14  TREFNIADAU RHEOLI’R RHAGLEN

Bydd trefniadau effeithiol i reoli’r rhaglen yn un o’r gofynion hanfodol er mwyn sicrhau y caiff y Strategaeth Trawsnewid ei gwireddu’n llwyddiannus. Y canlynol fydd yr elfennau allweddol: -

Noddwr y Rhaglen (Prif Weithredwr)

Bod yn atebol am y rhaglen, arwain y newid busnes a rhoi cymeradwyaeth lefel uchaf i sail resymegol ac amcanion y rhaglen.

Grŵp Noddi (Tîm Arwain)

Darparu ymrwymiad a chefnogaeth lefel uwch i’r rhaglen, yn ogystal â hyrwyddo ei gweithredu yn eu meysydd gwasanaeth priodol.

Uwch Swyddog Cyfrifol (Pennaeth Gwasanaethau Gwella Busnes)

Cymryd cyfrifoldeb o ddydd i ddydd am oruchwylio’r gwaith o weithredu’r rhaglen, a sicrhau y caiff trefniadau llywodraethu ac adrodd priodol eu sefydlu i fonitro’r gwaith o gyflawni camau gweithredu allweddol.

Bwrdd Prosiect (Tîm Rheoli Corfforaethol)

Darparu goruchwyliaeth strategol i’r rhaglen a chynorthwyo’r Uwch Swyddog Cyfrifol i ysgogi a monitro’r gweithredu cyffredinol. Bydd Cylch Gorchwyl y Bwrdd Prosiect yn cael ei gymeradwyo’n ffurfiol gan y Bwrdd yn ei gyfarfod cyntaf ym mis Gorffennaf 2019.

Cydgysylltu’r Rhaglen/Gweinyddu

Yr Uned Polisi Corfforaethol fydd man canolog cydgysylltu a gweinyddu’r rhaglen trawsnewid.

Bydd y cynnydd yn erbyn Cynllun Gweithredu Strategol #TîmCaerffili yn cael ei adolygu pob chwarter gan y Tîm Rheoli Corfforaethol, yn rhinwedd ei swydd fel Bwrdd Prosiect #TîmCaerffili.

Bydd adroddiadau cynnydd chwe-misol hefyd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau cyn cael eu hystyried gan y Cabinet.

Bydd camau gweithredu strategol y rhaglen trawsnewid hefyd yn cael eu cynnwys mewn Asesiadau Perfformiad Cyfarwyddiaethau, er mwyn sicrhau bod yna waith adolygu a monitro manwl ar lefel Cyfarwyddiaeth, a bod unrhyw broblemau sy’n dod i’r amlwg yn cael eu hanfon i fyny at y Bwrdd Prosiect.

CAMAU GWEITHREDU ALLWEDDOL AMSERLEN
Cylch Gorchwyl i’r Bwrdd Prosiect i gael ei gytuno a’i gymeradwyo’n ffurfiol Gorffennaf 2019