Cwestiynau cyffredin am reoli coed

Cwestiynau ynghylch coed wedi'u gwarchod – Gorchmynion Cadw Coed, Ardaloedd Cadwraeth a safleoedd datblygu

Sut mae cael gwybod a yw coeden wedi'i gwarchod?

Mae rhai coed yn cael eu gwarchod o dan y gyfraith: efallai eu bod wedi’u cynnwys mewn Gorchymyn Cadw Coed (TPO); efallai eu bod yn tyfu mewn Ardal Gadwraeth;  ac efallai eu bod wedi’u cadw neu wedi’u plannu fel rhan o Ganiatâd Cynllunio. Cofiwch mai perchennog y goeden sy'n dal yn gyfrifol am reoli coeden a warchodir â TPO, neu mewn Ardal Gadwraeth, yn amodol ar unrhyw ganiatâd cynllunio angenrheidiol. Nid y Cyngor sy’n gyfrifol am gynnal a chadw coed mewn perchnogaeth breifat.

Mae'r Adran Cynllunio yn cadw'r copïau papur ac (o dan amgylchiadau arferol) rydych chi’n cael eu gweld drwy wneud apwyntiad gyda'r Adran Cynllunio.

Mae Gorchymyn Cadw Coed yn cael ei osod ar goeden (neu grŵp o goed) i warchod y rhai sy'n creu effaith arwyddocaol ar eu hamgylchedd lleol. Mae'n orchymyn sy’n cael ei wneud gan awdurdod cynllunio lleol ac sy'n ei gwneud yn drosedd torri coeden, ei thocio, ei brigdorri, ei diwreiddio, ei difrodi’n fwriadol neu ei dinistrio’n fwriadol heb ganiatâd yr awdurdod cynllunio.

Mae pob coeden a llwyn mewn Ardal Gadwraeth wedi’u gwarchod os yw diamedr y bôn yn hafal i 75mm neu’n fwy na hynny (hynny yw tua 23.5cm o gwmpas y bôn) o’u mesur 1.5m uwchben lefel y ddaear. Does dim ots pa mor dal yw'r goeden, na pha rywogaeth neu oedran ydy hi. Mae ffiniau Ardaloedd Cadwraeth i’w gweld yn y map rhyngweithiol Gorchmynion Cadw Coed.

Os oes gwaith adeiladu'n digwydd, mae'n debygol y bydd y perchennog wedi gwneud cais i'r Adran Cynllunio. Gallwch ddod o hyd i fanylion y datblygiad, gan gynnwys pa goed sydd i'w torri, eu cadw neu ba goed newydd sydd i’w plannu ar y Porth Mynediad Cyhoeddus. Gallwch chwyddo’r map i ddod o hyd i'r ardal a'r ceisiadau cynllunio sy'n gysylltiedig â hi. Cliciwch yr amlinelliad coch i gael manylion y cais. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch  â'r Adran Cynllunio.
 

Ar safle adeiladu cyfagos, mae'r adeiladwyr yn torri/tocio coed. Ydy hyn yn cael ei ganiatáu?

Mae coed ar safleoedd sydd i'w datblygu (i’w cadw, i’w torri, i’w tocio ac i'w disodli) yn rhan o'r broses o wneud cais cynllunio a sicrhau cymeradwyaeth. Rhaid i unrhyw waith ar goed gael ei gytuno rhwng y datblygwr a'r Awdurdod Cynllunio a rhaid sicrhau caniatâd penodol.  Bydd caniatâd cynllunio llawn yn drech na’r amddiffyniad cyfreithiol mewn Gorchmynion Cadw Coed neu mewn Ardaloedd Cadwraeth. Mae'r cais, y cynlluniau a'r penderfyniadau ynglŷn â'r cais ar gael i'w gweld ar y Porth Mynediad Cyhoeddus. Os oes cais yn yr arfaeth ond bod gwaith torri coed yn digwydd heb ganiatâd cynllunio y cytunwyd arno, cysylltwch â’r Adran Cynllunio. Gall yr Adran Cynllunio osod amodau yn ystod y broses cymeradwyo cynlluniau i helpu i sicrhau bod coed yn cael eu hamddiffyn yn ddigonol yn ystod y cyfnod adeiladu. Mae'r manylion hyn ar gael ar y Porth Mynediad Cyhoeddus.
 

Mae TPO ar fy nghoeden i ond rwy'n credu ei bod yn beryglus – mae'n gollwng brigau/canghennau ar y ffordd. Beth ddylwn i ei wneud?

Mae Gorchymyn Cadw Coed (TPO) yn orchymyn sy’n cael ei wneud gennym ni ac sy'n rhoi gwarchodaeth gyfreithiol i goed neu goetir. Mae TPO yn atal coed rhag cael eu torri, eu diwreiddio, eu brigdorri, eu tocio, eu difrodi neu eu dinistrio’n fwriadol (gan gynnwys torri eu gwreiddiau) heb ein caniatâd ni.

Nid yw'n golygu na all coeden gael ei thocio na'i thynnu byth – os yw'r camau hynny'n angenrheidiol ac yn rhesymol, bydd y cais a gyflwynwch ar gyfer y gwaith yn cael ei gymeradwyo. Rhaid i berchennog coeden a warchodir gan TPO sicrhau caniatâd cynllunio ysgrifenedig ymlaen llaw cyn bwrw ymlaen â gwaith ar y goeden honno. Os yw coeden eich cymydog yn bargodi dros eich gardd chi, bydd angen ichi wneud cais o hyd am ganiatâd i weithio ar y goeden.

Gweler ein hadran Gorchmynion cadw coed ar y wefan i gael manylion gan gynnwys ffurflenni cais a chanllawiau ar sut i lenwi'r ffurflenni. Gall yr Adran Cynllunio anfon copïau papur atoch o'r ffurflenni neu gallwch ddefnyddio'r ffurflen ar-lein.

Mae gan bob perchennog coed (boed coed wedi’u gwarchod ai peidio) ddyletswydd gofal tuag at bobl eraill yn y gyfraith sifil a’r gyfraith droseddol i gymryd camau rhesymol i osgoi anaf neu niwed rhagweladwy. Mae hyn yn golygu y dylech edrych ar eich coeden i chwilio am ganghennau wedi torri a allai ddisgyn ac achosi niwed i'ch cymydog neu eiddo cyfagos, gan gynnwys ffyrdd a llwybrau troed, yn enwedig ar ôl stormydd.

Rydym yn eich cynghori i gyflogi Ymgynghorydd Coedyddiaeth proffesiynol i wirio'r goeden ar eich rhan, ac os ydyn nhw’n cynghori gwneud gwaith tocio ar eich coeden TPO byddan nhw’n gallu helpu gyda'r ffurflenni cais, yn enwedig unrhyw dermau technegol y mae eu hangen i ddisgrifio’r math o waith tocio a graddau'r gwaith tocio.

Rydyn ni wedi paratoi rhestr o Ymgynghorwyr Coedyddiaeth a meddygon coed lleol sydd â chymwysterau addas. Fel arall, anfonwch neges ebost at GweinydduParciau@caerffili.gov.uk i ofyn am gopi.  Gallwch chwilio am help proffesiynol gan ymgynghorwyr ar wefan y Gymdeithas Coedyddiaeth.
 

Rwy'n credu bod fy nghoeden wedi'i gwarchod wedi marw. Ga i ei thynnu?

O dan eithriad yn y ddeddfwriaeth, gall unrhyw goeden wedi'i gwarchod ac sydd wedi marw, yn marw neu'n beryglus gael ei thynnu heb fod angen cyflwyno cais. Ond, oni bai bod y goeden yn beryglus yn y fan a’r lle, rhowch bum niwrnod o rybudd er mwyn inni drefnu unrhyw archwiliadau angenrheidiol. Mae hyn er eich budd chi - fe allech chi gael eich erlyn os ydych wedi cyflawni gwaith diawdurdod neu wedi defnyddio'r esemptiad heb reswm da. Rydym yn cynghori'n gryf bod gwaith tynnu (neu unrhyw waith brys arall) yn cael ei wneud gan gontractwyr trin coed lleol sydd ag enw da ac yswiriant priodol. Gallwch anfon neges e-bost at GweinydduParciau@caerffili.gov.uki ofyn am gopi o’r rhestr.  Os ydych chi'n meddwl bod eich coeden warchodedig chi wedi marw, yn marw neu'n beryglus, anfonwch neges e-bost atom yn GweinydduParciau@caerffili.gov.ukgan gynnwys ffotograffau o'r goeden o wahanol onglau er mwyn inni asesu cyflwr y goeden.
 

Os gwela i waith yn cael ei wneud ar goeden wedi'i gwarchod, sut alla i gael gwybod a oes gan y perchennog (neu'r cymydog) ganiatâd y Cyngor?

Mae pob cais cynllunio, gan gynnwys Gorchmynion Cadw Coed, ar gael i'w weld ar y Porth Mynediad Cyhoeddus.   

Os ydych chi’n defnyddio'r map, newidiwch yr hidlydd i ddangos ceisiadau’r ddwy flynedd diwethaf. Yna sgroliwch i'r ardal lle mae'r goeden wedi'i lleoli a chliciwch. Bydd blwch yn ymddangos gyda dolen i'r dogfennau sy'n dangos y caniatâd neu’r gwrthodiad.
 

Rwy'n byw mewn Ardal Gadwraeth. Ga i dorri’r goeden yn fy ngardd?

Mae Coed mewn Ardaloedd Cadwraeth sydd eisoes wedi'u gwarchod gan Orchymyn Cadw Coed yn dod o dan y rheolaethau arferol mewn TPO a bydd angen ichi wneud cais am ganiatâd i wneud gwaith ar eich coeden.

O ran coed eraill dros 75mm mewn diamedr 1.5m uwchben y ddaear (23.5cm o’u cwmpas, o ran arweiniad) mewn Ardal Gadwraeth mae’n rhaid ichi roi chwe wythnos o rybudd ysgrifenedig ymlaen llaw i'r Awdurdod Cynllunio Lleol (drwy lythyr neu e-bost) am unrhyw waith arfaethedig ar y goeden, gan ddisgrifio ble mae'r goeden a beth rydych chi am ei wneud. Mae hyn yn rhoi cyfle i'r Awdurdod Cynllunio ystyried diogelu'r goeden drwy TPO er mwyn ei gwarchod er lles y gymuned ehangach.

Rhaid ichi beidio â gwneud unrhyw waith yn ystod y cyfnod hwnnw o chwe wythnos heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Os gwnewch chi, fe allech gael dirwy. Efallai y bydd rhaid i chi blannu coeden newydd hefyd.

Does dim angen ichi roi rhybudd os yw'r goeden yn llai na 75mm mewn diamedr, o'i mesur 1.5 metr uwchben y ddaear (neu 100mm os ydych chi wrthi'n teneuo i helpu twf coed eraill).

