Bywyd Milwr

Roedd y milwyr fyddai wedi byw yma’n filwyr ategol – doedden nhw ddim yn Rhufeiniaid a gallent fod wedi dod o unrhyw le yn yr Ymerodraeth Rufeinig. Dim ond 1/3 rhan o gyflog milwr llengol y byddent yn ei gael. Ond ar ôl 25 mlynedd o wasanaeth, pan fydden nhw’n ymddeol, bydden nhw a’u plant yn cael eu gwobrwyo drwy gael eu gwneud yn ddinasyddion Rhufeinig - ond nid oedd llawer ohonynt yn cyflawni hynny!

Roedd milwyr yn treulio llawer o’u hamser gwasanaethu i ffwrdd o adref a byddai’n arferol i anheddau sifiliad ddatblygu o amgylch caer lle byddai rhai o’r gwragedd yn byw efallai. Hefyd, byddai’r milwyr yn datblygu perthynas gyda merched lleol, ac efallai y byddent yn aros yn yr ardal lle’r oedden nhw wedi gweithio fel milwr ar ôl iddynt ymddeol.

Yn debyg i heddiw, roedd bywyd y milwr Rhufeinig yn canolbwyntio ar fod yn barod i’r frwydr. Felly, byddai milwyr ategol Gelligaer yn ymarfer a datblygu sgiliau gydag arfau ar y maes parêd ar ochr ddwyreiniol y gaer, a byddent yn mynd ar y tir comin i ymarfer adeiladu gwersylloedd gorymdeithio – o’r awyr mae modd gweld gweddillion 5 gwersyll ar ochr ogleddol y gaer.

Byddai milwyr yn gwarchod y gaer, yn glanhau eu cit eu hunain a chit y canwriaid ac hefyd yn coginio a glanhau’r safle. Ond rhan bwysig o fywyd milwr Rhufeinig oedd y Baddondai - ac roedd adeilad ar wahân ar gyfer y baddondy y tu allan i’r Gaer yng Ngelligaer (oherwydd risg tân). Yma byddai’r milwyr yn ymolchi ac yn gwneud ymarfer corff, yn ogystal â chyfarfod ffrindiau ac ymlacio – sgwrsio, gamblo, chwarae gemau, cael byrbryd ac yfed pan fyddent wedi gorffen eu dyletswyddau.

Byddai bywyd y milwr yng Ngelligaer yn galed – yn enwedig os oeddent yn dod o dde Ewrop yn wreiddiol – dychmygwch mor oer fyddai hi ar ben y bryn yma ganol gaeaf!