Mannau i aros

Mae Gelligaer yng nghalon Cymoedd De Cymru, ac o’i chwmpas mae tirlun gwyrdd prydferth – mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer gwyliau bychan.
Isod mae rhai o’r mannau aros agosaf, ond os hoffech ragor o syniadau ewch i www.visitcaerphilly.com

Bryn Heulog –Gwely a Brecwast
11 Ffordd Bedwellty, Aberbargoed, Caerffili, CF81 9AE.
Ffôn: 01443 833084 / 07976 946148
Tŷ ar wahân sydd wedi’i adnewyddu’n brydferth. Mae wedi’i ddodrefnu gyda sylw craff i’r manylion, ac mae’n lle aros moethus dros ben. Mae i’w gael yng Nghwm Rhymni.
I gael rhagor o wybodaeth am Wely a Brecwast Bryn Heulog ewch i www.visitcaerphilly.com

Gwesty Fairmead
24 Ffordd Gelligaer, Nelson, Treharris, Caerffili, CF46 6DN.
Ffôn: 01443 411174
Mae Fairmead 200 llath o Dŷ Maenor Llancaiach Fawr ac mae’n westy dim ysmygu sy’n cynnig gwasanaeth cyfeillgar o safon.
I gael rhagor o wybodaeth am Westy Fairmead ewch i www.visitcaerphilly.com

Halfway House
Gelligroes, Pontllanfraith, Coed-duon, Caerffili, NP12 2HT.
Ffôn: 01495 220255
Tafarn gyfeillgar gyda bwyty rhagorol a chroeso cynnes. Gwely a brecwast gydag ystafelloedd modern ac mae gan bob ystafell adnoddau ensuite a dillad gwely a gynhyrchwyd â llaw.
I gael rhagor o wybodaeth am Halfway House ewch i www.visitcaerphilly.com

Highfields – Gwely a Brecwast
Fferm Tir y Berth, Penpedairheol, Hengoed, CF82 8BS.
Ffôn: 01443 862287 / 07813338601
Mae’r ffermdy hwn o’r 16eg ganrif yn sefyll mewn tir eang heddychlon ac mae’n cynnig croeso cynnes Cymreig.
I gael rhagor o wybodaeth am Wely a Brecwast Highfields ewch i www.visitcaerphilly.com

Gwesty Llechwen Hall
Llanfabon, Nelson, Caerffili, CF37 4HP.
Ffôn: 01443 742050
Tŷ hir o’r 17eg Ganrif oedd hwn yn wreiddiol. Mae ganddo gyfleusterau rhagorol, yn cynnwys dau fwyty.
I gael rhagor o wybodaeth am Westy Llechwen Hall ewch i www.visitcaerphilly.com

Gwesty Fferm Wern Ganol
Nelson, Treharris, Caerffili, CF46 6PS.
Ffôn: 01443 450413
Gwesty teuluol sy’n edrych allan dros gefn gwlad ac sy’n agos at atyniadau megis Maenor Llancaiach Fawr. I gael rhagor o wybodaeth am Westy Fferm Wern Ganol ewch i www.visitcaerphilly.com