Rhagor o wybodaeth am goed wedi'u gwarchod ar wefan Llywodraeth Cymru
 

Mae yna goed rwy’n credu y dylen nhw gael eu gwarchod drwy Orchymyn Cadw Coed. Beth alla i ei wneud?    

Os ydych chi’n teimlo y dylai coeden gael ei gwarchod drwy Orchymyn Cadw Coed, anfonwch neges ebost at Cynllunio@caerffili.gov.uk.  Rhowch fanylion y goeden neu’r coed, gan gynnwys y lleoliad (mor gywir â phosibl) gyda ffotograffau o'r goeden os oes modd a'r rhesymau pam rydych chi'n credu bod y goeden yn haeddu cael ei gwarchod, neu pa fygythiad uniongyrchol sy’n cael ei achosi iddi.
 

Cwestiynau am goed y cyngor

Rwy'n poeni am gyflwr coeden ar dir y cyngor, beth alla i ei wneud?

Os yw'r goeden y tu allan i'ch eiddo neu yn agos iddo, neu yn eich ardal leol neu'ch parc lleol, a’i bod yn dangos arwyddion o ddiffygion neu iechyd gwael, rhowch wybod inni.

Pa mor fawr yw'r goeden? (e.e. yn dalach na bws deulawr, neu ddwywaith uchder golau'r stryd neu yn uwch na'r gefnen ar y to, etc.) Ble yn union mae hi – ar dir glas neu ar balmant? Pryd sylwoch chi ar y newid yn ei chyflwr?

Dyma rai symptomau y gallech chi ei gweld:

  • Dim dail yn yr haf – efallai fod hon wedi marw
  • Canghennau marw yn y canopi
  • Ffwng yn y gwaelod, neu ar y bôn, neu gerllaw ar y ddaear – byddai ffotograffau o unrhyw ffyngau yn ddefnyddiol iawn
  • Mae'r goeden wedi dechrau gwyro pan oedd yn sefyll yn syth o'r blaen
  • Mae'r gwaelod wedi'i ddifrodi fwy na hanner ffordd o’i amgylch
  • Mae’r goeden yn dangos arwyddion o farw’n ôl, mae blaenau’r canghennau’n denau eu dail,  mae’r dail yn troi'n frown ac yn disgyn yn yr haf
  • Mae’r bôn yn amlwg yn symud yn y gwaelod (neu'r rhan isaf), neu mae’r tir o amgylch y goeden yn codi
  • Mae yna hollt fertigol hir yn y bôn
  • Cangen neu frig wedi disgyn
  • Cangen wedi torri’n glec – ond yn dal ynghlwm – neu gangen rydd yn bargodi dros ffordd/troetffordd/mainc/eiddo
 

Bob blwyddyn rwy'n cael ffrwythau, dail a llanast adar o goeden y cyngor/cymydog – ga i drefnu tocio neu dynnu'r goeden?

Mae colli dail yn eu  tymor, ffrwythau a blodau yn un o weithredoedd naturiol bioleg y goeden. Nid yw perchennog y goeden (y cyngor neu berchennog preifat) o dan unrhyw rwymedigaeth i docio neu dynnu coed am y rhesymau hyn. Mae hwn yn 'niwsans tymhorol' sy'n digwydd yn naturiol ac ni fyddwn yn ymgymryd ag unrhyw waith lliniaru. Ni fyddwn ychwaith yn archwilio nac yn cynnal coed mewn ymateb i gwynion am ddail sy'n cwympo neu fiomas bach arall fel hadau, aeron, blodau etc.

Mae amryw o frwsys, gardiau, rhwyllau a gridiau ar gael yn eang i helpu i atal cwteri a draeniau rhag cael eu blocio a gallant helpu gyda rhywfaint o'ch gwaith cynnal a chadw rheolaidd gartref.

Os yw llwybrau cyhoeddus wedi mynd yn llithrig gallwch roi gwybod i’r adran gofal cwsmeriaid priffyrdd a hynny fel rhwystr ar y briffordd.  

Os ydych yn denant i’r cyngor, rhowch wybod am y mater i'ch swyddfa dai leol.
 

Rwy'n denant i’r adran Tai; sut ga i drefnu tocio fy nghoeden?

Os ydych yn denant i’r cyngor, rhowch wybod am y mater i'ch swyddfa dai leol.

Fe fyddan nhw’n trafod y mater gyda chi ac yn cadarnhau pwy sy'n gyfrifol am y goeden. Byddant yn anfon eich ymholiad aton ni os bernir bod hynny'n angenrheidiol. Peidiwch â chysylltu â'r Adran Goed neu'r Is-adran Parciau yn uniongyrchol, gan na allwn ni ddelio â'r ymholiadau hyn heb gais ymlaen llaw gan yr adran Tai. Sylwch nad ydyn ni’n tocio coed collddail mewn perthynas â golau yn eich tŷ neu'ch gardd, nac unrhyw goed mewn perthynas â derbyniad teledu/lloeren. Mae coed ar ystadau tai mewn mannau cyhoeddus yn cael eu harchwilio'n rheolaidd, ar gylch cyson ac mae unrhyw waith tocio i’w hadfer yn cael ei drefnu yn ôl yr angen.
 

Mae un o goed y cyngor yn bargodi dros fy ffin i. Ga i drefni ei thocio?

Dydyn ni ddim yn archwilio/tocio coed(en) heb fod hynny wedi’i amserlennu dim ond am fod dail yn bargodi os nad yw'n cyffwrdd ag unrhyw adeilad neu strwythur yn gorfforol. Mae gwybodaeth ddefnyddiol i’w gweld yn yr adran ar lystyfiant sy’n bargodi.

