Cymorth gyda swyddi, sgiliau, a chyflogaeth

jobs, skills and employment support

Swyddi gwag yn y Cyngor

Mae gan Dîm Caerffili dros 8,000 o staff sy'n cynorthwyo cymunedau i ffynnu. 

Rydyn ni’n weithlu mawr ac amrywiol gyda darparu gwasanaethau cyhoeddus wrth galon ein gwaith ni.

Os ydych chi’n frwdfrydig am wneud gwahaniaeth, ymunwch â Thîm Caerffili – rydyn ni’n well gyda'n gilydd.

Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau i oedolion yn y gymuned a rhaglenni eraill i helpu gwella eich sgiliau a'ch rhagolygon gwaith chi.

Tîm Cymorth Cyflogaeth Caerffili

Mae ein Tîm Cymorth Cyflogaeth yn cynnig siop un stop ar gyfer cymorth cyflogaeth. Os ydych chi'n chwilio am waith nawr neu yn y dyfodol, neu'n ystyried newid eich swydd bresennol, dod o hyd i ragor o waith, ailhyfforddi neu ennill cymwysterau, bydd y Tîm Cymorth Cyflogaeth yn gallu helpu!

Mae rhagor o gymorth ar gael oddi wrth y canlynol:

  • Gyrfa Cymru - yn eich helpu chi i gynllunio eich gyrfa chi, paratoi am gael swydd, a dod o hyd i'r prentisiaethau, cyrsiau a hyfforddiant cywir a gwneud cais amdanyn nhw. 
  • Canolfan Byd Gwaith a Mwy
  • Dod o hyd i swydd - Canfod swyddi amser llawn neu ran amser yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.  Mae'r gwasanaeth hwn wedi disodli Universal Jobmatch. 
Contact us