Ffair Nadolig Caerffili

Date : 12 Rhagfyr 2020 9:00a.m.

Venue : Caerffili

Ffair Nadolig Caerffili
Ffair Nadolig Caerffili

Dydd Sadwrn 12 Rhagfyr

Profwch olygfeydd, synau ac arogleuon tref a chastell sy’n paratoi ar gyfer y Nadolig gyda reidiau ffair traddodiadol, arogl gwin twym, adloniant stryd a mwy na 100 o stondinau bwyd, crefft ac anrhegion.

Bydd y rhai sy’n hoff o fwyd wrth eu boddau gyda stondinau sy’n llawn cynnyrch ffres blasus, gan gynnwys siocled a diodydd sy’n tynnu dŵr o ddannedd … ac sy’n cyd-fynd yn berffaith â’ch cinio Nadolig!

Wrth grwydro’r farchnad, gwelwch amrywiaeth o emwaith rhyfeddol ac anrhegion diddorol i lenwi’r hosanau a phrynu’r anrheg Nadolig perffaith.

Mae Marchnad Ffermwyr hefyd i ategu cymysgedd y dref o siopau annibynnol a siopau’r Stryd Fawr.

DIGWYDDIAD AM DDIM yn y dref..

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Ganolfan Croeso Caerffili ar 029 2088 0011 neu anfonwch e-bost at digwyddiadau@caerffili.gov.uk


Please let us know