Pan fyddwn ni wedi trefnu archwiliadau coed mewn ardal, efallai  y byddwn wedyn yn trefnu i lystyfiant sy'n eiddo i'r cyngor ac sy’n bargodi gael ei docio oddi wrth waliau terfyn, ffensys, adeiladau neu siediau. Os yw’r llystyfiant sy'n bargodi yn achosi neu os gallai achosi difrod i eiddo cyfagos, byddai hyn yn cael ei ystyried yn "niwsans cyfreithiol". Yn achos niwsans cyfreithiol, byddai’n ddoeth i berchennog y llystyfiant (y cyngor neu gymydog) gael gwared ar y niwsans.
 

Mae canghennau'n cyffwrdd â'm hadeilad o un o goed y cyngor. Ga i drefnu eu tocio?

Cewch. Cysylltwch â’r adran Gofal Cwsmeriaid. Dylech gynnwys ffotograffau o'r goeden o wahanol onglau er mwyn inni ddeall y mater yn glir ac yn gyflym.

Unwaith y byddwn wedi cadarnhau bod y tir/coeden yn perthyn i'r cyngor gallwn drefnu archwiliad. Bydd unrhyw waith tocio angenrheidiol yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl. Os nad yw'n goeden sy'n perthyn i'r cyngor, fyddwn ni ddim yn gallu helpu, a dylech drafod y mater gyda pherchennog y goeden.

Mae gwybodaeth ddefnyddiol i’w gweld yn yr adran ar lystyfiant sy’n bargodi.

Os ydych yn denant mewn tŷ cyngor a bod gennych broblemau'n ymwneud â choed ar dir yr adran tai, dylech gysylltu â swyddfa leol yr adran tai.  Byddan nhw’n penderfynu wedyn a oes angen archwilio’r goeden ac yn trosglwyddo'r mater i adran y Parciau. Pan fydd y swyddog coed yn gweithio yn yr ardal honno bydd y goeden yn cael ei harchwilio a bydd unrhyw waith tocio sydd ei angen i gadw’r goeden yn iach yn cael ei restru a'i drosglwyddo'n ôl i'r adran tai i gael ei awdurdodi.

Oni bai bod yna argyfwng yn y fan a’r lle, peidiwch â chysylltu ag adran y Parciau na'r Adran Goed yn y lle cyntaf gan na allwn ni ddelio â’r peth i ddechrau.
 

All y Cyngor ddod i docio fy nghoeden i (ar eiddo preifat)?

Na allwn. Rydym yn argymell eich bod yn gofyn am gyngor gan weithiwr proffesiynol coedyddiaeth annibynnol.

Rydyn ni wedi paratoi rhestr o Ymgynghorwyr Coedyddiaeth a meddygon coed lleol sydd â chymwysterau addas. Fel arall, anfonwch neges ebost at GweinydduParciau@caerffili.gov.uk i ofyn am gopi.  Gallwch chwilio am help proffesiynol gan ymgynghorwyr ar wefan y Gymdeithas Coedyddiaeth.

Cyn i unrhyw waith gael ei wneud, gwiriwch i weld a oes Gorchmynion Cadw Coed (TPOs) ar unrhyw goed  neu a ydyn nhw mewn Ardal Gadwraeth. Gweler y  map a'r Cwestiynau Cyffredin ar goed wedi'u gwarchod a gwnewch gais/rhowch wybod i ni fel y bo'n briodol.
 

Mae yna lanast gludiog (cawod fêl) ar fy nghar/gardd/deciau; ga i drefnu tocio neu dynnu'r goeden?

Na chewch. Does dim rheidrwydd arnon ni i wneud gwaith ar goeden am y rheswm penodol hwn. Mae cynhyrchu 'cawod fêl' yn broses naturiol sy'n digwydd pan fydd pryfed glas yn bwydo ar sudd y dail. Does dim modd atal hyn na'i reoli'n effeithiol. Gallwch dynnu 'cawod fêl’ oddi ar wynebau caled drwy eu golchi neu eu sgrwbio â digon o ddŵr cynnes, a sebon os oes modd. Dim ond dŵr siwgr yw’r ‘mêl’ yn y bôn; gall fod yn annymunol a pheri rhwystredigaeth, ond mae'n ddiniwed i bobl, tecstilau a gwaith paent cerbydau. [ffynhonnell: Research for Amenity Trees Number 2 – 'Diagnosis of Ill-Health in Trees' gan Strouts a Winter]

Efallai y gwelwch chi fod cacwn meirch neu gacwn bach yn cael eu denu i'r sudd. Maen nhw’n manteisio ar ginio am ddim a does dim y gellir ei wneud i'w troi oddi wrth y cyflenwad bwyd hawdd hwn. Mae cacwn meirch yn bwysig yn yr amgylchedd – maen nhw’n ysglyfaethwyr ac yn bwyta'r pryfed glas sy'n achosi'r mêl yn ogystal â llawer o lindys. Maen nhw’n chwarae rôl ecolegol hanfodol.

Bydd cacwn hefyd yn chwilio am gyfle i fwydo ar y gawod fêl llawn siwgr, sy'n rhoi carbohydradau iddyn nhw, mewn ffordd debyg i neithdar. Mae llwyddiant nythaid o gacwn yn dibynnu ar ddarbodaeth wrth ddefnyddio ynni a bydd cacwn yn naturiol yn ceisio casglu bwyd mor effeithlon â phosibl. Mae'n bosibl, yn ystod y cyfnodau pan fydd llawer o bryfed glas ar gael, fod y cacwn yn manteisio ar y bwyd cyflym hawdd, mwy llawn egni sydd ar gael! I gael rhagor o wybodaeth, gweler gwefan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn.
 

