Cymorth iechyd meddwl a lles
Ydy'r cynnydd mewn costau byw yn achosi straen i chi?
Rydyn ni oll yn teimlo effaith y cynnydd presennol mewn costau byw. I lawer ohonom ni, mae hyn wedi dod yn fwy na chynnydd costau byw – mae wedi dod yn argyfwng costau byw. Ni ddylai unrhyw un orfod dewis rhwng gwresogi neu fwyta, ond mae hyn yn dod yn realiti dyddiol i lawer.
Mae arian ac iechyd meddwl yn aml yn gysylltiedig – mae poeni am arian yn gallu effeithio ar eich iechyd meddwl chi, ac mae iechyd meddwl gwael yn gallu gwneud rheoli eich arian chi yn anodd. Mae poeni am arian yn gallu arwain at deimladau o bryder, straen, iselder, dicter.
Mae yna lawer o wasanaethau cymorth ar gael i helpu os ydych chi'n cael trafferth.
Aros yn Iach
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – Iachach Gyda'n Gilydd - Yma i'ch helpu chi a'ch teulu chi i gadw'n iach.
Mae costau byw yn gally bod yn straen arnoch chi a'ch teulu chi. Mae Iachach Gyda'n Gilydd yma i chi a'ch teulu chi gydag amrywiaeth o gyngor am iechyd a lles i rieni, pobl ifanc a menywod beichiog.
Melo Cymru - Mae Melo yn cynnwys gwybodaeth, cyngor ac adnoddau hunangymorth i helpu gofalu am eich iechyd meddwl a lles chi. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi datblygu'r wefan hon gyda phartneriaid i ofalu am les meddyliol pobl sy'n byw ac yn gweithio yng Ngwent.
Rydyn ni wedi casglu'r adnoddau hunangymorth gorau sydd ar gael am ddim a'u rhoi mewn un lle. Yma, byddwch chi’n gweld cyrsiau, apiau, fideos, sain, llyfrau a gwefannau i gymorth pellach. Mae'r holl adnoddau am ddim ac yn Gymraeg lle mae ar gael.
Iechyd Cyhoeddus Cymru - Nod ymgyrch Iechyd Cyhoeddus Cymru o’r enw ‘Sut wyt ti?’ yw cefnogi pobl Cymru i ofalu am eu lles nhw. Mae gwybodaeth ar gael ar y canlynol:
- Pam mae fy lles meddyliol yn bwysig?
- Sut i ofalu am eich lles chi
- Sut i gael gafael ar gymorth
Am wybodaeth mewn fformatau hygyrch ac mewn sawl iaith, ewch i: Aros yn Iach Gartref.
MIND – Arian ac iechyd meddwl - Mae iechyd meddwl gwael yn gallu gwneud ennill a rheoli arian yn anoddach. Mae poeni am arian yn gallu gwneud eich iechyd meddwl chi yn waeth. Mae'n gallu dechrau teimlo fel cylch dieflig.
Dysgwch ragor ar wefan MIND am drefnu eich cyllid chi, hawlio budd-daliadau pan fo gennych chi broblem iechyd meddwl, delio â gwasanaethau, ac edrych ar ôl eich iechyd meddwl chi pan rydych chi’n poeni am arian.
Cyngor ar iechyd meddwl ac arian - Ewch i'r wefan cyngor ar iechyd meddwl ac arian i gael cyngor a chymorth clir, ymarferol i bobl sy'n cael problemau gydag iechyd meddwl ac arian.