Ymgynghoriad Meysydd Chwarae Bedwellte

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwriadu gwaredu dau faes chwarae ar dir yr hen Ysgol Gyfun Bedwellte, Heol Pengam, Aberbargod, a nodir ar y cynllun atodedig o fewn yr adroddiad a ystyriwyd gan y Cabinet ar 25 Ebrill 2018 (wedi'i amlygu mewn coch).

Caewyd Ysgol Gyfun Bedwellte yn 2005, ac fe'i  dymchwelwyd wedyn, gyda'r meysydd chwarae yn cael eu defnyddio eto yn swyddogol yn 2015 i hwyluso anghenion clwb lleol gan fod cyflwr y tir ar eu tir cartref blaenorol yn anfoddhaol.

Ym mis Ionawr 2018, gwaredwyd yr ardal a amlygwyd mewn glas ar y cynllun atodedig gan y Cyngor ar gyfer datblygiad preswyl. Roedd yr ardal hon o dir yn cynnwys y pafiliwn oedd yn cefnogi'r meysydd chwarae, ond fe'i dymchwelwyd wedyn gan nad oedd yn addas i'r pwrpas.

Cafwyd deialog gadarnhaol helaeth gyda'r unig ddefnyddwyr sy'n hysbys o'r maes chwarae (Clwb Pêl-droed Trelyn) sy'n awyddus i ddychwelyd i chwarae chwaraeon yng nghalon eu cymuned ym Mharc Trelyn, Trelyn.  Ar hyn o bryd mae dau faes ym Mharc Trelyn.  Mae'r ddau ohonynt yn cael eu tanddefnyddio ac felly gellir diwallu anghenion y ddau glwb gan ddefnyddio'r ardal hon a gall hyn ddim ond gwella a chynyddu cyfranogiad lleol mewn chwaraeon.    

Os hoffech wneud sylwadau am waredu'r ardal o dir hwn, llenwch yr holiadur isod:

Mae'r holiadur hefyd ar gael isod fel fersiwn argraffadwy Dylai'r rhain gael eu dychwelyd drwy'r post i Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Parc Tredomen,  Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG.

Dylid cyflwyno pob ymateb erbyn, heb fod yn hwyrach na, 5pm ddydd Iau 22 Tachwedd 2018.

Ar gyfer ymholiadau, e-bostiwch  ymgysylltiadcyhoeddus@caerffili.gov.uk.

Nid yw'r ymgynghoriad hwn wedi ffurfio rhan o'r Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol ehangach gan ei bod yn rhwym i'r broses ymgynghori statudol a nodir yn y rheoliadau a enwyd eisoes.