Mae gwreiddiau coed yn difrodi'r droetffordd/palmant ac mae angen ei drwsio. Â phwy ddylwn i gysylltu?

Mae’r priffyrdd (gan gynnwys troetffyrdd) yn cael eu harchwilio'n rheolaidd gan Arolygydd Priffyrdd, a fydd yn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau ag arwyneb y palmant. Rhowch wybod am faterion i’r adran Gofal Cwsmeriaid Priffyrdd.
 

Mae golau i'm heiddo i’n cael ei rwystro gan un o goed y cyngor y tu allan i'r tŷ; oes modd i'r goeden gael ei thocio/ei thynnu?

Nac oes. Dydyn ni ddim yn tocio nac yn tynnu coed am y rheswm penodol hwn yn unig. Does gan breswylwyr ddim hawl gyfreithiol i gael goleuni cyn belled ag y mae coed collddail yn y cwestiwn. Er hynny, maes o law gall ein gwaith cynnal arfaethedig ar goed helpu i liniaru'r sefyllfa.

Os yw'r mater yn ymwneud â rhes o goed bytholwyrdd gweler ein hadran perthi uchel i gael manylion. Yr adran iechyd yr amgylchedd ac nid adran y parciau sy’n ymdrin â materion perthi uchel.
 

Mae’r derbyniad ar fy nheledu/lloeren yn wael. Ga i drefnu i goeden gael ei thocio neu ei thynnu?

Na chewch. Does dim hawl gyfreithiol i gael derbyniad teledu/lloeren ac felly does dim rhaid i ninnau docio na thynnu'r goeden/coed er mwyn i rywun dderbyn signal lloeren. Efallai y bydd angen ail-leoli’ch erial teledu neu'ch dysgl loeren, neu efallai y bydd angen ichi ystyried defnyddio 'atgyfnerthwyr' ar gyfer signal yr erial/lloeren.


Cwestiynau cyffredinol

Dywedodd rhywun nad yw coed yn cael tyfu'n fwy nag uchder penodol. Ydy hyn yn wir?

Does dim deddfwriaeth yn ymwneud ag uchder coed. Fel arfer, mater o argraff yw ofn coed mawr, nid mater gwirioneddol: yn ystadegol mae coed yn ddiogel iawn. Yn ôl yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, mae’r risg o gael eich taro a'ch lladd gan goeden neu gangen sy’n syrthio yn isel iawn (rhyw un ym mhob 10 miliwn yn achos y coed hynny sydd mewn ardaloedd neu ger ardaloedd a ddefnyddir yn aml gan y cyhoedd).

Felly, mae'n annhebygol y cewch eich brifo gan goeden dim ond am ei bod yn dal. Mae coed wedi esblygu dros y milenia i ffynnu a goroesi ym mhob math o amodau andwyol. Maen nhw wedi'u harfogi'n fio-fecanyddol gan natur i ymdopi â gwyntoedd mawr. Fe ddylai'r goeden symud a phlygu gyda'r gwynt. Nid yw ei gweld yn symud yn golygu ei bod yn debycach o fethu. Er hynny, mae'n bwysig bod perchnogion coed mawr yn agos at unrhyw darged posibl, yn trefnu archwiliadau bob hyn a hyn gan feddygon coed sydd â chymwysterau addas, a bod unrhyw waith cynnal a chadw angenrheidiol yn cael ei drefnu wedyn.

Wrth gwrs, all neb ragweld sut y bydd unrhyw strwythur, naturiol neu artiffisial, yn ymddwyn mewn tywydd eithafol, ond mae hyn yr un mor wir am eich simnai ag am goeden. Dyna danlinellu mor bwysig yw gofyn i feddyg coed cymwys asesu'r goeden/coed am unrhyw beryglon neu ddiffygion y mae’n rhesymol eu rhagweld.
 

Mae fy Nghwmni Yswiriant / Gwerthwr Tai / Cyfreithiwr  eisiau gwybod  pa mor dal yw'r goeden a pha mor bell i ffwrdd yw hi o'r tŷ. Un o goed y Cyngor yw hi. Allwch chi ddweud wrtha i?

Yn anffodus, does gennym ni mo’r adnoddau i roi blaenoriaeth i'r math hwn o gais. Mae llawer o apiau ar gael a fydd yn helpu i asesu uchder cyffredinol coed ac eraill a fydd yn helpu i fesur y pellter o'ch eiddo os na allwch chi ddefnyddio tâp mesur (efallai bod ffordd yn y ffordd a allai olygu bod mesur y pellter yn beryglus i chi). Mae rhai apiau da hefyd ar gyfer adnabod y coed a allai hefyd fod o ddefnydd.

Does dim sail gyfreithiol na gwyddonol i gwmnïau yswiriant gosbi cwsmeriaid drwy ordaliadau neu bremiymau uwch oherwydd coeden gyfagos – cyn belled â'i bod yn cael ei rheoli'n rhesymol a'i hasesu o bryd i'w gilydd gan feddyg coed cymwys.
 

Mae coeden ar dir wrth ymyl fy nhŷ i a dwy ddim eisiau hi yno felly rwy’n mynd i'w thorri. Beth fydd yn digwydd os bydd rhywun yn cael gwybod?

