13  SICRHAU BOD GENNYM WEITHLU SY’N ADDAS I’R DYFODOL

Ein staff yw ein hadnodd pwysicaf. Mae gennym weithlu brwdfrydig ac ymroddedig sy’n darparu gwasanaethau ardderchog i’n cymunedau pob dydd.

Gall llywodraeth leol fod yn amgylchedd heriol i weithio ynddo, ond mae darparu gwasanaethau lleol o ansawdd da yn rhoi boddhad. Ein staff yw asgwrn cefn ein gwaith i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da cyson. Yn gyfnewid am ymroddiad ein staff, mae’r awdurdod wedi ymrwymo i’w datblygu a’u cynorthwyo.

Rydym yn disgwyl rhai ymddygiadau penodol gan ein staff, ac yn gyfnewid maen nhw’n disgwyl gweithio mewn amgylchedd sy’n meithrin eu datblygiad ac yn rhoi iddynt y cymorth mae arnynt ei angen i wneud eu gwaith yn fwy effeithiol, ac sy’n cydnabod y cyfraniad maen nhw’n ei wneud.

Mae gennym bolisïau ardderchog ar gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan gynnwys cynllun gweithio hyblyg hael. Yn ddiweddar rydym wedi mabwysiadu set o egwyddorion gweithio ystwyth a fydd nid yn unig o werth i’r staff, ond a fydd hefyd yn cynnig y potensial i resymoli adeiladau trwy ffyrdd newydd o weithio.

Bydd y rhaglen trawsnewid sy’n dod i’r amlwg yn golygu y bydd angen inni newid y ffyrdd yr ydym yn cynorthwyo ein staff i ddarparu gwasanaethau. Bydd angen i’r berthynas rhwng y staff a’u rheolwyr fod yn gefnogol ac wedi’i seilio ar sgwrs barhaus. Bydd angen i’r staff gael eu harfogi â’r sgiliau iawn i fod yn sail i’r ffyrdd newydd o weithio ac mewn rhai achosion bydd angen i aelodau o’r staff gael eu hail-hyfforddi i gyflawni swyddi gwahanol gyda’r Cyngor.

Byddwn yn adolygu ein Proses Arfarnu Staff ac yn cyflwyno Strategaeth newydd ar Ddatblygu’r Gweithlu: Yn Well Gyda’n Gilydd. Un o brif elfennau hon fydd rhaglen hyfforddiant a datblygiad gadarn, gan gynnwys datblygiad arweinyddiaeth a rheoli, er mwyn sicrhau bod gennym y cymysgedd iawn o sgiliau a galluoedd i ddiwallu anghenion y Cyngor yn y dyfodol.

CAMAU GWEITHREDU ALLWEDDOL AMSERLEN
Proses Adolygu Datblygiad Perfformiad i gael ei hadolygu 30 Medi 2019
Y Cabinet i roi gwedd derfynol ar y Strategaeth Datblygu’r Gweithlu: Yn Well Gyda’n Gilydd a’i chymeradwyo 31 Ionawr 2020