Strategaeth Gymraeg Ddrafft 2022-2027

Teitl

Ymgynghoriad - Strategaeth Gymraeg Ddrafft 2022-2027 Cynllun Gweithredu - Ymgynghoriad Cam 2

Dyddiad agor

18/10/2021

Dyddiad cau

24/11/2021

Trosolwg

Mae'n ofynnol i Gyngor Caerffili ddatblygu Strategaeth Gymraeg Pum Mlynedd yn unol â gofynion Safon Iaith Gymraeg 145 o dan Reoliadau Safonau Iaith Cymru (Rhif 1) 2015. Nod y strategaeth yw nodi camau gweithredu ar sut yr ydym yn bwriadu hyrwyddo'r Gymraeg, cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a defnydd y Gymraeg yn y fwrdeistref sirol.

Pam rydym yn ymgynghori?

Yn unol â gofynion Safon Iaith Gymraeg 145 o dan Reoliadau Safonau Iaith Cymru (Rhif 1) 2015.

Dogfennau

Strategaeth Pum Mlynedd - Drafft Terfynnol (PDF)

Strategaeth Gymraeg Ddraft 2022-2027 Cynllun Gweithredu – Dogfen Ymgynghori

Ffyrdd o fynegi eich barn

Os byddai'n well gennych gael copi papur gallwch lawrlwytho'r PDF atodedig, ymweld â'ch llyfrgell leol neu ofyn trwy cydraddoldeb@caerffili.gov.uk.

Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau 

Bydd y strategaeth yn cael ei chymeradwyo erbyn 31 Mawrth 2022.

Canlyniadau disgwyliedig

Ar ôl i'r holl ymatebion gael eu casglu byddwn yn eu defnyddio i nodi a oes unrhyw gamau y mae angen eu hadolygu neu unrhyw gamau newydd y dylid eu cynnwys.

Ymholiadau

Ebost: cydraddoldeb@caerffili.gov.uk
Ffôn: 01443 864377