Mae torri'n ôl, tocio, "brigdorri", neu dynnu coeden heb awdurdod ar dir preifat neu dir y Cyngor yn anghyfreithlon ac fe allai arwain at erlyniad cyfreithiol. Gellir dwyn cyhuddiad o dresmasu anghyfreithlon neu ddifrod troseddol – gan arwain at ddirwyon sylweddol a ffioedd cyfreithiol.

Gall partïon sy'n gyfrifol am weithredu o'r fath hefyd fod yn torri’r deddfau cynllunio, ac yn torri rheoliadau Trwyddedau Torri Coed. I dorri nifer sylweddol o goed, mae angen sicrhau Trwydded Torri Coed ymlaen llaw, sy’n cael eu gweinyddu gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Gall methu â dangos prawf o Drwydded Torri Coed pan ofynnir ichi wneud hynny arwain at erlyniad a dirwyon sylweddol iawn.
 

Mae gwreiddiau coeden (cyngor/preifat) yn difrodi wal yr ardd / yn tyfu o dan fy nhŷ i. Ga i eu  torri nhw i ffwrdd?

Dyw gwreiddiau coed ddim yn creu digon o bwysau i sigo sylfeini modern tŷ neu strwythur arall sydd wedi'i lwytho'n drwm. O bryd i'w gilydd fe fyddan nhw’n effeithio ar strwythurau ysgafnach fel waliau gardd neu ystafelloedd gwydr, a phan fydd hyn yn digwydd mae atebion peirianyddol ar gael yn aml, megis pontio'r gwreiddyn â lintel, sy'n caniatáu i'r goeden a'r wal gydfodoli.

Y gyntaf dylech roi galwad i yswiriwr eich tŷ, i ddweud bod yr eiddo/wal wedi'u difrodi. Bydd y cwmni yswiriant yn ymchwilio ac os gwelan nhw mai'r goeden yw achos y difrod, bydd eich yswiriwr yn hysbysu perchennog y goeden (cyngor / preifat) ac yn dweud beth mae'n rhaid ei wneud i ddatrys y mater.

Mae gan breswylwyr hawliau yn y 'gyfraith gyffredin' i docio gwreiddiau (a changhennau) sy’n tresmasu, a hynny yn ôl i ffin eu heiddo, ond fe'ch cynghorir yn gryf i ofyn am arweiniad proffesiynol ymlaen llaw gan gontractwr llawfeddygaeth goed lleol ag enw da, neu feddyg coed ymgynghorol annibynnol, cyn gwneud hynny. Y rheswm am hyn yw y gall tocio gwreiddiau (a changhennau mawr) achosi niwed sylweddol i'r goeden neu beri i'r goeden honno fynd yn heintus neu'n beryglus – yn enwedig os caiff y gwaith ei wneud gan gontractwyr dibrofiad neu amhroffesiynol. Gallai partïon sy'n gyfrifol am waith o'r fath fod yn atebol am unrhyw ddifrod a achosir, neu am unrhyw werth amwynder a gollir, o ganlyniad i'w gweithredoedd.

Rydyn ni wedi paratoi rhestr o Ymgynghorwyr Coedyddiaeth a meddygon coed lleol sydd â chymwysterau addas. Fel arall, anfonwch neges ebost at GweinydduParciau@caerffili.gov.uk i ofyn am gopi.  Gallwch chwilio am help proffesiynol gan ymgynghorwyr ar wefan y Gymdeithas Coedyddiaeth.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am eich hawliau 'cyfraith gyffredin’ ar lystyfiant sy’n bargodi.
 

Mae gan fy nghymydog goeden fawr ar y ffin â’m gardd i. Mae wedi dechrau bod yn broblem. Ga i eu gorfodi nhw i'w rheoli neu i’w thynnu?

Mae coed yn yr ardd yn aml yn agos at ymylon eiddo ac ar y ffiniau. Bydd angen ichi ddarganfod o'ch gweithredoedd neu gan eich cyfreithiwr pa ffiniau sy'n perthyn i ba dŷ. Os yw bôn y goeden yn tyfu'n gyfan gwbl ar dir y cymydog bydd y goeden yn perthyn iddyn nhw hyd yn oed os mai eich cyfrifoldeb chi yw'r berth. Mae’r Gofrestrfa Tir yn darparu rhagor o ganllawiau ar ffiniau.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am eich hawliau 'cyfraith gyffredin’ ar lystyfiant sy’n bargodi.

Os yw'r goeden yn pontio'r ffin yna mae'n debygol eich bod chi a'ch cymydog yn berchen ar y goeden ar y cyd. Y ffordd orau o weithredu yw trafod y mater gyda'ch cymydog mewn ffordd gyfeillgar i ddod i gytundeb ynghylch rheoli'r goeden ac unrhyw anawsterau sydd gennych ynglŷn â hi. Os ydych chi'n berchen ar y goeden ar y cyd yna bydd angen i chithau gael caniatâd y cymydog cyn gwneud neu gomisiynu gwaith ar y goeden.

Os ydych chi'n credu bod y goeden yn beryglus, (er enghraifft, efallai bod ganddi ganghennau sydd wedi'u hollti neu wedi marw neu ffyngau sy’n dwyn ffrwyth) yna ysgrifennwch at berchennog y goeden cyn gynted â phosibl yn mynegi'n gwrtais unrhyw bryderon sydd gennych gan ofyn iddyn nhw drefnu archwiliad o'r goeden gan feddyg coed ymgynghorol sydd â chymwysterau addas ac sydd wedi'i yswirio'n broffesiynol, a threfnu unrhyw waith adfer angenrheidiol os yw'n briodol.

