Talu dirwy parcio
Pay and display notice: Due to the coronavirus pandemic, we will not be servicing car park pay and display machines until further notice. Those required to undertake essential travel or key workers are able to use our car parks free of charge.
Os ydych wedi derbyn tocyn parcio (Hysbysiad Tâl Cosb), gallwch ei dalu ar-lein. Bydd taliadau yn cael eu cymryd gan Grŵp Parcio De Cymru (SWPG).
Gallwch hefyd dalu:
- Trwy ddefnyddio'r llinell talu awtomataidd dros y ffôn ar 033 33 200 867 gan ddefnyddio cerdyn credyd/debyd.
- Trwy'r post gan ddefnyddio archeb bost neu siec i:
SWPG
Blwch Postio 112
Pontypridd
CF37 9EL
Sut i herio eich dirwy parcio
Os ydych wedi derbyn tocyn parcio ac nad ydych chi'n siŵr pam, ewch i www.swpg.co.uk. Yma, gallwch nodi rhif eich Hysbysiad Tâl Cosb a rhif cofrestru eich cerbyd a gweld y dystiolaeth dros eich tâl parcio.
Os ydych am herio dirwy parcio, gallwch wneud hynny ar-lein neu yn ysgrifenedig fel a ganlyn:
Ar-lein ar: www.swpg.co.uk.
Yn ysgrifenedig i:
SWPG
Blwch Postio 112
Pontypridd
CF37 9EL
Nid yw Cyngor Caerffili yn gallu delio ag apeliadau yn erbyn tocynnau parcio.