12 ADNODDAU A GALLU

Mae maint yr her ariannol mae’r Cyngor yn ei hwynebu eisoes wedi cael ei nodi’n glir yn y Strategaeth hon. Er mwyn ymdrin â’r her hon mae’r Cabinet wedi cytuno ar set o Egwyddorion Arbedion y Cynllun Ariannol Tymor Canolig diwygiedig, fel a ganlyn: -

  • Byddwn yn ceisio amddiffyn gwasanaethau i’r rhai mwyaf agored i niwed ac ar yr un pryd parhau i werthuso pob gwasanaeth arall.
  • Byddwn yn cyfyngu ar effaith toriadau ar wasanaethau rheng flaen lle gallwn ac ar yr un pryd yn parhau i leihau gwariant ac ymchwilio i gyfleoedd i gynhyrchu ffynonellau incwm newydd.
  • Byddwn yn mabwysiadu ymagwedd fwy hirdymor at gynllunio ariannol sy’n ystyried yr effaith ar genedlaethau’r dyfodol.
  • Bydd angen inni dderbyn na fyddwn yn gallu cynnal y lefelau gwasanaeth presennol ond byddwn yn cyflwyno ffyrdd mwy arloesol o weithio trwy ddefnyddio technolegau sy’n dod i’r amlwg.
  • Byddwn yn ymgysylltu â’n cymunedau er mwyn deall eu hanghenion ac yn ymchwilio i opsiynau i ddarparu rhai gwasanaethau trwy gydweithio, partneriaethau, ymddiriedolaethau cymunedol ac ati er mwyn sicrhau y bydd cymunedau’n aros yn gydnerth ac yn gynaliadwy yn y tymor hirach.

Mae Strategaeth Trawsnewid #TîmCaerffili - Yn Well Gyda’n Gilydd yn alinio â’r egwyddorion hyn, a bydd datblygu ffyrdd newydd o weithio’n un o’r elfennau allweddol wrth sicrhau y bydd y Cyngor yn aros yn ariannol gydnerth yn y dyfodol.

Wrth i wahanol elfennau’r Strategaeth gael eu datblygu ymhellach bydd angen buddsoddiadau untro fel arian sefydlu ar gyfer y newidiadau i wasanaethau mae eu hangen. Bydd angen i fuddsoddiadau gael eu cefnogi gan achosion busnes cadarn sy’n dangos yn glir sut y bydd y cyllid yn arwain at effeithlonrwydd gwasanaethau ac arbedion.

Bydd hefyd angen sicrhau bod gennym ddigon o allu yn y Cyngor i fwrw ymlaen â’r rhaglen trawsnewid uchelgeisiol er mwyn ei gweithredu yn llwyddiannus. Byddwn yn harneisio’r amrywiaeth o sgiliau a phrofiad yn ein gweithlu ac yn creu cyfleoedd i’r staff arwain a chymryd rhan mewn gwahanol ffrydiau gwaith a fydd yn sicrhau y caiff y rhaglen ei gweithredu yn llwyddiannus.

Uned Polisi Corfforaethol y Cyngor fydd y man canolog ar gyfer cydgysylltu a gweinyddu’r rhaglen trawsnewid. At hynny, mae’r Uned Rheoli Perfformiad wedi gweithio gyda Thimau Rheoli Cyfarwyddiaethau yn y misoedd diwethaf i gyflwyno dull newydd o gynllunio gwasanaethau a rheoli perfformiad. Mae hyn wedi arwain at gyflwyno Asesiadau Perfformiad Cyfarwyddiaethau newydd, sydd wedi’u cynllunio i roi darlun o sut mae pob Cyfarwyddiaeth yn perfformio, yn ogystal â thynnu sylw at unrhyw gamau sy’n cael eu cymryd i ysgogi gwelliant.

Bydd gan yr Uned Polisi Corfforaethol ran allweddol i’w chwarae hefyd o ran gwneud ymchwil i arferion gorau arloesol a rhannu hon ar draws y Cyngor.

Er y byddwn yn gwneud y defnydd mwyaf posibl o’r staff presennol, bydd angen creu rhywfaint o allu ychwanegol i helpu i fwrw ymlaen â’n hymagwedd newydd yn gyflym. Felly bwriedir penodi tri Rheolwr Trawsnewid ar gontractau cyfnod penodol am ddwy flynedd i ddechrau. Y portffolios unigol i’r rheolwyr hyn fydd:-

  • Arloesi
  • Buddsoddi masnachol
  • Cynllunio’r gweithlu

Wrth inni symud ymlaen mae’n bosibl y bydd angen rhagor o allu o ran staff wrth i wahanol elfennau’r model gweithredu newydd gael eu datblygu ymhellach. Fodd bynnag, rhagwelir y bydd hyn ar sail ‘buddsoddi i arbed’ gan y bydd ffyrdd newydd o weithio yn sicrhau arbedion cynaliadwy o’r naill flwyddyn i’r llall.

CAMAU GWEITHREDU ALLWEDDOL AMSERLEN
Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i benodi tri Rheolwr Trawsnewid ar gontractau cyfnod penodol am ddwy flynedd i ddechrau Cymeradwyaeth gan y Cabinet ar 12 Mehefin 2019
Gwreiddio’r Asesiadau Perfformiad Cyfarwyddiaethau newydd ar draws y Cyngor Adroddiadau chwarterol o fis Mehefin 2019 ymlaen