Rydyn ni wedi paratoi rhestr o Ymgynghorwyr Coedyddiaeth a meddygon coed lleol sydd â chymwysterau addas. Fel arall, anfonwch neges ebost at GweinydduParciau@caerffili.gov.uk i ofyn am gopi.  Gallwch chwilio am help proffesiynol gan ymgynghorwyr ar wefan y Gymdeithas Coedyddiaeth.

Os ydych yn dal yn methu dod i gasgliad boddhaol, efallai y byddai'n ddefnyddiol gofyn i drydydd parti sy'n adnabyddus i chi’ch dau gyfryngu cyn i'r berthynas chwalu'n llwyr. Fel y dewis olaf efallai y bydd modd cael gwaharddeb llys sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog ddelio â'r goeden – byddai angen ichi drafod hyn gyda chyfreithiwr.

Fydd y cyngor ddim yn ymwneud â'r math hwn o fater gan ei fod yn fater preifat hyd yn oed os ydych chi’n credu ei fod yn beryglus. Dylech ofyn am gymorth cyfreithiol proffesiynol gan gyfreithiwr.

Er hynny, os yw'r goeden/coed dan sylw o fewn pellter o briffordd gyfagos neu fynedfa gyhoeddus gyfreithlon, yna bydd y Cyngor yn asesu unrhyw fygythiad uniongyrchol a rhagweladwy i'r briffordd neu'r fynedfa gyhoeddus honno ac yn prosesu unrhyw gamau gorfodi angenrheidiol yn unol â hynny.

Os yw'r mater yn ymwneud â rhes o goed bytholwyrdd gweler ein hadran perthi uchel i gael manylion. Yr adran iechyd yr amgylchedd ac nid adran y parciau sy’n ymdrin â materion perthi uchel gan iechyd yr amgylchedd ac nid adran y parciau.
 

Mae coeden fy nghymydog yn bargodi i'm heiddo preifat i: sut mae ei thorri'n ôl?

Gallwch ofyn i berchennog y goeden ei thocio'n ôl i'r ffin, ond dylech nodi nad oes rhaid iddyn nhw wneud hynny.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am eich hawliau 'cyfraith gyffredin’ ar lystyfiant sy’n bargodi.
 

Mae coeden yn bargodi ac yn rhwystro'r briffordd gyhoeddus; beth alla i ei wneud i'w thocio?

Mae coed a/neu lystyfiant arall sy’n bargodi o eiddo preifat i'r briffordd gyhoeddus yn cael eu trafod gan ein Harolygwyr Priffyrdd sy'n gorfodi Deddf Priffyrdd 1980.  Rhowch wybod am faterion i’r adran Gofal Cwsmeriaid Priffyrdd.
 

Sut mae canfod pwy yw perchennog coed sy'n peri pryder i mi neu fy eiddo?

Am dâl bach (£3 ar hyn o bryd am y plan a £3 am y teitl - Hydref 2020) gallwch gael gwybod gan y Gofrestrfa Tir a yw'r tir wedi'i gofrestru ac i bwy mae'r tir wedi'i gofrestru (os oes yna berchennog cofrestredig) 

Ewch i wefan y Gofrestrfa Tir lle gallwch chwilio am gyfeiriad eiddo neu bori’r map.
 

Mae iorwg yn tyfu i fyny bôn fy nghoeden ac rwy'n credu ei bod yn mynd i'w lladd. Oes angen i mi dynnu’r iorwg?

Nid yw iorwg yn barasitig ac nid yw'n lladd coed. Y brif broblem sy'n gysylltiedig ag iorwg yw y gall gynyddu'n sylweddol yr 'effaith hwyliau' a'r pwysau ar goed collddail yn y gaeaf gan eu gwneud yn fwy agored i niwed mewn storm. Problem arall yw y gall iorwg guddio diffygion ym môn a phrif ganghennau’r goeden.

Mae iorwg yn bwysig yn ecolegol. Mae'n blodeuo'n hwyr yn y flwyddyn gan gynnig un o'r ffynonellau bwyd olaf i bryfed cyn y gaeaf. Mae'r ffrwythau'n datblygu yn ystod y gaeaf ac yn aeddfedu yn gynnar yn y gwanwyn pan fydd prinder bwyd i adar a mamaliaid. Oherwydd ei natur fythwyrdd mae iorwg hefyd yn darparu gorchudd da yn y gaeaf. Mae'n debyg y bydd angen rheoli iorwg os yw'n ymestyn yn uchel i goron y goeden ac yn tyfu ar hyd y canghennau ochrol.

Fel arfer, bydd iorwg yn cael ei reoli drwy dorri a thynnu rhannau o'r coesynnau ar waelod y goeden. Os yw'r iorwg wedi mynd yn rhemp, gall hynny ddangos bod y goeden yn afiach.  Rydym yn argymell eich bod yn gofyn am gyngor gan weithiwr proffesiynol coedyddiaeth annibynnol.

Rydyn ni wedi paratoi rhestr o Ymgynghorwyr Coedyddiaeth a meddygon coed lleol sydd â chymwysterau addas. Fel arall, anfonwch neges ebost at GweinydduParciau@caerffili.gov.uk i ofyn am gopi.  Gallwch chwilio am help proffesiynol gan ymgynghorwyr ar wefan y Gymdeithas Coedyddiaeth.
 

Mae gan fy nghoeden ffwng yn tyfu arni. Ydy hyn yn golygu bod y goeden yn anniogel?

