Help gyda budd-daliadau, rhenti, a biliau eraill (Cyngor ar fudd-daliadau)
Mae'n bwysig eich bod chi’n cael yr holl fudd-daliadau, credydau treth a chymorth ariannol arall y mae gennych chi’r hawl iddyn nhw.
Gostyngiad Treth y Cyngor
Gwiriwch a ydych chi’n gymwys a gwneud cais i gael arian oddi ar eich bil Treth y Cyngor chi os ydych chi ar incwm isel neu’n hawlio budd-dal tai neu Gredyd Cynhwysol.
Taliadau Tai Dewisol
Mae Taliadau Tai Dewisol yn darparu budd-dal tai i hawlwyr a chostau tai Credyd Cynhwysol gyda chymorth ariannol pellach i helpu talu eu costau tai nhw.
Grantiau a budd-daliadau addysg
Gwybodaeth a chymorth gan gynnwys prydau ysgol am ddim, pasys bws ysgol a choleg, cyllid myfyrwyr a'r Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad i helpu tuag at gostau gwisg ysgol, chwaraeon ac offer arall.
Gwneud cais am Fudd-dal Tai
Mae’n bosibl gwneud cais newydd ar gyfer hawlwyr oedran Pensiwn neu rai mewn llety Byw â Chymorth/Tai Lloches.
Grantiau a benthyciadau tai
Gwybodaeth am gymorth grant sydd ar gael i helpu perchnogion tai ac, mewn rhai amgylchiadau, tenantiaid, er mwyn atgyweirio, gwella neu addasu eich cartref chi.
Cymorth Llywodraeth y DU ar gyfer costau byw: taflenni ffeithiau
Popeth y mae angen i chi ei wybod am becyn cymorth costau byw’r llywodraeth i helpu gyda'ch biliau ynni a’ch biliau cartref eraill chi.
Taflen Ffeithiau Pecyn Costau Byw
Credyd Cynhwysol
Darganfyddwch a ydych chi’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol, gwneud cais a chael cyngor i ddatrys unrhyw broblemau sydd gennych chi.
Budd-daliadau a grantiau Gofal Cymdeithasol
Mae Llywodraeth y DU yn darparu nifer o fuddion iechyd a gofal cymdeithasol i ddinasyddion sy'n gymwys ar eu cyfer gan gynnwys: -
- Lwfans Gweini
- Lwfans Gofalwyr
- Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer plant dan 16 oed
- Grant Cyfleusterau i'r Anabl
- Taliad Annibyniaeth Bersonol
Gwasanaeth Cefnogi Pobl
Mae Cefnogi Pobl yn gallu darparu cyngor am ddim i bawb o ran budd-daliadau, cymorth i lenwi ffurflenni cais a gwiriadau budd-dal er mwyn sicrhau bod hawliau'n gywir. Ewch i dudalen we Cefnogi Pobl am fanylion.
Cyngor pellach
Am gyngor, arweiniad, a chymorth gyda'r ystod lawn o fudd-daliadau lles, ewch i’n tudalen budd-daliadau a grantiau ni
Rhent, siopa, gwresogi... mae yna gost ar gyfer pob un. Ydych chi'n colli allan ar fudd-daliadau? Mae Advicelink Cymru yn gallu eich helpu chi i wirio a hawlio beth sy’n ddyledus i chi. Ffoniwch y llinell gymorth am ddim: 0808 250 5700
Yn dibynnu ar eich sefyllfa chi, gallwch chi ddefnyddio cyfrifianellau budd-dal Turn2us neu Entitledto i wirio pa fudd-daliadau y gallwch chi eu cael.
Bydd angen eich gwybodaeth chi am gynilion, incwm, pensiwn, taliadau gofal plant ac unrhyw fudd-daliadau presennol (rhai chi a'ch partner chi).
Mae Age UK hefyd yn cynnwys cyfrifiannell ar-lein i helpu pobl hŷn i weithio allan pa fudd-daliadau y mae ganddyn nhw yr hawl iddyn nhw.
Defnyddiwch eu cyfrifiannell budd-daliadau ar-lein rhad ac am ddim i ddarganfod a oes gennych chi hawl i arian nad ydych chi’n ei hawlio ar hyn o bryd.