Cael help gyda'ch biliau ynni chi
Fel cyngor, rydyn ni wedi ymrwymo i helpu ein trigolion ni i leihau eu biliau tanwydd nhw a chadw'n gynnes ac yn iach.
Mae sawl cynllun bellach ar gael i drigolion ddatrys hyn, o daliadau cymorth Llywodraeth y DU, gosod gwres canolog am ddim, newid cyflenwr ynni, cymorth gyda dyledion tanwydd, mesurau arbed ynni, offer ynni effeithlon a mwy
Cymorth Llywodraeth y DU
Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Mae’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn ostyngiad untro o £150 oddi ar eich bil trydan.
Fel arfer, byddwch chi'n cael y gostyngiad yn awtomatig os ydych chi'n gymwys. Efallai y gallwch chi gael y gostyngiad ar eich bil nwy yn lle hynny os yw eich cyflenwr yn darparu nwy a thrydan i chi a’ch bod chi'n gymwys. Cysylltwch â'ch cyflenwr i gael gwybod.
Ni fydd y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn effeithio ar eich Taliad Tywydd Oer na’ch Taliad Tanwydd Gaeaf.
Taliadau Tywydd Oer
Efallai y cewch chi Daliad Tywydd Oer os ydych chi'n cael budd-daliadau penodol neu Gymorth ar gyfer Llog ar Forgais.
Mae cynllun Taliad Tywydd Oer 2023 i 2024 bellach wedi dod i ben. Bydd cynllun y flwyddyn nesaf yn dechrau ar 1 Tachwedd 2024. Byddwch chi'n gallu gwirio a oes taliad yn ddyledus i’ch ardal ym mis Tachwedd 2024.
Taliad Tanwydd y Gaeaf
Os ydych chi'n gymwys i gael pensiwn y wladwriaeth neu rai budd-daliadau eraill, gallech chi fod yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf i'ch helpu chi i dalu'ch biliau gwresogi.
Bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n gymwys yn cael y taliad yn awtomatig. Os na, bydd angen i chi wneud hawliad.
I gael rhagor o wybodaeth am Daliadau Tanwydd Gaeaf a sut i wneud cais, ewch i'r dudalen Taliad Tanwydd Gaeaf neu ffonio 0800 731 0160.
Arbedion ynni cartref
Os ydych chi’n cael trafferth talu eich biliau tanwydd chi, cysylltwch â'ch cyflenwyr ynni chi yn y lle cyntaf. Mae'r rhan fwyaf yn cynnig tariffau llai ar gyfer pobl incwm isel neu’r rhai sy'n agored i niwed.
Cyngor ar Bopeth
Mae Prosiect Cyngor ar Ynni Moondance Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor ynni un-i-un i bobl dlawd ac agored i niwed sy'n cael trafferth talu eu biliau nhw. Maen nhw'n cynnig cyngor ar opsiynau tanwydd, tariffau a grantiau ynni, effeithlonrwydd ynni a gwneud y mwyaf o incwm.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth a sut i gael gafael ar gymorth, cysylltwch â'r gwasanaeth Cymorth Tenantiaeth ar SwyddfaCymorthTenantiaeth@caerffili.gov.uk neu ffonio call 01443 866534.
Cyflenwyr Ynni a Chyfleustodau
Mae cleientiaid sydd mewn dyled i'w cyflenwr ynni yn gallu cael grant i helpu i'w dalu.
Fodd bynnag, mae llawer o'r cyflenwyr ynni yn gofyn i chi ofyn am gyngor yn gyntaf gan elusen cyngor dyled cydnabyddedig.
Mae'r cyflenwyr ynni a chyfleustodau canlynol yn cynnig grantiau i'w cwsmeriaid nhw:
Cronfa Cymorth Dewisol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn darparu 2 fath o grant nad oes angen i chi eu talu'n ôl.
Taliad Cymorth Brys
Grant i helpu talu am gostau hanfodol, fel bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn argyfwng os ydych chi:
- yn profi caledi ariannol eithafol
- wedi colli eich swydd chi
- wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac rydych chi’n aros am eich taliad cyntaf chi
Ni allwch chi ei ddefnyddio i dalu am filiau parhaus na allwch chi fforddio eu talu.
Ewch i Cronfa Cymorth Dewisol (DAF) | LLYW.CYMRU am ragor o wybodaeth a chyngor ar sut i wneud cais.
Taliad Cymorth i Unigolion
Grant i'ch helpu chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdano i fyw'n annibynnol yn eu cartref neu eiddo rydych chi neu nhw'n symud iddo.
Mae modd defnyddio'r grant i dalu am nwyddau gwynion a dodrefn.
Dim ond trwy gais â chymorth gan weithiwr cymorth mae modd cael mynediad at y grant hwn. I gael rhagor o gyngor a chymorth, cysylltwch â Gofalu am Gaerffili ar GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 811490.
Cyngor pellach
Nyth Cymru
Mae Nyth Cymru yn darparu cyngor a chymorth ar wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref. Ewch i wefan Nyth Cymru neu ffonio 0808 808 2244.
Mesuryddion Smart
Mae monitro eich defnydd chi o ynni a nodi arbedion posibl yn eich cartref chi yn gallu helpu. Cysylltwch â'ch cyflenwr chi am ragor o wybodaeth.
Age UK
Mae Age UK yn cynnig nifer o adnoddau sy’n gallu eich helpu chi i ddeall eich biliau ynni a'r hyn allwch chi ei wneud i gadw ar ben costau cynyddol.
I gael rhagor o gyngor a chymorth mewn perthynas â thalu eich biliau ynni neu leihau cost eich biliau, gan gynnwys gwella effeithlonrwydd ynni eich cartref, cysylltwch â Gofalu am Gaerffili ar GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 811490.