Cwestiynau a Ofynnir Fwyaf

Pam bod angen cyfleusterau i drin ein sbwriel?

Mae'r safleoedd tirlenwi a ddefnyddir ar hyn o bryd bron â bod yn llawn, ac ychydig iawn o ardaloedd addas sydd ar ôl yng Nghymru ar gyfer safleoedd tirlenwi newydd.

 

Onid yw gweithrediadau tirlenwi yn ffordd ratach o ddelio â gwastraff gweddilliol?

Yn hanesyddol, dyma oedd y gwir, ond nid dyma fydd yr achos am lawer hirach. Yn Ewrop mae treth tirlenwi yn £40 y dunnell a bydd hyn yn gyffredin yn y DU cyn bo hir. Trwy drin gwastraff i gynhyrchu trydan, mae gwastraff yn dod yn adnodd gwerthfawr.

 

Os na allwn roi gwastraff gweddilliol mewn safleoedd tirlenwi, beth allwn ni ei wneud ag ef?

Mae nifer o opsiynau ar gael, (link to options page). Rhaid i ni droi’r gwastraff yn adnodd. Mae’r blaenoriaethau wedi’u gosod trwy hierarchiaeth gwastraff a luniwyd gan y Llywodraeth, lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio ac yna adfer gwerth o beth na ellir ei ailddefnyddio na’i ailgylchu.

 

Beth allaf i ei wneud?

Gall pawb wneud gwahaniaeth mewn materion gwastraff. Mae’n hanfodol lleihau’r cynnydd mewn gwastraff a gall pawb leihau faint o wastraff a gynhyrchant. Gyda’r gwastraff a gynhyrchir, ailddefnyddiwch beth sy’n ymarferol, ac yna ceisiwch ailgylchu a chompostio cymaint â phosibl gan ddefnyddio cynlluniau’r Cyngor sydd wedi’u datblygu ar eich cyfer. Unwaith y byddwn wedi ailgylchu a chompostio gymaint ag y gallwn, rhaid dod o hyd i ddatrysiad i’r gwastraff sy’n weddill. Mae’n bwysig bod gan y cyhoedd ddiddordeb yn y mater, gan na fydd y broblem yn diflannu ar ei phen ei hun.

 

Ydy trin gwastraff gweddilliol yn well na’i roi mewn safle tirlenwi?

Mae safleoedd i’w tirlenwi yn prysur ddiflannu yng Nghymru ac fe gydnabyddir nad ydyw'n ddewis cynaliadwy. Mae asesiad ôl-troed carbon cyflawn WRATE yn dangos bod rheoli gwastraff gweddilliol trwy safleoedd tirlenwi yn unig, yn cael yr effaith carbon mwyaf.

Pan fo gwastraff yn dadelfennu mewn safle tirlenwi, yn absenoldeb aer, cynhyrchir methan, sef un o'r prif ffactorau sy'n cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd. Er bod rheoliadau tirlenwi yn nodi y dylai'r methan gael ei gasglu i gynhyrchu egni, dim ond 10% ar y mwyaf a gesglir.

Mae trin gwastraff gweddilliol yn lleihau’r angen am safleoedd tirlenwi. Er bod gwaddodion o’r amryw opsiynau trin, bydd faint o wastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi yn lleihau’n sylweddol.

 

Trwy ddefnyddio’r technolegau hyn, oni fydd cyfraddau ailgylchu a chompostio'n cael eu heffeithio?

‘Mae profiad Ewropeaidd yn dangos bod adfer ynni o wastraff gweddilliol (gan gynnwys trwy losgi) yn cydweddu â chyfraddau ailgylchu uchel. Felly gall llosgi a Thriniaeth Thermol Pellach ffurfio rhan o’r strategaeth reoli gwastraff, ond ddim ar draul ailgylchu a lleihau gwastraff.

‘Mae tir mawr Ewrop, Denmarc a’r Iseldiroedd yn dargyfeirio mwyafrif y gwastraff o safleoedd tirlenwi, gan gyflawni’r cyfraddau ailgylchu uchaf, ond yn ddibynnol iawn ar losgi gwastraff gweddilliol er mwyn delio ag ef.’ (Rhaglen Cefnogi Technolegau Newydd DEFRA 2007)

Did you know?

  • The decomposition of waste in the absence of air, gives off methane. As a molecule, methane is 23 times more potent as a green house gas than carbon dioxide.
  • In the UK approximately 2.4 million tonnes of methane is release each year. Emissions from municipal solid waste landfill sites account for 27% of the national total.
  • Methane is recovered from landfill operations, but the collection rate at best is only 10%. This has to be compared to residual waste treatment plants where the collection rates are between 40-60%.

