Rhoi gwybod am broblem ar hawl tramwy cyhoeddus

Rhowch wybod i ni am unrhyw broblem ar hawl tramwy cyhoeddus, gan gynnwys problemau’n ymwneud â’r canlynol:

  • arwyddion
  • anifeiliaid
  • rhwystrau
  • llystyfiant sydd wedi tyfu’n wyllt
  • achos o gamddefnyddio llwybr
  • achos o aredig neu dyfu cnydau
  • wyneb llwybr
  • draeniaugatiau, camfeydd a chanllawiau

Sylwer: Problemau yn ymwneud â phriffyrdd yw problemau gyda ffordd, troedffordd neu balmant gan gynnwys tyllau, draeniad a chwyn, a dylid rhoi gwybod i'r tîm Priffyrdd am y rhain. Cliciwch yma i roi gwybod am broblem yn ymwneud â phriffyrdd.

Fel arall, gallwch gysylltu â thîm gofal cwsmer yr adran briffyrdd.

Cyflwynwch adroddiad ar wahân ar gyfer pob problem unigol. Helpwch ni i nodi'r lleoliad yn gyflym drwy nodi cyfeirnod grid, neu ddisgrifiad manwl o’r lleoliad (gallwn ddefnyddio cyfeiriadau stryd, codau adnabod goleuadau stryd, What3Words a Chodau Google Maps Plus). 

Os yw’n fater brys a allai achosi anaf neu ddamwain, cysylltwch â 01443 866645 / 866669 yn ystod oriau swyddfa.

Am argyfyngau y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch ein gwasanaeth brys y tu allan i oriau ar 01443 875500.

Mae faint o amser y mae'n ei gymryd i ni archwilio ac ymdrin ag adroddiadau yn dibynnu ar beth yw'r broblem a pha mor hawdd y gallwn ni ddarganfod pwy sy'n berchen ar y tir a phwy sy'n gyfrifol amdano. Mae hefyd yn dibynnu ar ein hadnoddau a’n blaenoriaethau gweithredol.