Ar ôl y Rhufeiniaid

Erbyn y cyfnod pan oedd y Rhufeiniaid wedi gadael Prydain yn gyfan gwbl (410 OC) mae’n debyg bod Gelligaer yn adfeilion, oherwydd mae’n ymddangos mai dim ond yn achlysurol y cafodd ei defnyddio yn hwyr yn y 3edd ac yn fuan yn y 4edd ganrif. Byddai pobl wedi defnyddio’r garreg i godi adeiladau eraill, a gallwch weld llawer o gerrig mewn waliau o amgylch Gelligaer a fyddai wedi bod yn rhan o’r gaer yn wreiddiol.

Parhaodd y dylanwadau Rhufeinig am ganrifoedd lawer, ond yn raddol ail-ganfuwyd y diwylliant Celtaidd lleol. Ar Gomin Gelligaer mae meini hirion sydd efallai’n gofebion i ryfelwyr mawr, neu efallai eu bod yn dangos lleoliad mannau claddu, gan barhau traddodiad y Rhufeiniaid o gladdu’r meirw ar ymylon ffyrdd.

Lledaenodd Cristnogaeth drwy Brydain wedi i’r Rhufeiniaid adael, felly gelwir y cyfnod yma’n “Oes y Saint” yn aml iawn ac mae gan Gelligaer gysylltiadau cryf â’r saint. Bu Catwg, fab Gwladys (merch y Brenin Brychan) yn sefydlu eglwysi yng Nghymru (gan gynnwys Gelligaer), yn yr Alban ac un yn Llydaw, ac yn ôl yr hanes roedd ef a’i fynachod yn arfer defnyddio’r ffyrdd Rhufeinig i wneud eu gwaith cenhadol.