Landfill has historically been the chosen method to deal with waste. This cannot continue and a solution has to be found.

  • A third of all the food we buy ends up being thrown away.
  • In Wales we throw away 330 000 tonnes of food waste each year.
  • Organic waste, such as fruit, vegetables and tea bags make up to 38% of the contents of the average dustbin.
  • An estimated 6.7 million tonnes of household food waste is produced each year in the UK, most of which could be eaten.

Each of the local authorities in Prosiect Gwyrdd are committed to divert as much food waste as possible for composting and plans are underway to implement new schemes.

  • Every year in the UK, we throw away 28 million tonnes of rubbish from households. This weighs the same as three and a half million double decker buses.
  • Every day 80 million food and drink cans end up in landfill.
  • In the UK, we fill about 300 million square metres of land with rubbish each year.
  • We produce 20 times more plastic in the UK than we did 50 years ago.

Each of the local authorities in Prosiect Gwyrdd is committed to recycling and composting as much waste as practically possible. Residents have a duty to reduce and reuse as much waste as possible so that we can all improve the environment. Waste is everyone's problem.

Wyddech chi?

  • Mae gwastraff sy'n dadelfennu heb aer yn cynhyrchu methan. Fel moleciwl, mae methan yn gallu cynhyrchu 23 gwaith yn fwy o nwyon ty gwydr nag yw carbon deuocsid.
  • Yn y DU, rhyddheir oddeutu 2.4 miliwn o dunelli o fethan bob blwyddyn. Mae allyriadau o wastraff dinesig solid mewn safleoedd tirlenwi yn 27% o'r cyfanswm cenedlaethol.
  • Cesglir methan o weithredoedd tirlenwi, ond 10% ar y mwyaf yw'r gyfradd gasglu. Rhaid cymharu hwn â gwaith trin gwastraff gweddilliol lle mae'r cyfraddau casglu'n llawer uwch (gweler y tudalen dewisiadau).

Tirlenwi yw'r modd traddodiadol o ddelio â gwastraff. Ni all hyn barhau ac mae'n rhaid cael hyd i ateb arall.

  • Mae un rhain o dair o'r bwyd a brynwn yn cael ei daflu yn y pen draw.
  • Yng Nghymru, rydym yn taflu 330,000 tunnell o wastraff bwyd bob blwyddyn.
  • Gwastraff organig, megis ffrwythau, llysiau a bagiau te, yw hyd at 38% o gynnwys bin arferol.
  • Cynhyrchir oddeutu 6.7 miliwn o dunelli o wastraff bwyd cartref yn flynyddol yn y DU, a gellir bod wedi bwyta'r rhan fwyaf ohono.

Mae pob un o'r awdurdodau lleol sy'n rhan o Broject Gwyrdd wedi ymrwymo at ddargyfeirio cymaint o wastraff bwyd â phosibl i gael ei gompostio. Mae cyllid wedi'i glustnodi gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer pob awdurdod.

  • Rydym yn taflu 28 miliwn o dunelli o sbwriel o gartrefi bob blwyddyn yn y DU. Mae hyn yn pwyso'r un faint â thua tair miliwn a hanner o fysus deulawr.
  • Mae 80 miliwn o dunelli o ganiau bwyd a diod yn mynd i safleoedd tirlenwi bob dydd.
  • Yn y DU rydym yn llenwi tua 300 miliwn o fetrau sgwâr o dir gyda sbwriel bob blwyddyn.
  • Rydym yn cynhyrchu 20 gwaith mwy o blastig yn y DU nag oeddem yn ei wneud hanner canrif yn ôl.

Mae pob un o'r awdurdodau lleol sy'n rhan o Project Gwyrdd wedi ymrwymo at ailgylchu a chompostio gymaint o wastraff ag sy'n bosibl. Mae dyletswydd ar breswylwyr i leihau ac ailddefnyddio gymaint o wastraff â phosibl er mwyn i ni gyd wella'r amgylchedd. Mae gwastraff yn broblem i bawb.

Manylion Cyswllt

Prosiect Gwyrdd
Lamby Way Depot
Lamby Way
Rumney
Cardiff
CF3 2HP

Ffôn: (029) 2071 7523
E-bost: GwybodaethProsiectGwyrdd@caerdydd.gov.uk

Do you want to contact us?

Prosiect Gwyrdd
Lamby Way Depot
Lamby Way
Rumney
Cardiff
CF3 2HP

Tel: (029) 2071 7523
E-mail: InfoProsiectGwyrdd@cardiff.gov.uk

Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru o ran Ynni o Wastraff?

