Y Rhufeiniaid a’r Silures

Y llwyth lleol yn Ne Ddwyrain Cymru oedd y Silures – llwyth pwerus a rhyfelgar. Tyfodd eu teimladau gelyniaethus tuag at y Rhufeiniaid pan ddaeth yr arweinydd Prydeinig, Caratacus, atynt i ofyn am loches - dyma oedd dechrau ymgyrch a barhaodd am 30 mlynedd, hyd yn oed ar ôl i Caratacus gael ei ddal.

Ni chafodd y Silures eu distewi hyd nes y symudodd Ail Leng Awgwstws i’w caer newydd yng Nghaerllion yn 74/75 OC. Am y rhan fwyaf o gyfnod y Rhufeiniaid roedd tir y Silures yn ardal sifiliad - lle bydden nhw’n cael eu trin fel pobl oedd wedi ildio ac oedd heb unrhyw hawliau. Ond yn aml iawn roedd y gweinyddwyr Rhufeinig yn ymddwyn yn gymedrol tuag atyn nhw ac yn ceisio tawelu ac annog y boblogaeth leol i fabwysiadu’r ffyrdd Rhufeinig o fyw.

Y dyddiau hyn rydym yn aml yn meddwl mai ffyrdd y Rhufeiniaid oedd orau – ond doedd hyn ddim yn wir bob amser:

  • Ychydig iawn o hawliau oedd gan ferched – ond roedd merched y Silures yn bwerus.
  • Roedd gan y Silure gydffederasiwn llwythol ond roedd y Rhufeiniaid yn rheoli popeth o Rufain.
  • Rydym yn tueddu meddwl mai’r Rhufeiniaid adeiladodd y ffyrdd i gyd – ond, roedd gan y Silure droliau gydag olwynion, ac roeddent wedi adeiladu ffyrdd cyn i’r Rhufeiniaid gyrraedd.

Mae llawer mwy o ffeithiau am y Silure yn “Searching for the Silures: The Iron Age in South-East Wales” gan Ray Howell