Arolwg amgylchedd hanesyddol

Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i'r amgylchedd hanesyddol.

Dyma rai o'r materion bydd y Pwyllgor yn eu hystyried:

  • gweithredu Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol;
  • diogelu adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig;
  • diogelu adeiladau a henebion sydd mewn perygl.

Fel rhan o hyn, mae’r Pwyllgor am glywed gan bobl sy'n berchen ar adeiladau rhestredig neu sydd â henebion cofrestredig ar eu heiddo.

Bydd yr arolwg yn cau ar 22 Medi. Bydd eich sylwadau’n cyfrannu at ymchwiliad y Pwyllgor a’i argymhellion terfynol.
Cewch ragor o wybodaeth am yr ymchwiliad 

http://senedd.cynulliad.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?id=271&RPID=1252233098&cp=yes

Privacy Notice

Hysbysiad preifatrwydd ymgynghoriadau ac arolygon (PDF)