Swyddfeydd Arian
Sylwch: O ddydd Llun 4 Gorffennaf 2022, bydd gennym ni nifer cyfyngedig o apwyntiadau ar gael yn rhai o’n Canolfannau Gwasanaethau i Gwsmeriaid. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
01443 866571.
Taliadau dros y We
Yn hytrach nag ymweld â swyddfa arian parod, gallwch nawr wneud y taliadau canlynol ar-lein 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos:
- Treth gyngor
- Dirwyon parcio
- Blaendaliadau tai
- Gordaliadau budd-daliadau tai
- Rhent tai cyngor
- Ardrethi busnes
- Mân ddyledwr (anfonebau)
- Dŵr Cymru
Mae'r cyfleuster Taliad Cyflym yn eich galluogi i dalu biliau'n ddiogel ar-lein heb orfod cofrestru cyfrif na mewngofnodi.
GWNEUD TALIAD
Taliadau dros y ffôn
Gellir gwneud taliadau 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, drwy ddefnyddio ein gwasanaeth talu dros y ffôn awtomatig ar 01443 863366.
Cysylltiadau ffôn
Mae pob un o'r 8 swyddfa arian parod yn swyddfeydd penodedig ar gyfer derbyn hawliadau am fudd-dal tai neu ostyngiad yn y dreth gyngor.
- Ar gyfer ymholiadau cyffredinol i swyddfeydd arian parod ffoniwch 01443 815588
- Ar gyfer ymholiadau am y dreth gyngor ffoniwch 01443 863002
- Ar gyfer ymholiadau am fudd-dal tai a gostyngiad yn y dreth gyngor ffoniwch 01443 864133 (ar gyfer tenantiaid preifat) neu 01443 864022 (ar gyfer tenantiaid y cyngor)