Adnewyddu eich bathodyn glas
Rhaid adnewyddu eich bathodyn glas bob tair blynedd. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio'r dyddiad dod i ben ar eich bathodyn a gwneud cais am adnewyddiad. Gallwch wneud cais ar unrhyw adeg o fewn 28 diwrnod i ddyddiad diweddu'r bathodyn, ond nid cyn.
Os ydych yn byw ym mwrdeistref sirol Caerffili ac yn dymuno adnewyddu eich bathodyn glas bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Dyddiad Geni
- Man geni
- Rhif bathodyn glas cyfredol (Dyma chwe rhif cyntaf y rhif hir ar y bathodyn)
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais, byddwn yn cysylltu â chi gyda chanllawiau pellach.
Mwy o wybodaeth am fathodynnau glas