Mae Llywodraeth Cymru yn fodlon mai trin gwastraff gweddilliol mewn cyfleusterau Ynni o Wastraff effeithlon iawn (gan gynhyrchu trydan a/neu wres drwy systemau gwres a phwer cyfunedig neu systemau gwres yn unig lle y bo'n ymarferol) yw'r dewis gorau i Gymru o ran ei rhwymedigaethau datblygu cynaliadwy, a lleihau effaith gweithgarwch rheoli gwastraff ar newid yn yr hinsawdd.

 

Beth sydd gan y Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff i’w ddweud am drin gwastraff gweddilliol?

Nid yw gallu’r DU i adfer ynni gwerthfawr o’i wastraff wedi ei ddatblygu yn ddigonol. Rhaid cael cynllunio cyflym a chomisiynu ffatrïoedd ac mae angen technolegau a ffatrïoedd priodol i gynnal tri maes polisi hanfodol: cyrraedd targedau gwyro tirlenwi anodd, mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac ateb yr angen am ynni trwy gyflenwad diogel a chynaliadwy. Mae Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff (CIWM) yn erfyn ar y llywodraeth i gydnabod y cyfraniad pwysig y gall ynni o wastraff ei wneud wrth fynd i’r afael â’r materion hyn i gymryd camau ymarferol brys i gefnogi’r ehangiad.” (CIWM (2006) Datganiad CIWM ar adfer ynni o wastraff, Chwefror 2006)

 

Beth yw agwedd Asiantaeth yr Amgylchedd at drin gwastraff gweddilliol?

Cred yr Asiantaeth fod angen i ni leihau faint o wastraff a gynhyrchir. Mae ailgylchu, compostio a thrin gwastraff gweddilliol oll yn opsiynau rheoli y bydd yn rhaid i’r gymdeithas eu hystyried er mwyn creu strategaethau rheoli gwastraff cynaliadwy i reoli’r mynydd o wastraff yr ydym yn ei greu.

 

Beth sydd gan Masnach a Buddsoddi y DU i’w ddweud am gael Ynni o Wastraff?

Mae ynni o wastraff yn gasgliad pwysig o dechnolegau, gyda'r gallu i ddarparu ynni adnewyddadwy a datrysiad i'r broblem gynyddol o reoli gwastraff. (Cyhoeddiadau UKTI: Ynni o Wastraff, canllaw i gyfleoedd yn y DU)

 

A yw trin gwastraff gweddilliol yn cael ei wneud mewn llefydd eraill?

Mae nifer o awdurdodau’r DU yn mynd i’r afael â gwastraff gweddilliol. Mae Ynni o Wastraff a phrosesau adfer ynni eraill wedi eu defnyddio’n helaeth yn Ewrop a Sgandinafia ers peth amser. Mae Denmarc, yr Iseldiroedd, Ffrainc a Sweden yn trin o leiaf 25% o wastraff trwy gynlluniau ynni o wastraff. Defnyddir Triniaeth Fiolegol Fecanyddol hefyd yn helaeth yn Ewrop, gyda ffatrïoedd yn yr Almaen, yr Eidal ac Awstria ac mae’r dechnoleg yn dod yn fwyfwy poblogaidd yn y DU.

 

Oni fydd cyfleusterau trin gwastraff gweddilliol yn stopio pobl rhag ailgylchu?

Na fydd. Mae pob awdurdod wedi ymrwymo at ailgylchu a chompostio cymaint o wastraff â phosibl. Mae pob awdurdod wedi buddsoddi’n helaeth i ddatblygu cynlluniau casgliadau ymyl y ffordd ac i wneud ailgylchu a chompostio mor hawdd â phosibl i bawb. Mae Project Gwyrdd yn edrych ar ddatrysiad i wastraff gweddilliol, wedi i ni ailgylchu a chompostio gymaint â phosibl ym mhob ardal.

 

Trwy ddefnyddio’r technolegau hyn, oni fydd cyfraddau ailgylchu a chompostio'n cael eu heffeithio?

‘Mae profiad Ewropeaidd yn dangos bod adfer ynni o wastraff gweddilliol (gan gynnwys trwy losgi) yn cydweddu â chyfraddau ailgylchu uchel. Felly gall llosgi a Thriniaeth Thermol Pellach ffurfio rhan o’r strategaeth rheoli gwastraff, ond ddim ar draul ailgylchu a lleihau gwastraff.

‘Mae tir mawr Ewrop, Denmarc a’r Iseldiroedd yn dargyfeirio mwyafrif y gwastraff o safleoedd tirlenwi, gan gyflawni’r cyfraddau ailgylchu uchaf, ond yn ddibynnol iawn ar losgi gwastraff gweddilliol er mwyn delio ag ef.’ (Rhaglen Cefnogi Technolegau Newydd DEFRA 2007)

 

Gweld mwy o ddolenni defnyddiol