1  Rhagair

Ein pwrpas canolog yw cefnogi cymunedau cynaliadwy a chydnerth ar draws y Fwrdeistref Sirol. Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi rheoli’r tyndra rhwng cyllid llai a’r galwadau cynyddol am wasanaethau. Mae’r bwlch yn dal i gynyddu, ac er mwyn ffynnu yn yr amgylchedd newydd hwn, mae angen ffordd newydd o feddwl. Rydym yn Gyngor cryf a chydnerth sydd â gwybodaeth fanwl am ein pobl a’n lle, felly rydym mewn sefyllfa dda i wynebu’r her ac achub ar y cyfleoedd y bydd ein taith drawsnewid yn eu cynnig.

Mae angen inni fod yn sicr ein bod yn darparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion amrywiol ein pobl, sy’n gynaliadwy, yn effeithlon ac yn effeithiol, gyda chefnogaeth lawn ein cymunedau. Rhaid inni hefyd ddod o hyd i’n lle mewn set gynyddol gymhleth o berthnasoedd y mae eu hangen erbyn hyn rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat, y gymuned a’r lle.

Rydym yn darparu mwy na 800 o wasanaethau i ddinasyddion Caerffili ac mae llawer o alwadau arnynt: -
• Yr her ariannol a’r angen i gyflawni mwy gyda llai;
• Ein poblogaeth sy’n heneiddio sydd eisiau gallu byw yn eu cartrefi eu hunain ac ar yr un pryd rheoli anghenion iechyd cymhleth;
• Ein cymunedau amrywiol a’r bwlch sydd gennym rhwng tlodi a ffyniant sy’n sail i’r angen am swyddi o ansawdd da ac amgylchedd lleol deniadol;
• Y newid yn yr hinsawdd a chostau cynyddol ynni, sy’n galw am ymagwedd ffocysedig at ynni gwyrdd; ac yn olaf
• Cyflymder technoleg ddigidol, a all gynnig cynifer o gyfleoedd i newid y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu a’r ffordd yr ydym yn gweithio gyda’n cymunedau.

Un ymateb syml i’r heriau hyn fyddai lleihau’r ddarpariaeth gwasanaethau a niferoedd staff – dull yr ydym yn ceisio ei wrthsefyll. Disgrifir ein model gweithredu sefydliadol presennol fel un “traddodiadol”, ond mae wedi ein gwasanaethu’n dda. Fodd bynnag, erbyn hyn mae’n rhaid inni ymestyn, meddwl am y dyfodol a sut olwg fydd ar ein Bwrdeistref Sirol yn y deng mlynedd nesaf ac wedyn.

Mae’r her yn fawr ond mae’r cyfleoedd i addasu ac ail-siapio’r Cyngor a’r Fwrdeistref Sirol yn fwy byth!

Rhaid i’n taith trawsnewid fynd rhagddi ar raddfa fawr ac yn gyflym, a’n hegwyddor ganolog sy’n sail i’r symudiad hwn yw bod gan y Cyngor Galon Gymdeithasol a Phen Masnachol.

Rhaid inni fod yn feiddgar ac yn ddewr. Rhaid inni allu rhagweld cyfleoedd yn y dyfodol a bod yn barod i wneud yn fawr ohonynt. Mae angen inni sicrhau ein bod yn barod am yr heriau rydym yn eu hwynebu.

Mae’r model gweithredu newydd ‘sefydliad cyfan’ hwn yn cael ei lansio fel #TîmCaerffili – Yn Well Gyda’n Gilydd. Mae ganddo bwrpas clir, sef: “creu gallu a rhagwelediad er mwyn datblygu atebion i rai o’r heriau mwyaf i’r Fwrdeistref Sirol, gan sicrhau bod y Cyngor yn deall ac yn ymateb i anghenion a blaenoriaethau newidiol ein cymunedau”.

Mae’r rhaglen yn mynd â ni i ddechrau i’n carreg filltir allweddol gyntaf sef 2022 (i gyd-fynd â’r weinyddiaeth bresennol) ac yna’r tu hwnt. Bydd yn ystyried popeth a wnawn a sut y byddwn yn ei wneud yn y dyfodol.

Ni ellir cael effaith wirioneddol ond os ydym ni i gyd yn gweithio tuag at yr un amcanion gyda’n gilydd a dyma lle bydd pŵer #TîmCaerffili wir yn gweithio. Rydym ni i gyd yn caru ac yn gofalu am ein Bwrdeistref Sirol ac mae gennym ni i gyd ran gyfartal i’w chwarae yn y gwaith o’i siapio – boed unigolyn, busnes, ysgol, grŵp cymunedol, Cynghorydd neu un o swyddogion y Cyngor – mae gan bob un ohonom fuddiant mewn sicrhau llwyddiant ein pobl a’n lle.

Dyma ein cyd-alwad i weithredu ac rydym yn ffyddiog bod gennym gyfle gwirioneddol i ffynnu trwy gydweithio fel #TîmCaerffili.

Llun o'r Cynghorydd David Poole a Christina Harrhy

Cyng. David Poole Arweinydd
Christina Harrhy Prif Weithredwr Dros Dro