3  EIN GWELEDIGAETH A’N PWRPAS

Bydd Cabinet presennol y Cyngor yn arwain y weinyddiaeth tan yr etholiadau llywodraeth leol nesaf ym mis Mai 2022. Lansiodd y Cabinet set o ymrwymiadau i’r sefydliad, i’r staff ac i gymunedau yn gynnar yn ei gyfnod mewn swydd, sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Corfforaethol 2018-2023 y Cyngor.

Dyma ymrwymiadau’r Cabinet: -

  • Byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i ddiogelu swyddi a gwasanaethau yn yr hinsawdd ariannol heriol bresennol.
  • Byddwn yn adeiladu ar enw da Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fel awdurdod lleol arloesol sy’n perfformio’n dda.
  • Byddwn yn sicrhau bod gennym weithlu llawn ymroddiad a chymhelliad.
  • Byddwn bob amser yn ymdrechu i sicrhau bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn rhoi gwerth am arian ym mhopeth mae’n ei wneud.
  • Byddwn yn helpu i warchod y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac yn gwneud diogelu’n un o’n prif flaenoriaethau.
  • Byddwn bob amser yn croesawu adborth ac yn ystyried barn preswylwyr, staff a rhanddeiliaid allweddol eraill.
  • Byddwn yn agored, yn onest ac yn dryloyw ym mhopeth a wnawn.
Bydd yr ymrwymiadau hyn yn rhan annatod o’r rhaglen trawsnewid gwasanaethau sy’n dod i’r amlwg a bydd angen i newidiadau i fodelau darparu gwasanaethau yn y dyfodol hefyd alinio â’r 6 Amcan Llesiant a nodir yng Nghynllun Corfforaethol 2018-2023, sef: -
  • Gwella cyfleoedd addysg i bawb.
  • Galluogi cyflogaeth.
  • Mynd i’r afael â chyflenwad, cyflwr a chynaliadwyedd cartrefi ledled y fwrdeistref sirol a darparu cyngor, cymorth neu gefnogaeth er mwyn helpu i wella iechyd a lles pobl.
  • Hyrwyddo system trafnidiaeth fodern, integredig a chynaliadwy sy’n cynyddu cyfleoedd, yn hybu ffyniant ac yn lleihau’r effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd gymaint ag sy’n bosibl.
  • Creu Bwrdeistref Sirol sy’n cefnogi Ffordd Iach o Fyw yn unol â’r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
  • Cynorthwyo dinasyddion i aros yn annibynnol a gwella eu llesiant.
Casgliad o ddelweddau sy'n dangos Pont y Siartwyr, adeilad swyddfeydd Tŷ Penallta, a dyn a menyw yn cerdded gan ddal dwylo a gwenu

Mae ein Hamcanion Llesiant yn cael eu hadlewyrchu yn amcanion ein partneriaid ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili, ac yn cefnogi’r amcanion hynny. Ar draws y sector cyhoeddus a gwirfoddol rydym yn cydweithio i sicrhau llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Mae gan y model gweithredu newydd bwrpas clir, sef - “creu gallu a rhagwelediad er mwyn datblygu atebion i rai o’r heriau mwyaf i’r Fwrdeistref Sirol, gan sicrhau bod y Cyngor yn deall ac yn ymateb i anghenion a blaenoriaethau newidiol ein cymunedau”..

Ni fydd gwir gryfder ac effaith yr ymagwedd newydd a nodir yn ein strategaeth trawsnewid yn cael eu gwireddu ond os byddwn i gyd yn cydweithio tuag at yr un nodau ac amcanion. Mae gennym ryw 9,000 o staff ar draws y Cyngor ac rydym yn gwasanaethu rhyw 180,000 o breswylwyr. Mae gennym gymuned fusnes sylweddol ar draws y Fwrdeistref Sirol, 86 o ysgolion a llawer o grwpiau cymunedol.

‘Gweithio’n gytûn er lles pawb’ yw datganiad cenhadaeth yr awdurdod ers iddo gael ei greu yn 1996. Mae’r cysyniad hwn yn dal i fod yn berthnasol, ond caiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun dinesig yn bennaf erbyn hyn.

Rydym ni i gyd yn falch iawn o’n Bwrdeistref Sirol ac mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae yn y gwaith o helpu i’w siapio. Y gyd-ymagwedd hon rydym eisiau ei harneisio a’i hatgyfnerthu trwy ein dull cyflawni newydd fel #TîmCaerffili - Yn Well Gyda’n Gilydd.

Bydd ein hymagwedd newydd yn adlewyrchu’r ‘ethos tîm’ y byddwn yn ei feithrin ledled ein sefydliad ac yn wir y Fwrdeistref Sirol ehangach a’n cymunedau.