Ynglŷn Â’r Project

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth y Cynulliad wedi nodi y dylid rheoli ‘llif gwastraff’ mewn modd sy’n lleihau’r niwed tymor hir i’r amgylchedd ac sy’n gynaliadwy ar gyfer cenhedloedd y dyfodol.

 

Mae’r hierarchiaeth reoli gwastraff wedi’i chreu:

Waste and recycling diagram

Mae pob un o’r partneriaid yn bwriadu ceisio gweithredu’r hierarchiaeth hon, ac mae llawer wedi’i wneud yn barod i ailgylchu a chompostio cymaint o wastraff â phosibl. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gosod targed cyfunol o 70% erbyn 2025, a blaenoriaeth yr holl bartneriaid yw cyrraedd y targed hwn.

Mynd i'r dudalen Ailgylchu

Mae cyfanswm gwastraff dinesig y pump awdurdod lleol yn 475,000 tunnell, sy’n 40% o gyfanswm gwastraff dinesig Cymru. Mae’r bartneriaeth wedi ymrwymo at ddarganfod ateb tymor hir ar gyfer y gwastraff sy’n weddill ar ôl ailgylchu a chompostio 70% o’r gwastraff hwn.

 

Beth yw nod Project Gwyrdd?

Mae'r bartneriaeth yn ceisio cael hyd i'r ateb gorau i'r broblem o waredu'r gwastraff sy'n weddill ar ôl ailgylchu a chompostio, yn ymarferol, yn gynaliadwy ac yn amgylcheddol ac am y gost fwyaf effeithiol. Wrth i'r awdurdodau gydweithio, mae'r arbedion y gellir eu gwneud drwy weithredu ar raddfa fwy yn dangos mai gweithio'n rhanbarthol yw'r ffordd orau i roi'r gwerth gorau i'r trethdalwyr.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi mynegi y dylai awdurdodau lleol ddatblygu systemau rheoli gwastraff rhanbarthol cynaliadwy ar y cyd, trwy eu ‘Agenda Gwneud Cysylltiadau’.

 

Sut gweithredodd y broses gaffael?

Mae gan y bartneriaeth nifer o lefelau. Mae grwpiau rheoli project wedi’u sefydlu i edrych ar faterion ariannol, cyfreithiol, technegol, cyfathrebu a chaffael. Mae hyn yn cael ei fwydo i grŵp rheoli a sefydlwyd i lywio busnes o ddydd i ddydd. Mae'r grŵp rheoli yn adrodd at gorff cynrychioli etholedig sy’n atebol am y penderfyniadau.

Project Gwyrdd Cyd-bwyllgor

Did you know?

  • The decomposition of waste in the absence of air, gives off methane. As a molecule, methane is 23 times more potent as a green house gas than carbon dioxide.
  • In the UK approximately 2.4 million tonnes of methane is release each year. Emissions from municipal solid waste landfill sites account for 27% of the national total.
  • Methane is recovered from landfill operations, but the collection rate at best is only 10%. This has to be compared to residual waste treatment plants where the collection rates are between 40-60%.

Landfill has historically been the chosen method to deal with waste. This cannot continue and a solution has to be found.

  • A third of all the food we buy ends up being thrown away.
  • In Wales we throw away 330 000 tonnes of food waste each year.
  • Organic waste, such as fruit, vegetables and tea bags make up to 38% of the contents of the average dustbin.
  • An estimated 6.7 million tonnes of household food waste is produced each year in the UK, most of which could be eaten.

Each of the local authorities in Prosiect Gwyrdd are committed to divert as much food waste as possible for composting and plans are underway to implement new schemes.

  • Every year in the UK, we throw away 28 million tonnes of rubbish from households. This weighs the same as three and a half million double decker buses.
  • Every day 80 million food and drink cans end up in landfill.
  • In the UK, we fill about 300 million square metres of land with rubbish each year.
  • We produce 20 times more plastic in the UK than we did 50 years ago.

Each of the local authorities in Prosiect Gwyrdd is committed to recycling and composting as much waste as practically possible. Residents have a duty to reduce and reuse as much waste as possible so that we can all improve the environment. Waste is everyone's problem.

Wyddech chi?

  • Mae gwastraff sy'n dadelfennu heb aer yn cynhyrchu methan. Fel moleciwl, mae methan yn gallu cynhyrchu 23 gwaith yn fwy o nwyon ty gwydr nag yw carbon deuocsid.
  • Yn y DU, rhyddheir oddeutu 2.4 miliwn o dunelli o fethan bob blwyddyn. Mae allyriadau o wastraff dinesig solid mewn safleoedd tirlenwi yn 27% o'r cyfanswm cenedlaethol.
  • Cesglir methan o weithredoedd tirlenwi, ond 10% ar y mwyaf yw'r gyfradd gasglu. Rhaid cymharu hwn â gwaith trin gwastraff gweddilliol lle mae'r cyfraddau casglu'n llawer uwch (gweler y tudalen dewisiadau).

Tirlenwi yw'r modd traddodiadol o ddelio â gwastraff. Ni all hyn barhau ac mae'n rhaid cael hyd i ateb arall.

  • Mae un rhain o dair o'r bwyd a brynwn yn cael ei daflu yn y pen draw.
  • Yng Nghymru, rydym yn taflu 330,000 tunnell o wastraff bwyd bob blwyddyn.
  • Gwastraff organig, megis ffrwythau, llysiau a bagiau te, yw hyd at 38% o gynnwys bin arferol.
  • Cynhyrchir oddeutu 6.7 miliwn o dunelli o wastraff bwyd cartref yn flynyddol yn y DU, a gellir bod wedi bwyta'r rhan fwyaf ohono.

Mae pob un o'r awdurdodau lleol sy'n rhan o Broject Gwyrdd wedi ymrwymo at ddargyfeirio cymaint o wastraff bwyd â phosibl i gael ei gompostio. Mae cyllid wedi'i glustnodi gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer pob awdurdod.

  • Rydym yn taflu 28 miliwn o dunelli o sbwriel o gartrefi bob blwyddyn yn y DU. Mae hyn yn pwyso'r un faint â thua tair miliwn a hanner o fysus deulawr.
  • Mae 80 miliwn o dunelli o ganiau bwyd a diod yn mynd i safleoedd tirlenwi bob dydd.
  • Yn y DU rydym yn llenwi tua 300 miliwn o fetrau sgwâr o dir gyda sbwriel bob blwyddyn.
  • Rydym yn cynhyrchu 20 gwaith mwy o blastig yn y DU nag oeddem yn ei wneud hanner canrif yn ôl.

Mae pob un o'r awdurdodau lleol sy'n rhan o Project Gwyrdd wedi ymrwymo at ailgylchu a chompostio gymaint o wastraff ag sy'n bosibl. Mae dyletswydd ar breswylwyr i leihau ac ailddefnyddio gymaint o wastraff â phosibl er mwyn i ni gyd wella'r amgylchedd. Mae gwastraff yn broblem i bawb.

Manylion Cyswllt

Prosiect Gwyrdd
Lamby Way Depot
Lamby Way
Rumney
Cardiff
CF3 2HP

Ffôn: (029) 2071 7523
E-bost: GwybodaethProsiectGwyrdd@caerdydd.gov.uk

Do you want to contact us?

Prosiect Gwyrdd
Lamby Way Depot
Lamby Way
Rumney
Cardiff
CF3 2HP

Tel: (029) 2071 7523
E-mail: InfoProsiectGwyrdd@cardiff.gov.uk

Beth yw'r sefyllfa gyfredol o ran y bartneriaeth?

Hysbyswyd gofynion partneriaeth Prosiect Gwyrdd ar sail niwtral o ran technoleg i'r farchnad byd eang yn 2009. Cyflawnir prosesau caffael o'r fath yn unol â'r Gyfraith Ewropeaidd, a dangosir camau amrywiol proses gaffael y bartneriaeth ar y dudalen gaffael.

Mae pob awdurdod partner wedi cymeradwyo Viridor fel y cynigydd a ffefrir a gellir gweld rhagor o wybodaeth am y cwmni llwyddiannus a'r dechnoleg a gynigir ar dudalen y cynigydd a ffefrir a'r dudalen troi gwastraff yn ynni.

Mae'r contract bellach wedi'i lofnodi gan Gyngor Caerdydd fel yr Awdurdod Arweiniol ac mae Cydgytundeb Gwaith wedi'i lofnodi gan bob un o'r awdurdodau partner.

 

Sut ydy Prosiect Gwyrdd wedi cyfathrebu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol?

Cynhaliodd y Prosiect dros 50 o ddigwyddiadau cyhoeddus i breswylwyr a rhanddeiliaid cyn diwedd y broses gaffael. Cynhaliwyd y digwyddiadau hyn ym mhob un o'r 5 awdurdod lleol drwy gydol camau amrywiol y broses gaffael i gefnogi'r cynigion a gyflwynwyd drwy'r broses dendro.

Hysbyswyd yr holl ddigwyddiadau hyn i'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol, a gellir gweld y datganiadau i'r wasg a'r cylchlythyrau drwy fynd i adran newyddion y wefan.

 

Pwy yw’r rhanddeiliaid

  • Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. (DEFRA)
  • Aelodau Etholedig, ASau, ACau a gwleidyddion allweddol eraill.
  • Sefydliadau amgylcheddol, Asiantaeth yr Amgylchedd. ● Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff.
  • Cymunedau lleol yn y 5 awdurdod lleol.
  • Undebau Llafur.
  • Grwpiau amgylcheddol lleol.
  • Awdurdodau cyfagos eraill.
  • Partneriaid statudol e.e. Bwrdd Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG.
  • Cymuned fusnes y sector breifat.
  • Y diwydiant gwastraff preifat.
  • Staff y cynghorau yn y 5 awdurdod.
  • Sefydliadau Ymgynghorol – Cynllun Craff am Wastraff

 

Pa dechnoleg a gynigiwyd gan y farchnad?

dudalen Ynni o Wastraff