Cael help gyda'ch biliau ynni chi

Getting Help With Your Energy Bills

Fel cyngor, rydyn ni wedi ymrwymo i helpu ein trigolion ni i leihau eu biliau tanwydd nhw a chadw'n gynnes ac yn iach.

Mae sawl cynllun bellach ar gael i drigolion ddatrys hyn, o daliadau cymorth Llywodraeth y DU, gosod gwres canolog am ddim, newid cyflenwr ynni, cymorth gyda dyledion tanwydd, mesurau arbed ynni, offer ynni effeithlon a mwy

Cymorth Llywodraeth y DU

Taliad Tanwydd y Gaeaf

Efallai y byddwch chi’n cael Taliad Tanwydd y Gaeaf os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol neu Gymorth ar gyfer Llog ar Forgais.

Mae cynllun Taliad Tywydd y Gaeaf 2021 i 2022 bellach wedi dod i ben. Bydd cynllun y flwyddyn nesaf yn dechrau ar 1 Tachwedd 2022.

Byddwch chi’n gallu edrych os oes taliad yn cael ei wneud yn eich ardal chi ym mis Tachwedd 2022. 

Cymorth Biliau Ynni

Bydd pob cartref ym Mhrydain o fis Hydref ymlaen yn cael gostyngiad o fil ynni o £400 o dan y cynllun cymorth biliau ynni, gan gynnwys y rhai sy'n talu am ynni gan ddefnyddio tâl wrth fynd neu fesuryddion rhagdalu.  Bydd y rhai ar fesuryddion, y mae cwsmeriaid yn ychwanegu arian atyn nhw, yn cael y gostyngiad ar y mesurydd neu'n cael taleb. Taliad bob mis am 6 mis.

Bydd y gostyngiad hwn yn cael ei gymhwyso'n awtomatig i'ch biliau chi. 

Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes

Taliad untro i leihau biliau cwsmeriaid cymwys dros fisoedd y gaeaf yw’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes. Gaeaf eleni (2022-23), mae'n codi o £140 i £150.

Yng ngaeaf 2022-23, bydd y rhan fwyaf o aelwydydd cymwys yn cael Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn awtomatig.

Mae hyn yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, pan oedd yn rhaid i chi hawlio'r arian oddi wrth eich cyflenwr chi os nad oeddech chi’n hawlio cyfran Credyd Gwarant o Gredyd Pensiwn.

Ni fydd y gostyngiad yn effeithio ar eich Taliad Tywydd y Gaeaf chi na'ch Taliad Tanwydd Gaeaf.

Taliadau Tanwydd Gaeaf

Os ydych chi eisoes yn derbyn pensiwn y wladwriaeth neu fudd-dal lles arall sy’n cael ei dalu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, byddwch chi’n cael y taliad yn awtomatig. 

Os nad ydych chi, bydd angen i chi wneud cais.  Am ragor o wybodaeth, ffoniwch linell gymorth Taliadau Tanwydd Gaeaf ar 08459 151 515 neu fynd i Gov.UK. 

Arbedion ynni cartref

Os ydych chi’n cael trafferth talu eich biliau tanwydd chi, cysylltwch â'ch cyflenwyr ynni chi yn y lle cyntaf. Mae'r rhan fwyaf yn cynnig tariffau llai ar gyfer pobl incwm isel neu’r rhai sy'n agored i niwed.

Cyngor ar Bopeth

Mae Prosiect Cyngor ar Ynni Moondance Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor ynni un-i-un i bobl dlawd ac agored i niwed sy'n cael trafferth talu eu biliau nhw. Maen nhw'n cynnig cyngor ar opsiynau tanwydd, tariffau a grantiau ynni, effeithlonrwydd ynni a gwneud y mwyaf o incwm. 

Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth a meini prawf cymhwysedd, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth ar 0800 702 2020. Os na allwch chi glywed neu siarad dros y ffôn, gallwch chi deipio'r hyn yr hoffech chi ei ddweud drwy ddefnyddio Relay UK 18001, yna 08082 505 720.

Cyflenwyr Ynni a Chyfleustodau

Mae cleientiaid sydd mewn dyled i'w cyflenwr ynni yn gallu cael grant i helpu i'w dalu. 

Fodd bynnag, mae llawer o'r cyflenwyr ynni yn gofyn i chi ofyn am gyngor yn gyntaf gan elusen cyngor dyled cydnabyddedig.

Mae'r cyflenwyr ynni a chyfleustodau canlynol yn cynnig grantiau i'w cwsmeriaid nhw:

Cronfa Cymorth Dewisol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn darparu 2 fath o grant nad oes angen i chi eu talu'n ôl.

Taliad Cymorth Brys

Grant i helpu talu am gostau hanfodol, fel bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn argyfwng os ydych chi:

  • yn profi caledi ariannol eithafol
  • wedi colli eich swydd chi
  • wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac rydych chi’n aros am eich taliad cyntaf chi

Ni allwch chi ei ddefnyddio i dalu am filiau parhaus na allwch chi fforddio eu talu.

Taliad Cymorth Unigol

Grant i'ch helpu chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdano i fyw'n annibynnol yn ei gartref neu eiddo rydych chi’n symud iddo neu eiddo y mae’r person yn symud iddo. Yr hyn y gallwch chi ddefnyddio'r grant ar ei gyfer,

Gallwch chi ddefnyddio’r grant i dalu am:

  • oergell, ffwrn neu beiriant golchi a 'nwyddau gwyn' eraill
  • celfi cartref megis gwelyau, soffas a chadeiriau

Ewch i wefan Cronfa Cymorth Dewisol | LLYW. CYMRU i gael cyngor ar sut i ymgeisio 

Cyngor pellach

Nyth Cymru

Mae Nyth Cymru yn darparu gwelliannau am ddim mewn effeithlonrwydd ynni i'r cartref fel boeler newydd, gwres canolog neu insiwleiddio i breswylwyr cymwys.  Ewch i wefan Nyth Cymru neu ffonio 0808 808 2244.

Mesuryddion Smart

Mae monitro eich defnydd chi o ynni a nodi arbedion posibl yn eich cartref chi yn gallu helpu. Cysylltwch â'ch cyflenwr chi am ragor o wybodaeth. 

Age UK

Mae'n debyg eich bod chi wedi sylwi ar eich biliau ynni chi'n codi.  Ond mae'n bwysig gwybod pam fod hyn yn digwydd a beth allwch chi ei wneud i gadw’r costau cynyddol dan reolaeth.   Mae gan Age UK nifer o adnoddau ar gael i'ch helpu chi gyda'ch biliau ynni chi. 

Contact us