Rhoi gwybod am blentyn mewn perygl
Os ydych yn ansicr a yw plentyn yn dioddef ond eich bod yn poeni, neu os ydych yn poeni bod plentyn wedi dioddef niwed, esgeulustod neu gamdriniaeth, rhowch wybod i ni’n syth drwy gysylltu â’n Tîm Cyswllt a Chyfeirio.
Mewn argyfwng y tu allan i oriau swyddfa arferol, gallwch gysylltu â’n Tîm Dyletswydd Brys neu’r Heddlu drwy ffonio 999.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn rhoi gwybod i chi am fy mhryderon?
Pan fyddwch yn rhoi gwybod y gall plentyn fod mewn perygl, byddwn yn cynnal ymholiadau a fydd yn dilyn Gweithdrefnau Diogelu Plant Cymru Gyfan a all arwain at ymchwiliad ac asesiad ffurfiol. Gall hyn gynnwys asiantaethau amrywiol fel yr heddlu, iechyd neu addysg.
Pan fo angen, caiff camau eu cymryd ar unwaith i sicrhau bod y plentyn neu’r person ifanc yn cael ei ddiogelu rhag niwed. Byddwch yn cael cymorth a chyngor i’ch helpu chi i feddwl am ba gamau y gallwch chi eu cymryd i sicrhau diogelwch y plentyn.
Caiff unrhyw beth fyddwch yn ei ddweud ei drin mewn modd sensitif ond efallai bydd yn rhaid dweud wrth bobl eraill er mwyn helpu i ymchwilio i’ch pryderon.
Diogelu Gwent
Bwrdd Diogelu Oedolion Gwent gyfan (GwASB) a Bwrdd Diogelu Plant De Ddwyrain Cymru (SEWSCBB) yw'r Byrddau partneriaeth aml-asiantaeth statudol sy'n gyfrifol am sicrhau bod diogelu wrth wraidd yr holl wasanaethau a ddarperir ar draws y rhanbarth. Cânt eu cefnogi yn eu gwaith gan nifer o is-grwpiau sy'n rheoli'r gwaith busnes craidd a darnau mwy penodol o waith sy'n cyflawni'r blaenoriaethau strategol a bennwyd gan y Byrddau bob blwyddyn.
Er bod dau Fwrdd Diogelu ar wahân ar hyn o bryd, cynhelir Bwrdd Diogelu Oedolion Gwent gyfan (GwASB) a Bwrdd Diogelu Plant De Ddwyrain Cymru (SEWSCBB), mae deunyddiau hyrwyddo a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth yn defnyddio brand Diogelu Gwent. Y brand hwn yw'r enw a'r logo trosfwaol sy'n berthnasol i'r ddau Fwrdd. Cefnogir Byrddau ac is-grwpiau gan Uned Diogelu Busnes Gwent sy'n gweithio gydag aelodau'r Bwrdd ac is-grwpiau i gyflawni'r canlyniadau penodedig.
Rhoi gwybod am blentyn sydd mewn perygl