Gosod rhwystr newydd ar lwybr troed cyhoeddus 102 yn hen Blwyf y Graig (Rhisga)

Teitl

Cynnig i osod rhwystr newydd (at bwrpas diogelu defnyddwyr y llwybr troed) ar lwybr troed cyhoeddus rhif 102 yn hen Blwyf y Graig.

Dyddiad agor

30/06/2022

Dyddiad cau

15/08/2022

Trosolwg

Mae gan Gyngor Caerffili ddyletswydd i ddiogelu defnyddwyr Hawliau Tramwy Cyhoeddus rhag defnydd anghyfreithlon a chynigia osod ‘rhwystr-K’ at y pwrpas hwn.

Pam ydyn ni’n ymgynghori?

Mae Cyngor Caerffili gofyn am eich barn chi er mwyn i ni ganfod unrhyw broblemau posib y gallai gosod rhwystr o’r fath eu hachosi i gerddwyr, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn a defnyddwyr cerbydau symudedd.

Dogfennau

Dulliau i rannu safbwyntiau

Holiadur ar-lein a thrwy e-bost at: hawliautramwy@caerffili.gov.uk

Ymholiadau

01443 866669 neu hawliautramwy@caerffili.gov.uk gan ddyfynnu cyfeirnod 22/s66/0001

Dyddiad disgwyliedig ar gyfer canlyniad

15/08/2022

Canlyniadau disgwyliedig

Cafodd ei ganfod yn ystod y broses ymgynghori bod y strwythur arfaethedig, sef rhwystr ‘K’, yn debygol o achosi problemau sylweddol i ddefnydd cyfreithlon y llwybr. Yn dilyn cyngor gan gynrychiolwyr grwpiau defnyddwyr ac anabledd, cafodd y strwythur arfaethedig ei newid i fod yn gât mochyn gyda llwybr osgoi â chlo RADAR. Derbyniwyd y byddai’r strwythur hwn yn parhau i gyfyngu ar fynediad gan rai defnyddwyr cyfreithlon, ond y bydd yn llai cyfyngol na rhwystr ‘K’ yn gyffredinol.

Adroddiad ar gyfer y cynnig