Mae llawer o fathau o ffyngau sy'n effeithio ar goed.  Gall arwyddocâd y ffwng amrywio o’r naill  rywogaeth o goeden i’r llall. Gall rhai mathau o ffwng beri i’r goeden fethu tra bo eraill yn cael ychydig yn unig o effaith ar y goeden. Ni fydd cael gwared ar gorff ffrwythlon y ffwng yn unioni'r broblem, gan mai dim ond y rhan atgenhedlol yw hyn; gall prif gorff y ffwng fod y tu mewn i'r goeden. Rydym yn argymell eich bod yn gofyn am gyngor gan weithiwr proffesiynol coedyddiaeth annibynnol.

Rydyn ni wedi paratoi rhestr o Ymgynghorwyr Coedyddiaeth a meddygon coed lleol sydd â chymwysterau addas. Fel arall, anfonwch neges ebost at GweinydduParciau@caerffili.gov.uk i ofyn am gopi.  Gallwch chwilio am help proffesiynol gan ymgynghorwyr ar wefan y Gymdeithas Coedyddiaeth.
 

Ble alla i gael gwybodaeth am glefyd Coed Ynn?

Gweler ein tudalen ar glefyd coed ynn (yn cael ei adeiladu, mis Hydref 2020)
 

Mae gwreiddiau coeden yn blocio fy nraeniau. Beth alla i ei wneud?

Mae gwreiddiau coed yn chwilio am bob cyfle ac os yw pibell yn ddiffygiol, neu heb ei selio'n dda, gall y cymalau ollwng dŵr i'r pridd cyfagos a denu'r gwreiddiau tuag atyn nhw. Mae technegau modern yn golygu bod modd leinio llawer o bibellau i wneud iddyn nhw weithio'n effeithlon eto. Bydd y gwreiddiau yn cael eu tocio ond efallai na fydd angen tynnu'r goeden.  Dylech ffonio yswiriwr eich tŷ, gan ddweud bod y draeniau wedi'u difrodi a gofyn am arweiniad ynghylch sut i fwrw ymlaen.
 

Mae coeden ar y banc y tu allan ac mae’n gwyro. A ddylwn i boeni?

Gall coed sy'n gwyro beri pryder, ond nid yw pob coeden sy'n gwyro yn beryglus. Er enghraifft, mae gan goed derw ffeibrau pren cryf a'r gallu i dyfu pren ychwanegol lle mae ei angen i gadw'r goeden yn y safle mwyaf syth. Gallant dyfu i wyro i ffwrdd o goed eraill neu i ffwrdd o strwythurau heb dorri, gan ffurfio "gwyriad sefydlog". Yn aml mae coed yn tyfu ar ongl pan fyddant ar ymyl coetir, neu grŵp o goed, er mwyn cael cymaint á phosibl o heulwen sydd ar gael ar yr ymylon.

Os oes coed yn gwyro dros briffordd neu lwybr, meddyliwch am y canlynol cyn cysylltu â'r cyngor. (Sylwch: os yw'r goeden mewn perchnogaeth breifat ac yn gwyro dros dir preifat cyfagos, fydd y cyngor ddim yn ymwneud â hyn – trafodwch gyda pherchennog y goeden yn hytrach na'r cyngor.)

Ers pryd mae wedi bod yn gwyro? Ydy hyn wedi newid yn sydyn neu ydy hi fel hyn ers blynyddoedd? Oes gwaith cloddio wedi’i wneud o dan rychwant y canopi - efallai yn sgil gwaith adeiladu diweddar? Oes damwain traffig ffyrdd wedi bod? Ydy hi’n goeden ifanc a blannwyd yn ddiweddar? Ydy’r tir wedi'i olchi i ffwrdd o'r gwreiddiau neu oes tirlithriad wedi bod?

Rhowch wybod am goed sydd â phlât gwreiddiau wedi'i godi gan fod y gwreiddiau ar y coed hyn wedi torri ac yn gallu pydru o ganlyniad i hynny. Efallai y gwelwch chi fod y tir wedi symud ac efallai fod gwreiddiau wedi torri  yn dangos. Mae cefnogaeth strwythurol i’r bôn wedi mynd, a bydd angen archwilio'r goeden a chymryd camau adfer. 

Rhowch wybod am goed sydd â chraciau fertigol yn y bôn neu'r prif ganghennau gan y gall hyn fod yn arwydd o wendid mewnol. Mae pren â chraciau ynddo yn fwy tueddol o fethu na phren cadarn.

Cysylltwch â’r adran Gofal Cwsmeriaid i roi gwybod am y broblem hon a chynnwys ffotograffau er mwyn inni wneud asesiad cychwynnol.
 

Mae un o goed y cyngor/coeden breifat wedi'i drysu â gwifrau uwchben – beth ddylwn i ei wneud?

Os ceblau trydan yw’r gwifrau uwchben, cysylltwch â Western Power Distribution. Gallan nhw asesu'r broblem a gwneud unrhyw waith tocio angenrheidiol. Does dim angen ichi roi gwybod i'r cyngor am hyn.  Yn aml, mae gan y polion arwydd trionglog melyn yn nodi "Perygl marwolaeth".

Os llinellau ffôn yw’r gwifrau uwchben a'u bod wedi'u difrodi neu’n anniogel, yna cysylltwch â BT Openreach. Mae eu gwefan yn rhoi canllaw hwylus i adnabod y polion sy’n perthyn i Openreach.
 

Mae coeden wedi disgyn i'r afon. Pwy sy'n delio â hynny?

Does dim angen ichi ddweud wrth y cyngor. Yn hytrach, mae angen i chi hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'n bwysig eu bod nhw’n cael gwybod gan y gallai coeden sydd wedi cwympo arwain at lifogydd.