Safleoedd Rhufeinig Eraill

image

Daeth y Rhufeiniaid i oresgyn Prydain yn 43 OC ac o fewn pum mlynedd roeddent yn brwydro yng Nghymru. Roedd y Silures oedd yn byw yn Ne Ddwyrain Cymru’n bobl bwerus a rhyfelgar, ac roedden nhw’n amddiffyn yn gryf, ond erbyn 74/75 OC, roedd Ail Leng Awgwstws wedi symud i Gaerllion (Isca) ac o’r fan hyn roeddent yn cadw’r Silures yn dawel. Roeddent yn rheoli’r ardal hyd flynyddoedd hwyr y drydedd ganrif.
Ledled Cymru mae nifer o safleoedd sy’n adrodd stori’r goresgyniad Rhufeinig:

Caerllion
Cartref Ail Leng Awgwstws. Mae’r Baddondai, Barics ac Amffitheatr yn cyfleu bywyd milwr llengol, tra bo gan Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rhufeinig arddangosiadau gwych o arteffactau y cafwyd hyd iddynt o amgylch y dref. Dilynwch y Llwybr Rhyngweithiol newydd i gael golwg arall ar y dref.

Aberhonddu
Pwynt gogleddol y ffordd yr oedd Gelligaer yn ei reoli, Caer Rufeinig Gaer Aberhonddu.

Tref Rufeinig Caer-went
Tref sifiliad sydd â rhai o’r adeiladau Rhufeinig gorau ym Mhrydain erbyn hyn.

Castell Caerdydd
Er bod hwn yn adnabyddus fel Castell Normanaidd, roedd craidd y safle yma’n gaer Rufeinig a adeiladwyd yn fuan yn ystod ymgyrch y Rhufeiniaid i reoli Cymru. Erbyn hyn mae waliau’r castell yn rhoi syniad i ni o ba mor fawreddog fyddai’r gaer Rufeinig ar y pryd.

Caer Rufeinig Caernarfon (Segontium)
Caer ategol, strategol oedd yn rheoli symudiad pobl ar draws Gogledd Cymru.