4  EIN MODEL GWEITHREDU NEWYDD

Mae #TîmCaerffili – Yn Well Gyda’n Gilydd yn rhaglen strategol o newid trawsnewidiol “awdurdod cyfan” a gyflawnir trwy fodel gweithredu newydd ar gyfer y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau.

Bydd angen inni symud i ffwrdd o fodelau traddodiadol o ddarparu gwasanaethau, coleddu newid, bod yn barod i arloesi a chymryd risgiau a reolir yn dda. Bydd angen hefyd inni foderneiddio trwy fanteisio ar dechnolegau sy’n dod i’r amlwg ac ymgysylltu’n llawn â’n gweithlu a’n cymunedau.

Yn ganolog i’r rhaglen newid hon fydd ein harwyddair newydd sef Calon Gymdeithasol a Phen Masnachol. Mae hyn yn cydnabod ein hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ac anghenion ein dinasyddion, ond mae hefyd yn dangos ymrwymiad i ymchwilio i gyfleoedd masnachol a buddsoddi, lle bo’n briodol, i gynhyrchu incwm y gellir ei ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau i’w helpu i aros yn gydnerth.

Bydd y rhaglen strategol hon o waith “awdurdod cyfan” yn cael ei chyflawni trwy’r themâu allweddol canlynol: -



(Cliciwch ar bob thema am ragor o fanylion)

Bydd y themâu allweddol hyn yn sail i’r model gweithredu newydd ar gyfer y Cyngor ac ynghyd â hyn dros y 3 blynedd nesaf byddwn yn dechrau ail-siapio ein cymunedau ar draws y Fwrdeistref Sirol trwy raglen trawsnewid integredig ond ffocysedig, a fydd yn cynnwys: -

  • Cwblhau rhaglen werth £261 miliwn o welliannau ffisegol i’n stoc tai erbyn 2020, trwy gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Gan ddefnyddio Cyfnod 2 o’r rhaglen SATC sy’n dod i’r amlwg, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein stoc tai presennol er mwyn darparu cartrefi fforddiadwy, ynni effeithlon o ansawdd da am oes. Ychwanegir at hyn trwy raglen gyffrous ac arloesol o gartrefi newydd eu hadeiladu.
  • Gweithredu’r Strategaeth Uchelgais a Rennir i godi safonau a sicrhau bod ein dysgwyr yn iach, yn hyderus, yn falch ac yn uchelgeisiol ac y gallant fanteisio ar gyfleoedd, lleoliadau a phrofiadau addysgol o ansawdd da.
  • Dechrau’r ail gyfnod o raglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, a fydd yn darparu gwerth £110 miliwn o gyfleusterau addysgol newydd.
  • Gweithredu Strategaeth Ddigidol y Cyngor, sy’n dod i’r amlwg, trwy agor y Drws Ffrynt Digidol a chyflwyno rhaglen trawsnewid digidol pellgyrhaeddol sy’n trawsnewid pob agwedd ar y gwaith o ddarparu gwasanaethau.
  • Darparu Canolfan Blant newydd, a fydd yn ganolfan ragoriaeth o’r radd flaenaf, yn darparu gofal seibiant a gwasanaethau therapiwtig i blant agored i niwed a’u teuluoedd.
  • Parhau i weithredu’r Strategaeth Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden Egnïol, gan ddarparu ymagwedd gynaliadwy at y ddarpariaeth gweithgareddau hamdden a chorfforol.
  • Cyflwyno arlwy gwasanaethau cyhoeddus “siop un stop” integredig yng nghanol ein cymunedau, trwy ddarparu hybiau integredig mewn mannau strategol, gan wella ein hymgysylltiad â’r cyhoedd a’n harlwy gwasanaethau iddo.
  • Rhaglen gyffrous o fuddsoddiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i alluogi twf a chyfle cynhwysol ar draws y Fwrdeistref Sirol, sy’n ein halinio’n gadarn ag uchelgeisiau economaidd y Ddinas-Ranbarth. Bydd hyn hefyd yn cynnwys sicrhau’r rhinweddau mwyaf posibl inni o ran ynni gwyrdd trwy ddefnyddio ein hasedau mewn modd effeithiol ac arloesol.
  • Gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau ariannol trwy ymagwedd buddsoddi seiliedig ar risgiau a reolir er mwyn ein galluogi i gyflawni’r rhaglen.

Bydd trefniadau cadarn o ran llywodraethu a rheoli rhaglenni’n cael eu sefydlu er mwyn sicrhau y cytunir ar gerrig milltir allweddol i gynorthwyo â chyflawni’r prosiectau strategol allweddol hyn yn llwyddiannus.