Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • COVID-19 - Yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Preswylydd    Trafnidiaeth a pharcio    Trwyddedau parcio    Trwyddedau parcio i breswylwyr

Trwyddedau parcio i breswylwyr

Mae cynlluniau parcio i breswylwyr yn helpu preswylwyr i ddod o hyd i fannau parcio ger eu cartrefi.

Rhoddir trwyddedau parcio i breswylwyr eiddo sydd â chynllun parcio i breswylwyr mewn lle. 

Rhaid arddangos y drwydded yn glir y tu mewn i'r cerbyd bob amser er mwyn ei archwilio.

Cyfyngiadau

Cyhoeddir uchafswm o ddwy drwydded i bob cartref.

Gellir defnyddio trwyddedau parcio i breswylwyr ar gyfer ceir, beiciau modur a faniau ar yr amod nad yw'r uchder cyffredinol yn fwy na 2.44 metr ac nad yw'r hyd cyffredinol yn fwy na 5.49 metr. Ni chaniateir trwyddedau ar gyfer unrhyw gerbyd teithwyr sydd ag ôl-gerbyd ynghlwm neu sy'n cludo mwy na 12 o deithwyr.

I wneud cais am drwydded rhaid i chi fyw mewn eiddo lle mae cynllun trwyddedau parcio preswyl ar waith.  

Trwyddedau ar gael

Mae 2 fath o drwydded ar gael:

  • Trwydded preswylydd - rhoddir y rhain i'r cerbyd a dim ond i barcio yn y parth a nodwyd y gellir eu defnyddio.
  • Trwydded ymwelydd - rhoddir y rhain i'r eiddo a gellir eu defnyddio i barcio unrhyw gerbyd sy'n cydymffurfio â'r uchafswm cyfyngiadau uchder a hyd y manylir arnynt uchod yn y parth a nodwyd.

Gall unrhyw un sy'n byw yn y cyfeiriad wneud cais am drwydded ar yr amod mai'ch cyfeiriad yw eich prif breswylfa.

Gall uchafswm o 2 drwydded gael ei roi i bob eiddo fel a ganlyn:

  • 2 drwydded i breswylwyr a dim trwyddedau ymwelwyr,  NEU
  • 1 drwydded i breswylydd ac 1 drwydded i ymwelydd, NEU
  • 1 drwydded preswylydd yn unig, NEU
  • 1 drwydded i ymwelwyr yn unig

Gwneud cais am drwydded neu ei adnewyddu

Wrth wneud cais ar-lein am drwydded/drwyddedau, bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • Trwydded barcio i breswylwyr – 1 prawf o berchnogaeth cerbyd ac 1 prawf o gyfeiriad
  • Trwydded barcio i ymwelwyr – 2 fath o ddogfen sy'n dangos prawf o gyfeiriad

Dogfen sy'n brawf o berchnogaeth cerbyd – dyma'r dogfennau sy'n cael eu derbyn fel prawf o berchnogaeth:

  • Dogfen V5W
  • Dogfen yswiriant modur dilys
  • Cytundeb Motability
  • Cytundeb ar gyfer car ar brydles
  • Llythyr gan y cyflogwr yn cadarnhau bod car cwmni yn cael ei barcio yng nghyfeiriad y drwydded

Rhaid i'r ddogfen ddangos yr un cyfeiriad â'r un sy'n berthnasol i'r cais am drwydded

Prawf o gyfeiriad – dyma'r dogfennau sy'n cael eu derbyn fel prawf o gyfeiriad:

  • Trwydded yrru ddilys
  • Bil Treth y Cyngor, wedi'i ddyddio yn ystod y 12 mis diwethaf
  • Cyfriflen banc, wedi'i dyddio yn ystod y 3 mis diwethaf
  • Bil cyfleustodau (ac eithrio bil ffôn symudol), wedi'i ddyddio yn ystod y 6 mis diwethaf

Rhaid i'r ddogfen ddangos yr un cyfeiriad â'r un sy'n berthnasol i'r cais am drwydded

Cerdyn credyd neu ddebyd dilys

Rhaid i chi ddarllen y termau ac amodau cyn gwneud cais.  Os ydych chi'n torri'r telerau a'r amodau hyn, efallai y byddwch yn atebol am Hysbysiad Tâl Cosb (dirwy parcio).

Gwneud cais am drwydded neu ei adnewyddu >

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

Dylid adnewyddu trwyddedau yn ystod y mis y maent yn dod i ben.

Bydd angen i chi ganiatáu 10 diwrnod gwaith i'ch cais gael ei brosesu a'i bostio atoch. Os nad oes gennych drwydded ddilys, bydd angen i chi ddod o hyd i le cyfreithiol arall i barcio'ch cerbyd yn y cyfamser.

Trwyddedau coll neu wedi'u dwyn

Os yw'ch trwydded yn cael ei cholli, ei difrodi neu ei dwyn, rhaid i chi wneud cais am un arall gan ddefnyddio'r dolenni uchod.  Bydd tâl o £15 ar gyfer trwyddedau newydd.

Ni fydd y drwydded yn cael ei disodli oni bai ein bod yn fodlon ynghylch dilysrwydd y cais am golled neu ddinistr o'r fath.

Prisiau trwyddedau

Mae pob trwydded yn:

  • Ddilys am un flwyddyn ac yn ddilys tan ddiwedd y mis cyhoeddi y flwyddyn ganlynol (h.y. os yw'r drwydded a roddwyd yn ddilys o 2 Ebrill 2019, byddai'r drwydded yn dod i ben 30 Ebrill 2020).
  • Ddio-drosglwyddadwy. Os byddwch yn symud i gyfeiriad newydd mewn ardal trwyddedau parcio i breswylwyr, bydd angen i chi wneud cais am drwydded newydd a thalu'r ffi ofynnol. Nid yw trwyddedau preswylwyr chwaith yn drosglwyddadwy i gerbyd arall.
  • Ni ellir rhoi ad-daliad.

Math o Drwydded:

P​ris

​Trwydded Preswylwyr                         

​£15 

​Trwydded Ymwelwyr 

£15

​Trwydded newydd (fel newid cerbyd, trwyddedau coll, wedi'u dwyn neu eu difrodi)

​£15

Camddefnyddio trwydded

Bydd unrhyw adroddiadau o gamddefnyddio cynllun trwyddedau preswylwyr yn cael eu hymchwilio a bydd trwyddedau'n cael eu canslo os nodir unrhyw dor-amod.  Bydd unrhyw gerbyd sy'n parhau i arddangos trwydded a ganslwyd yn agored i Hysbysiad Tâl Cosb. 

Camddefnyddio cynllun trwyddedau parcio

Gorfodi neu adolygu cyfyngiadau parcio >

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

Rwyf yn rhedeg busnes ym Mwrdeistref Sirol Caerffili a hoffwn wneud cais am drwydded barcio

Bydd angen i chi wneud cais ysgrifenedig drwy’r post neu drwy e-bost ar parciwchyngall@caerffili.gov.uk. Mae pob busnes yn cael ei ddosbarthu'n unigol ac mae'n dibynnu ar ba fath o fusnes yr ydych yn ei redeg os ydych chi'n gymwys i gael trwydded neu beidio

Nid wyf yn gyrru car ond hoffwn wneud cais am 2 drwydded ymwelydd

Dim ond 1 drwydded ymwelydd sydd ar gael ar gyfer pob cartref.

Cysylltwch â ni
  • E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Facebook Rhannwch ar Facebook
Twitter Rhannwch ar Twitter
 
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl