Celfwaith cyhoeddus

“Celf gyhoeddus yw un o lwyddiannau mawr y fwrdeistref sirol yn y celfyddydau.” Strategaeth Gelf Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Cydweithio'n greadigol

Mae llawer o drefi, pentrefi a pharciau gwledig ym mwrdeistref sirol Caerffili yn cynnwys darnau o gelf gyhoeddus sy'n ddeniadol ac yn llawn dychymyg, gan gynnwys cerfluniau, mosaigau, murluniau, a darnau eraill o gelf wreiddiol.

Rydyn ni'n gweithio'n greadigol gydag ysgolion lleol, cymunedau, artistiaid, a mudiadau celfyddydol i ddatblygu a chynhyrchu celfwaith sy'n cyfoethogi ac yn adlewyrchu hanes, dyfodol a diwylliant cymunedau lleol ar hyd a lled y fwrdeistref sirol.

Yn ei ffurf symlaf, mae celf gyhoeddus yn darparu diddordeb pryfoclyd yn yr amgylchedd ac yn helpu ysgogi ymdeimlad o falchder a hunaniaeth. Dros y blynyddoedd mae cryn dipyn o fuddsoddi wedi canolbwyntio ar gelfwaith cyhoeddus yn y fwrdeistref sirol, gyda'r Tîm Adnewyddu Trefol ynghlwm wrth bortffolio buddsoddi o tua £1.7 miliwn yn y sector creadigol hwn. Daw'r arian ar gyfer y cynlluniau hyn yn bennaf gan wahanol fudiadau ariannu allanol a'r Cyngor.