Strategaeth y Gymraeg Pum Mlynedd 2022-2027
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn disodli Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac fel rhan o'r ddeddfwriaeth newydd, yng Nghymru mae gan yr iaith Gymraeg statws cyfreithiol cyfartal â’r Saesneg ac felly ni all yr iaith Gymraeg cael ei thrin yn llai ffafriol.
Rhaid i awdurdodau yng Nghymru lunio strategaeth y Gymraeg sy’n esbonio sut ydynt yn bwriadu mynd ati i hybu’r Gymraeg ac i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg yn eu hardaloedd.
Dyma ail Strategaeth y Gymraeg Pum Mlynedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae'n nodi camau gweithredu ar sut y byddwn yn hyrwyddo'r Gymraeg, yn hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ac yn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y fwrdeistref sirol drwy weithio mewn partneriaeth. Gweler Adran 6 am y camau gweithredu manwl ar sut y byddwn yn cyflawni hyn.
Rydym wedi gweithio mewn cydweithrediad â’n partneriaid i ddatblygu strategaeth sy'n adeiladu ar ein llwyddiannau yn y gorffennol, yn diwallu anghenion siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yn y fwrdeistref sirol, yn bodloni gofynion deddfwriaethol ac yn bwysicaf oll, yn ystyrlon, yn briodol ac yn gyraeddadwy i bawb sy’n rhan o’r broses.
Cafodd y Strategaeth Iaith Gymraeg Pum Mlynedd 2022-2027 ei chymeradwyo gan y Cabinet ar 9 Mawrth 2022.
Cliciwch ar y dolenni isod i weld y strategaeth a’r atodiadau cefnogol:
Yn unol â Safon 146, adolygodd y Cyngor ei Strategaeth y Gymraeg Pum Mlynedd 2017-2022.Mae’r dogfennau canlynol yn cynnwys yr adolygiad a chyflawniadau’r strategaeth yn ystod y cyfnod pum mlynedd.