News Centre

Ysgol Iau Hendre yw’r gyntaf yng Nghaerffili i ennill yr Wobr Arian Cymraeg Campws

Postiwyd ar : 12 Awst 2022

Ysgol Iau Hendre yw’r gyntaf yng Nghaerffili i ennill yr Wobr Arian Cymraeg Campws
Mae Ysgol Iau Hendre wedi ennill Gwobr Arian Cymraeg Campws am eu gwaith caled nhw a’i hymroddiad nhw i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’r ethos Cymreig.
 
Mae Cymraeg Campus yn Siarter Iaith sy'n cael ei defnyddio i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion, ledled y Cwricwlwm ac ym mhob maes o fywyd yr ysgol.
 
Mae Ysgol Iau Hendre wedi bod yn gweithio tuag at eu Gwobr Arian nhw ers iddyn nhw ennill eu Gwobr Efydd Cymraeg Campus nhw yn 2018. Er mwyn helpu cyflawni eu llwyddiant nhw, gweithiodd yr ysgol yn galed drwy gydol y cyfnod o ddysgu yn y cartref i gadw eu cariad nhw tuag at y Gymraeg yn fyw.
 
Mae ‘Criw Cymraeg’ yr ysgol wedi bod yn arweinwyr iaith, gan arwain drwy esiampl ledled yr ysgol gyfan. Maen nhw wedi bod yn gweithio'n galed iawn tuag at y wobr. Maen nhw wedi rhannu cynnydd tuag at y targedau gyda'r plant, staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach. 
 
Dywedodd nifer o fyfyrwyr y ‘Criw Cymraeg’, “Rydyn ni mor falch o’n hysgol ni”, “Ni yw’r Criw Cymraeg cyntaf i ennill y Wobr Arian”, “Mae ein holl waith caled ni wedi talu ar ei ganfed”.
 
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, “Mae hwn yn gyflawniad gwych i'r ysgol; dylai pawb sy'n gysylltiedig fod yn hynod falch o'u llwyddiant.
 
“Mae’n wych gweld y disgyblion mor frwd ac angerddol dros y Gymraeg. Mae’r ysgol gyfan wedi gosod esiampl wych i eraill a byddwn i'n annog ysgolion eraill i weithio tuag at ennill Gwobr Cymraeg Campws.”


Ymholiadau'r Cyfryngau