Ysgolion Cynradd Trelyn a Phengam

Mae cyrff llywodraethu Ysgolion Cynradd Trelyn a Phengam, ynghyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (yr ALl) yn bwriadu defnyddio'r pwerau a roddwyd iddo gan Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 i sefydlu Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Pengam a Threlyn.

Mae cyrff llywodraethu'r ddwy Ysgol wedi ymgynghori â'r awdurdod lleol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili) ac mae pob un ohonynt yn cefnogi'r cynnig. 

Os derbynnir y cynnig, bydd y Ffederasiwn yn dod i rym ar 1 Medi 2019.

Os hoffech lenwi ffurflen ymateb, gellir gweld copi yn y ddogfen atodedig.

Gellir anfon ffurflenni wedi'u llenwi at unrhyw un o'r canlynol:

  • Ysgol Gynradd Trelyn, Stryd-yr-ysgol, Trelyn, Coed Duon, NP12 3UX 
  • Ysgol Gynradd Pengam, Stryd Fasnachol, Pengam, Coed Duon, NP12 3ST  
  • Keri Cole, Prif Swyddog Addysg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG
  • E-bost:​ ysgolionyr21ainganrif@caerffili.gov.uk

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn dechrau ddydd Llun 22 Hydref ac yn dod i ben ddydd Llun 10 Rhagfyr 2018.