CYNLLUN GWEITHREDU STRATEGOL #TÎMCAERFFILI

(Cliciwch ar bennawd pob adran am ragor o fanylion)

Rhif CAM GWEITHREDU GWLEIDYDD / SWYDDOG SY’N ARWAIN AMSERLEN
> CREU’R DIWYLLIANT SEFYDLIADOL IAWN (ADRAN 5): -
1. Rhoi’r wedd derfynol ar y Llyfr Diwylliant, ei gymeradwyo a’i lansio’n ffurfiol gyda’r staff Arweinydd Prif Weithredwr 30 Tachwedd 2019
>HYBU A CHEFNOGI ARLOESEDD (ADRAN 6): ‐
2. Menter Caniatâd i Arloesi i gael ei lansio Arweinydd Prif Weithredwr Yn ystod y Sioeau Teithiol i’r Staff (Hydref 2019)
3. Cynllun cydnabod y staff Ymdrechu at Ragoriaeth i gael ei lansio Arweinydd Prif Weithredwr Yn ystod y Sioeau Teithiol i’r Staff (Hydref 2019)
> COLEDDU TECHNOLEGAU NEWYDD – “DIGIDOL YN GYNTAF” (ADRAN 7): ‐
4. Strategaeth Cwsmeriaid a Digidol i gael ei chymeradwyo gan y Cabinet Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol 12 Mehefin 2019
5. Cynnydd yn erbyn camau gweithredu allweddol yn y Strategaeth Cwsmeriaid a Digidol i gael ei adrodd yn rheolaidd i’r Grŵp Arweinyddiaeth Ddigidol a chael ei fonitro’n rheolaidd ganddo. Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol Yr amlder i gael ei gytuno
> SEFYDLU RHAGLEN STRWYTHUREDIG O ADOLYGIADAU GWASANAETHAU (ADRAN 8): ‐
6. Cynlluniau peilot Adolygiadau Gwasanaethau yn y Gwasanaeth Arlwyo a’r Gwasanaeth Glanhau Adeiladau i gael eu cwblhau Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd a Diogelu’r Cyhoedd Pennaeth Gwasanaethau Gwella Busnes 31 Gorffennaf 2019
7. Cyfeiriadur Gwasanaethau i gael ei gwblhau Arweinydd Prif Weithredwr 30 Medi 2019
8. Methodoleg gyson ar gyfer Adolygiadau Gwasanaethau i gael ei mabwysiadu Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Llywodraethu Pennaeth Gwasanaethau Gwella Busnes 30 Medi 2019
9. Rhaglen strwythuredig o Adolygiadau Gwasanaethau i gael ei chytuno Cabinet Pennaeth Gwasanaethau Gwella Busnes Cymeradwyaeth gan y Cabinet erbyn 31 Hydref 2019
> MABWYSIADU YMAGWEDD FWY MASNACHOL (ADRAN 9): ‐
10. Enwebu Aelod Cabinet fel Hyrwyddwr Masnachol y Cyngor Cabinet Pennaeth Gwasanaethau Gwella Busnes 12 Mehefin 2019
11. Strategaeth Fasnachol a Buddsoddi i gael ei drafftio a’i chymeradwyo gan y Cabinet Arweinydd Prif Weithredwr Cymeradwyaeth gan y Cabinet erbyn 31 Hydref 2019
12. Sefydlu Panel Masnachol Cabinet Pennaeth Gwasanaethau Gwella Busnes 30 Tachwedd 2019
13. Cyflawni adolygiad o bortffolio buddsoddiadau’r Cyngor Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Llywodraethu Prif Weithredwr a Swyddog Adran 151 31 Rhagfyr 2019
14. Ymchwilio i gyfryngau masnachu posibl a fyddai’n caniatáu inni fasnachu gyda sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a’r tu hwnt Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Llywodraethu Prif Weithredwr, Swyddog Adran 151 a Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol 31 Mawrth 2020
> YMGYSYLLTU A GWEITHIO GYDA’N CYMUNEDAU (ADRAN 10): ‐
15. Polisi Gwirfoddoli Corfforaethol i gael ei ddatblygu a’i dreialu i ddechrau mewn un maes gwasanaeth Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Llesiant Pennaeth Gwasanaethau Gwella Busnes 31 Rhagfyr 2019
16. Y Cabinet i roi gwedd derfynol ar Bolisi ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol a’i gymeradwyo Aelod Cabinet dros Gartrefi a Lleoedd Pennaeth Gwasanaethau Gwella Busnes 31 Rhagfyr 2019
17. Datblygu Fframwaith Ymgynghori ac Ymgysylltu i gynorthwyo cymunedau wedi’u grymuso i ddod ar y daith hon gyda ni Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Llywodraethu Prif Weithredwr 31 Rhagfyr 2019
> MYND ATI I CHWILIO AM GYFLEOEDD I GYDWEITHIO (ADRAN 11): ‐
18. Ymchwilio i gyfleoedd newydd posibl i gydweithio lle gall y Cyngor fod yn Ddewis Bartner Cabinet Tîm Arwain 30 Tachwedd 2019
19. Adroddiad i gael ei baratoi yn nodi cynigion ar gyfer datblygu Hybiau Cymunedol ar draws y Fwrdeistref Sirol Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Llesiant Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai 31 Rhagfyr 2019
> ADNODDAU A GALLU (ADRAN 12): ‐
20. Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i benodi tri Rheolwr Trawsnewid ar gontractau cyfnod penodol am ddwy flynedd i ddechrau Cabinet Pennaeth Gwasanaethau Gwella Busnes Cymeradwyaeth gan y Cabinet ar 12 Mehefin 2019
21. Gwreiddio’r Asesiadau Perfformiad Cyfarwyddiaethau newydd ar draws y Cyngor Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Llywodraethu Pennaeth Gwasanaethau Gwella Busnes Adroddiadau chwarterol o Fehefin 2019 ymlaen
> SICRHAU BOD GENNYM WEITHLU SY’N ADDAS I’R DYFODOL (ADRAN 13): ‐
22. Proses Adolygu Datblygiad Perfformiad i gael ei hadolygu Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol Pennaeth Gwasanaethau Pobl 30 Medi 2019
23. Y Cabinet i roi gwedd derfynol ar y Strategaeth Datblygu’r Gweithlu: Yn Well Gyda’n Gilydd a’i chymeradwyo Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol Pennaeth Gwasanaethau Pobl 31 Ionawr 2020
> TREFNIADAU RHEOLI’R RHAGLEN (ADRAN 14): ‐
24. Cylch Gorchwyl i’r Bwrdd Prosiect i gael ei gytuno a’i gymeradwyo’n ffurfiol Arweinydd Y Bwrdd Prosiect Gorffennaf 2019
> CYNLLUN GWEITHREDU STRATEGOL #TÎM CAERFFILI (ADRAN 15): ‐
25. Adroddiadau cynnydd ar y Cynllun Gweithredu Strategol i gael eu cyflwyno i: -
  • Y Bwrdd Prosiect yn chwarterol
  • Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau a’r cabinet pob chwe mis
  • Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Llywodraethu Pennaeth Gwasanaethau Gwella Busnes Amserlenni fel y dangosir yn ‘Cam gweithredu’
    26. Camau gweithredu allweddol yn y Cynllun Gweithredu Strategol i gael eu cynnwys yn yr Asesiadau Perfformiad Cyfarwyddiaethau Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Llywodraethu Pennaeth Gwasanaethau Gwella Busnes Yn chwarterol