Y Rhufeiniaid yn Cyrraedd

Goresgynnwyd Prydain gan y Rhufeiniaid yn 43 OC ac o fewn 5 mlynedd roedd y fyddin yn brwydro ar y tir yr ydym yn ei alw’n Gymru erbyn hyn. Yn Ne Ddwyrain Cymru, roedd y boblogaeth leol yn bobl bwerus a gelyniaethus a chymerodd y Rhufeiniaid tua 30 o flynyddoedd i gael y gorau arnyn nhw. Dim ond wedyn yr aeth y Rhufeiniaid ati i adeiladu eu Caer Rufeinig yng Nghaerllion lle’r oedd Ail Leng Awgwstws wedi’i seilio o 74/75 OC.

O’r pwynt hwn ymlaen roedd hyd at 25,000 o filwyr wedi’u gosod ledled Cymru. Codwyd caerau yn achlysurol ar hyd y rhwydwaith ffyrdd i gadw rheolaeth ar y bobl frodorol a’u rhwystro rhag gwrthryfela - ac roedd Gelligaer yn un o’r caerau yma.

Mae’n debyg bod y gaer gyntaf wedi’i hadeiladu yn 74-78 OC a’i bod wedi’i hadeiladu o bridd a phren. Roedd yn mesur 174m x 120m – gwersyll mawr fyddai wedi gallu dal 1000 o w?r traed neu 500 o w?r meirch.

Mae’n ymddangos bod caer garreg newydd a llai wedi’i hadeiladu i’r de rywbryd rhwng 103 a 111 OC. Roedd yr adeilad yma ar ffurf arferol, nodweddiadol adeiladau Rhufeinig - ar siâp carden chwarae gyda rhagfuriau, ffosydd a thyrrau’n ei ddiogelu, pedwar porth ac adeiladau megis Ysguboriau (Horrea), Barics (Centuriae) a Th?’r Cadlywydd (Praetorium).