parhaol; ac
  • Nid oes parcio oddi ar y stryd ar gael, megis garej neu fan caled a dim lle i ddarparu cyfleuster o'r fath; ac
  • Mae'r eiddo yn hygyrch ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn; ac
  • Chi yw gyrrwr y cerbyd ac rydych yn gallu dangos tystiolaeth eich bod chi’n ddefnyddiwr cadair olwyn barhaol dan do a’r tu allan; neu
  • Rydych yn ddefnyddiwr cadair olwyn barhaol dan do a’r tu allan ac yn deithiwr mewn cerbyd sydd ar gael yn barhaol ar gyfer eich defnydd, wedi’i gofrestru yn eich eiddo, ac sydd wedi cael ei addasu er mwyn darparu’r gallu i ddiwallu anghenion gofalydd o ran codi mewn a thynnu allan cadair olwyn

Os ydych yn bodloni'r holl ofynion uchod, gallwch

Fel arall, gallwch gysylltu â ni ar 0808 100 2500 i drefnu cael un wedi’i anfon atoch drwy'r post. 

Dichonoldeb yr Isadran Briffyrdd

Os ar ôl derbyn eich holiadur cewch eich asesu fel yn bodloni meini prawf y Gwasanaethau Cymdeithasol, mae'r cais yn cael ei drosglwyddo i'r Isadran Briffyrdd iddynt benderfynu ar ddichonoldeb darparu LlPiBA. 

Beth all atal llwyddiant fy nghais?

Os oes unrhyw waharddiadau traffig ger yr eiddo, e.e. llinellau melyn sengl/dwbl, ardal barcio trwydded preswylwyr yn unig/man aros cyfyngedig, safle bws, croesfannau Sebra/Pelican, agosrwydd at gyffyrdd, yna ni fyddwch yn gymwys i gael eich ystyried gan na fydd cyfyngiadau o'r fath yn gallu cael eu dileu. Efallai y byddant hefyd yn ymgynghori â thrigolion lleol a’r heddlu lleol a gall hyn arwain at y cais yn cael ei wrthod.

Os ydw i'n llwyddiannus, pa mor hir y bydd hyn yn cymryd?

Gall gymryd hyd at 2 flynedd rhwng adeg y cais a’r LlPiBA yn cael ei greu.  Bydd yr Isadran Briffyrdd yn cynnal arolwg i ganfod pa mor ymarferol yw'r LlPiBA.  Unwaith mae penderfyniad na fydd unrhyw effeithiau andwyol ar draffig, caiff cais am ganiatâd cynllunio ei wneud a’i hysbysebu yn y wasg.  Gan ddibynnu ar unrhyw wrthwynebiadau, ceisir caniatâd wedyn gan y Prif Gwnstabl i newid is-ddeddfau sy'n ymwneud â’r briffordd lle cynigir y LlPiBA.  Os rhoddir caniatâd, bydd y lle parcio yn cael ei greu.

Cysylltwch â ni