Trawsnewid System Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Cod ADY
Pasiwyd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12 Rhagfyr 2017 a daeth yn Ddeddf ar 24 Ionawr 2018 ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol. Bydd hyn yn creu'r fframwaith deddfwriaethol i wella cynllunio a darpariaeth ddysgu ychwanegol, drwy ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn nodi anghenion yn gynnar, rhoi cymorth effeithiol ar waith a monitro ac addasu ymyriadau i sicrhau eu bod yn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir.
Cefnogir y Ddeddf gan:
- rheoliadau - deddfwriaeth eilaidd pan fo angen rhagor o fanylion
- Cod ADY - canllawiau statudol a gofynion gorfodol i helpu pobl a sefydliadau i weithio o fewn y gyfraith.
Bydd dyletswydd ar awdurdodau lleol, lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion a darparwyr addysg bellach i benderfynu a oes gan blant a phobl ifanc 0-25 oed anghenion dysgu ychwanegol (ADY), sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDY).
Os yw ysgol neu leoliad yn penderfynu bod gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol (ADY), rhaid paratoi Cynllun Datblygu Unigol (CDU) ar gyfer y plentyn neu'r person ifanc hwnnw.
Pan nodir anghenion sy'n dod i'r amlwg, yn arbennig mewn plant ifanc iawn, nid yw hyn o reidrwydd yn gofyn am nodi angen dysgu ychwanegol ond efallai y bydd angen ymyrraeth gynnar arnynt.
Apelio
Os nad ydych yn hapus â phenderfyniad a wnaed ynghylch ADY neu CDU gan ysgol, gallwch chi ofyn i ni adolygu neu ailystyried y penderfyniad.
Mae gan bob plentyn, eu rhieni neu ofalyddion a phobl ifanc hyd at 25 oed yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Addysg yn erbyn penderfyniadau a wneir gan awdurdod lleol neu sefydliad addysg bellach mewn perthynas â'u ADY neu eu CDU.
Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru
Mae Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC) wedi newid ei enw i Dribiwnlys Addysg Cymru (TAC). Mae'r canllawiau ar y wefan hon yn berthnasol i apeliadau AAA yn unig. Ewch i'n gwefan Tribiwnlys Addysg Cymru i gael canllawiau ar hawliadau ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd ac apeliadau ADY.
Adeiladau'r Llywodraeth
Spa Road East
Llandrindod
Powys
LD1 5HA
Llinell gymorth: 0300 025 9800
Ffacs: 0300 025 9801
Ebost: tribunal.enquiries@llyw.cymru
Gwefan: https://tribiwnlysanghenionaddysgolarbennig.llyw.cymru
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Statudol Dysgu, Addysg a Chynhwysiant.