Ymgynghoriad ar Astudiaeth Dichonoldeb Ansawdd Aer Hafodyrynys (Cam 3 Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru)

Mae Cyfarwyddeb Ansawdd Aer yr Amgylchedd yr Undeb Ewropeaidd (2008/50/EC) yn gosod terfynau cyfreithiol rhwymol ar gyfer crynodiadau o lygryddion aer penodol mewn awyr agored a elwir yn ‘gwerthoedd terfyn’. Mae'r A472, Heol Hafod-yr-ynys yn fwy na'r gwerth terfyn ar gyfer nitrogen deuocsid (NO2) ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymchwilio i fesurau i leihau NO2 i sicrhau cydymffurfiaeth â'r Gyfarwyddeb Ansawdd Aer yr Amgylchedd yn yr amser byrraf posibl.

Mae gan astudiaeth ddichonoldeb senario ‘Gwneud y Lleiafswm’, sy'n golygu y byddai codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ac ymgyrchoedd addysgu yn cyflawni cydymffurfiad erbyn 2025.  Roedd yr astudiaeth hefyd yn asesu nifer o opsiynau a ddaeth i'r casgliad y bydd dymchwel y tai yn 1-20 Teras Min-y-coed gan gynnwys 1 a 2 Siop Min-y-coed ac Yr Adfa yn sicrhau cydymffurfiaeth â gwerthoedd terfyn ansawdd aer yn yr amser byrraf posibl - erbyn 2023.

Mae Cabinet Cyngor Caerffili wedi ystyried canfyddiadau'r astudiaeth. Yn dilyn trafodaethau ynghylch yr effaith bosibl ar iechyd meddwl a lles y preswylwyr, ynghyd â'r potensial i greu caledi ariannol; cytunodd y Cabinet i ymgynghori ar yr opsiwn ‘Gwneud y Lleiafswm’ fel yr opsiwn a ffefrir ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth â'r Gyfarwyddeb Ansawdd Aer. Yn ogystal, mae'r Cyngor yn lobïo Llywodraeth Cymru am gymorth ariannol ychwanegol, er mwyn atal y preswylwyr yr effeithir arnynt rhag cael eu gorfodi i galedi ariannol petai angen yr opsiwn dymchwel ar ôl hynny.

Gweler y dogfennau perthnasol isod:

Cynghorir eich bod yn darllen y wybodaeth gysylltiedig (yn enwedig Adroddiad Cam 3 Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru) cyn cwblhau'r arolwg. 

Gellir gweld yr arolwg drwy'r hyperddolen isod:

https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=155420468009

Ymgynghoriad ar Astudiaeth Dichonoldeb Ansawdd Aer Hafodyrynys (Cam 3 Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru) (PDF)

Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw 11 Mehefin 2019.