Hanes Gelligaer

Wrth i chi yrru drwy Gelligaer y dyddiau hyn, mae’n anodd dychmygu bod hwn wedi bod yn lleoliad allweddol drwy gydol hanes De Cymru. Yma, yn ogystal â chaer Rufeinig, gallwch ddod o hyd i dystiolaeth o gladdedigaethau’r Oes Efydd, eglwysi Normanaidd, anheddau Canoloesol, caeau hynafol, darpariaeth addysgol oedd ymysg y cynharaf yng Nghymru, tystiolaeth o ddatblygiad Anghydffurfiaeth, diwydiant ac hyd yn oed gynnydd enfawr mewn adeiladu tai ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Pam fod gan yr ardal hon orffennol mor gyfoethog? Yn syml iawn, ei lleoliad! Mae Gelligaer ar ben bryn lle mae cyflenwadau da o ddŵr a mwynau, felly mae’n lleoliad strategol yn ogystal ag ysbrydol a maethlon hyd yn oed heddiw.