Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Tanysgrifio
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi a hyfforddiant
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Canolfannau Hamdden
    • Taliadau Cymorth i Ofalwyr Di-dâl
    • Cynllun Cymorth Costau Byw
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Etholiadau Lleol 2022
    • Councillors and committees
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
A allaf helpu?
Argyfwng Wcráin : Mae'r manylion am sut i gynnig cymorth, a ble i gael gwybodaeth a chyngor, ar gael ar ein tudalen we Cymorth i Wcráin.
  • Cymerwch ran    Ymgynghoriadau    Adroddiad Ymgynghoriad y Gyllideb 2017-18

Adroddiad Ymgynghoriad y Gyllideb 2017-18 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi wynebu ystod o doriadau sylweddol yn y gyllideb yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae angen cyflwyno amrywiaeth o doriadau i helpu i gyflawni arbedion sylweddol.

Mae cynigion arbedion Drafft ar gyfer 2017/18 yn dilyn egwyddorion allweddol y Cyngor i gyfyngu ar effaith y toriadau ar wasanaethau rheng flaen. Bydd y cynigion arbedion drafft ar gyfer 2017/18 yn dod i gyfanswm o £8.653 miliwn, ond ni fydd y mwyafrif llethol o'r rhain yn cael effaith ar drigolion. (Manylir ar gynigion drafft ar gyfer 2017/18 yn Atodiad 1 yr adroddiad) 

Mae'r gyllideb ddrafft yn cynnwys cynnydd arfaethedig o 1% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2017/18 sef yr un peth a'r llynedd. Byddai hyn yn cyfateb i gynnydd o 19 ceiniog yr wythnos ar gyfer eiddo Band D cyfartalog.

Ceisiwyd safbwyntiau trigolion a rhanddeiliaid ar y cynigion drafft.  Bydd pob barn yn cael ei fwydo'n ôl i, a'u hystyried gan, Aelodau etholedig cyn bydd y gyllideb derfynol ar gyfer 2017/18 yn cael ei chytuno mewn cyfarfod Cyngor Llawn ddydd Mercher 22 Chwefror 2017.

Dull (Beth wnaethom)

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar gyllideb y cyngor dros gyfnod o 6 wythnos o 5 Rhagfyr 2016 tan 14 Ionawr 2017.

Datblygwyd holiadur byr (Atodiad 2 yr adroddiad) i ofyn am farn ar y cynnig cyllideb drafft. Roedd yr holiadur ar gael ar wefan y cyngor ac fe'i hyrwyddwyd trwy gyfryngau cymdeithasol. Dosbarthwyd yr arolwg hefyd i amrywiaeth eang o randdeiliaid a grwpiau allweddol (fel yr amlinellir yn Atodiad 3 o'r adroddiad) drwy e-bost ac mewn fformat printiedig.

Canlyniadau

Cawsom gyfanswm o 41 o arolygon wedi'u cwblhau. Er gall y ffigur hwn ymddangos yn isel, yr oedd i'w ddisgwyl o ystyried "effaith isel" y rhestr o arbedion arfaethedig ar drigolion.

Yn gyffredinol, cafwyd ymateb cadarnhaol i'r cynigion a derbyniwyd bod y cyngor yn gwneud y gorau y gall o dan amgylchiadau anodd. Gellir gweld crynodeb llawn o sylwadau yn Atodiad 4 o'r adroddiad. Cyflwynwyd sylwadau am gyflog uwch-swyddogion fel rhan o adborth yr ymgynghoriad. Mae'r sylwadau hyn wedi eu nodi, ond nid ydynt yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad hwn oherwydd ymchwiliadau mewnol parhaus yr awdurdod.

  • Adroddiad cryno ar ymgynghoriad y gyllideb 2017 (PDF)
Facebook Rhannwch ar Facebook
Twitter Rhannwch ar Twitter
 
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2022, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl