Dewis Bargod

Mae canol tref Bargod yn rhan o Ardal Adfywio Blaenau'r Cymoedd ac yn gweithredu fel prif dref gogledd y Fwrdeistref Sirol.

Mae Bargod yn hawdd ei chyrraedd ar y bws, ar y trên ac yn y car, ac mae cysylltiadau trafnidiaeth da â phrif lwybrau teithio – dim ond 30 munud o'r M4, a chysylltedd rhagorol ar hyd A465 Ffordd Blaenau'r Cymoedd i Orllewin Canolbarth Lloegr, Gorllewin Cymru ac Iwerddon. Mae'r dref yn cynnwys cyfnewidfa bysiau a threnau newydd, gan gymryd 45 munud i gyrraedd Caerdydd ar y trên, ac mae mannau parcio ar gael mewn nifer o leoliadau cyfleus ledled canol y dref.

Ewch i'r adran trafnidiaeth a pharcio sy'n cynnwys gwybodaeth am fysiau, trenau a thacsis, a manylion am y meysydd parcio sydd ar gael ym Margod.

Mae gan yr hen dref lofaol hon ysbryd cymunedol cryf, ac mae'n gartref i nifer o fanwerthwyr ac archfarchnadoedd cenedlaethol, ynghyd ag amrywiaeth o fusnesau annibynnol llai, gan gynnwys cymysgedd o gaffis, siopau trin gwallt, siopau anrhegion, siopau dillad a hen bethau, swyddfa bost leol ac amrywiaeth o dafarnau/bwytai a mannau gwerthu bwyd. Mae Capel y Bedyddwyr Hanbury Road, sy'n adeilad rhestredig Gradd II, wedi cael ei haddasu'n llyfrgell newydd, uned adnoddau hanes lleol, cyfleuster Cwsmeriaid yn Gyntaf a man addoli. Mae llwyfandir manwerthu newydd yng nghanol y dref hefyd yn cysylltu'r stryd fawr bresennol â'r cynllun manwerthu Lowry Plaza.

Mae Cyngor Tref Bargod yn cynorthwyo llawer o fentrau'r dref yn weithredol, ynghyd â rhaglen ddigwyddiadau'r Cyngor sy'n digwydd ledled canol y dref yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys Ffair y Gwanwyn Bargod sy'n ddigwyddiad newydd ar gyfer 2023. Cafodd Marchnad a Ffair Grefftau newydd gyffrous ei lansio hefyd ym mis Ebrill 2023, a fydd yn digwydd yng nghanol y dref ar drydydd dydd Sadwrn bob mis.

Mae'r manylion am raglen ddigwyddiadau'r Cyngor ar gael ar wefan Croeso Caerffili.

Mae'r ardal gyfagos yn llawn gweithgareddau hamdden, gan gynnwys Parc Bargod, Parc Coetir Bargod a Pharc Cwm Darran, ynghyd â phwll nofio a dosbarthiadau ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Heolddu. Gall ymwelwyr fwynhau Comin Gelligaer a Merthyr gerllaw, sydd wedi'i ddynodi'n Dirwedd Hanesyddol gan Cadw, ynghyd â safleoedd treftadaeth lleol Y Drenewydd a'r Tŷ Weindio yn hen Bwll Glo Elliott.

Mae Wi-Fi am ddim wedi'i gyflwyno'n ddiweddar ledled canol y dref, gydag ymwelwyr yn gallu cysylltu â'r rhwydwaith ‘FreeCCBCWifi’. Mae cyllid hefyd wedi'i sicrhau ar gyfer Bargod fel rhan o raglen Creu Lleoedd Llywodraeth Cymru, sef Trawsnewid Trefi, a fydd yn cael ei ddyrannu tuag at wneud gwelliannau i fannau cyhoeddus yn y dref.

Ap Tref Glyfar - Dyddiad lansio 1 Mehefin 2023

Mae Bargod yn dref smart. Lawrlwythwch yr ap ‘VZTA Smart Towns’ i archwilio Bargod yn eich llaw a darganfod beth sydd ar gael yn y dref! Siopa, gwybodaeth am fusnesau a chynnyrch, dod o hyd i'r anrheg berffaith neu le i fwyta, atyniadau i'w gweld a lleoedd i ymweld â nhw – mae ‘VZTA’ yn dod â Bargod at ei gilydd, ac yn ei gwneud hi'n gyflym a hawdd i chi ei darganfod a'i harchwilio.

Lawrlwytho VZTA

Tîm Rheoli Canol Trefi

Os hoffech chi drafod cyfleoedd busnes yng Nghanol Tref Bargod, cysylltwch â'r Tîm Rheoli Canol Trefi.

choose-the-high-street-cy.JPG

Cysylltwch â ni