Cyn y Rhufeiniaid

Mae’r ardal o amgylch Gelligaer wedi denu pobl am filoedd o flynyddoedd oherwydd ei adnoddau cyfoethog, ei dir ffrwythlon a’i safle strategol. Mae tystiolaeth yn dangos fod pobl wedi defnyddio pennau bryniau De Cymru mor bell yn ôl â 4000 o flynyddoedd yn ôl – pan fyddai pobl yr Oes Efydd wedi ffermio’r tir. Mae Carn Bugail, ar esgair uchel o Gomin Gelligaer, yn dangos fod y bobl yma’n bobl ysbrydol am fod hwn yn safle i gladdu eu harweinwyr.

Tua 500 o flynyddoedd yn ddiweddarach, daeth grŵp newydd o bobl i fyw yng Ngelligaer - y Bicerwyr. Cânt yr enw yma oherwydd eu llestri crochenwaith nodedig a gafodd eu canfod mewn beddrodau ac o amgylch pentref Gelligaer.

Er nad oes bryngaerau Oes yr Haearn yn lleol, credir fod yr ardal wedi parhau’n ardal ffermio, ond mae’n debyg mai dim ond yn yr haf roedd pobl yn defnyddio’r bryniau erbyn hyn am fod y tywydd yn gwaethygu. Pobl Oes yr Haearn yn yr ardal hon oedd y Silures, a chredir mai’r rhain oedd y mwyaf ffyrnig o’r llwythi i gyd. Roeddent yn farchogion rhagorol oedd yn defnyddio cerbydau rhyfel mewn brwydrau ac oedd yn enwog am ddefnyddio tactegau herwryfela i ymosod ar eu gelynion. I ganfod rhagor am y Silures, sicrhewch gopi o “Searching for the Silures: The Iron Age in South-East Wales” gan Raymond Howell.

Gall y gwefannau yma eich helpu i ganfod rhagor am hanes cynnar Gelligaer: