|
Cymorth Ariannol
Mae’r cyfan o Fwrdeistref Sirol Caerffili wedi ei lleoli mewn Ardal a Gynorthwyir, sy’n golygu bod ganddi’r potensial i ddenu’r lefel uchaf o gymorth grant. Mae pob grant yn ôl disgresiwn, a gall meini prawf cymhwyster gynnwys creu neu ddiogelu swyddi.
Dyfarnwyd statws Ewropeaidd Amcan 1 i’r Fwrdeistref Sirol, a fydd yn caniatáu mynediad i gronfa o tua £1.2 biliwn o 2000 i 2006. Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn un o bymtheg ardal Amcan 1 yng Nghymru.
Am ragor o wybodaeth am gymorth busnes ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, cysylltwch â ni. |
|