News Centre

Cronfa Ymrymuso'r Gymuned ar agor ar gyfer ceisiadau unwaith eto!

Postiwyd ar : 22 Medi 2022

Cronfa Ymrymuso'r Gymuned ar agor ar gyfer ceisiadau unwaith eto!
Mae Cronfa Ymrymuso'r Gymuned yn gronfa ariannol sydd wedi'i chreu gan y Cyngor er mwyn galluogi cymunedau i ddatblygu a chyflawni prosiectau, gyda'r nod o ddiwallu anghenion ei drigolion.
 
Mae'r gronfa wedi'i dyrannu er mwyn sicrhau bod pob un o ardaloedd wardiau'r Cyngor yn gallu elwa ar gyllid trwy Gronfa Ymrymuso'r Gymuned ar gyfer prosiectau cymunedol lleol. Nod y prosiectau fydd cynorthwyo cymunedau i:
 
  • Adeiladu capasiti cymunedol, a deall a nodi dyheadau a blaenoriaethau lleol yn well
  • Gwneud defnydd da o'r asedau presennol, gyda phrosiectau'n cael cefnogaeth trigolion lleol
  • Datblygu prosiectau a allai ddod yn brosiectau cymunedol cynaliadwy, ac ategu gwasanaethau presennol mewn ardal trwy ddarparu gweithgaredd ychwanegol 

Meddai'r Cynghorydd Eluned Stenner, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Drawsnewid, “Sbardun allweddol ein rhaglen drawsnewid uchelgeisiol ni yw ymgysylltu â'r gymuned, trwy fynd ati i alluogi ein trigolion ni i lywio meysydd sydd o bwys iddyn nhw yn uniongyrchol. Bydd y gronfa hon yn galluogi cymunedau i wneud hynny.
 
“Mae gan ein haelodau etholedig ni rôl allweddol hefyd drwy weithredu fel ‘noddwyr’ ar gyfer prosiectau sy'n gwneud cais am gyllid drwy Gronfa Ymrymuso'r Gymuned; byddan nhw'n gweithio gyda grwpiau cymunedol lleol, ac yn eu helpu nhw, i ddatblygu syniadau ar gyfer prosiectau sy'n diwallu angen dynodedig yn y ward. Mae hwn yn gyfle go iawn i wneud mwy fyth o waith partneriaeth rhwng y Cyngor a'n cymunedau ni, ac rwy'n sicr y bydd pawb dan sylw yn croesawu'r gronfa hon.”
 
Wrth gyfrifo dyraniadau, mae'r swm o £341,120 wedi'i rannu â 69 (sef nifer y cynrychiolwyr etholedig ym Mwrdeistref Sirol Caerffili), sy'n golygu dyraniad sy'n cyfateb i £4,940 fesul aelod etholedig y flwyddyn. Mewn wardiau lle mae mwy nag un aelod etholedig, mae'r dyraniad wedi'i luosi yn ôl nifer yr aelodau. Er enghraifft – mae gan ward Penyrheol bedwar cynrychiolydd etholedig, felly, byddai ward Penyrheol yn elwa ar ddyraniad o £19,760 (£4,940 x 4).
 
Yn dilyn adborth gan drigolion, mae wyth maes blaenoriaeth yn sail i'r meini prawf ymgeisio ar gyfer prosiectau. Rhaid i brosiectau sy'n gwneud cais am gyllid trwy Gronfa Ymrymuso'r Gymuned fodloni un neu ragor o'r canlynol:
 
  • Prosiectau amgylcheddol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth a chynyddu gweithgaredd cymunedol
  • Prosiectau sy'n cynorthwyo rhagor o gydlyniant cymunedol
  • Prosiectau sy'n ceisio mynd i'r afael ag unigrwydd a theimlo'n ynysig ar draws y gymuned
  • Prosiectau cynhwysiant digidol
  • Prosiectau i annog mwy o les corfforol a meddyliol
  • Gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc/gweithgareddau addysgol (anstatudol)
  • Mentrau sy'n hyrwyddo ac yn annog diogelwch y gymuned
  • Cynorthwyo grwpiau cymunedol i sefydlu 

Beth nesaf?
 
Dylai grwpiau cymunedol sydd â syniad am brosiect gysylltu â'u haelod etholedig lleol yn y lle cyntaf. Mae rhestr lawn ar gael yma. Mae ffurflen gais fer i'w llenwi i amlinellu manylion y prosiect, a dylai gael ei hanfon i CYG@Caerffili.gov.uk. Mae'r cylch nesaf o geisiadau am gyllid yn cau ar 30 Medi 2022.
 
I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Ymrymuso'r Gymuned, cysylltwch â CYG@Caerffili.gov.uk neu fynd i www.caerffili.gov.uk/cyg


Ymholiadau'r Cyfryngau