2  CYFLWYNIAD

Mae’r awdurdod yn dechrau ar raglen trawsnewid fawr i edrych ar sut y caiff gwasanaethau eu blaenoriaethu a sut y gallant ddod yn fwy busnes effeithlon, i ymchwilio i gyfleoedd i ganolbwyntio mwy ar y cwsmer a chyflawni’n ddigidol, ac i ystyried modelau cyflawni amgen a chwilio am gyfleoedd masnachol.

I’n galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da sy’n cynnig gwerth am arian mewn amgylchedd a fydd yn galw am ddulliau newydd a sgiliau newydd, bydd angen hefyd inni feithrin perthynas newydd gyda’n staff a’n cymunedau.

Mae’r rhaglen newid uchelgeisiol hon yn mynegi cyd-weledigaeth y Cabinet a’r Tîm Arwain Corfforaethol ac wedi cael ei datblygu dros y 12 mis diwethaf. Wrth wireddu’r Strategaeth hon, bydd arweiniad dewr gan wleidyddion a swyddogion yn hanfodol er mwyn sicrhau y byddwn yn llwyddo i gyflawni’r canlyniadau yr ydym yn anelu atynt.

Mae ein strategaeth trawsnewid #TîmCaerffili – Yn Well Gyda’n Gilydd yn amlochrog ac wedi’i seilio ar amrywiaeth o elfennau allweddol a fydd yn sail i bopeth a wnawn ac a fydd yn cael eu gwreiddio’n llawn yn ein model gweithredu newydd -

Model Gweithredu

Dyma’r canlyniadau yr ydym yn anelu at eu cyflawni: -

• Bod â pherthnasoedd gweithio cryf gyda’n cymunedau a’n partneriaid er mwyn gwneud y defnydd mwyaf posibl o’n cyd-adnoddau i sicrhau bwrdeistref sirol gydnerth at y dyfodol.

• Gwreiddio model gweithredu newydd a fydd yn hybu dulliau arloesol o ddarparu gwasanaethau a sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau.

• Helpu i gau’r bwlch rhwng tlodi a ffyniant trwy wella cyrhaeddiad addysgol ac ysgogi’r economi leol i greu swyddi o ansawdd da.

• Gwneud Bwrdeistref Sirol Caerffili yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.

Mae dealltwriaeth dda o’r angen am newid. Ers blwyddyn ariannol 2008/09 mae’r Cyngor wedi torri mwy na £100 miliwn o’i gyllideb oherwydd y rhaglen cyni barhaus a rhagwelir arbedion pellach o ryw £44 miliwn ar gyfer y cyfnod o bedair blynedd o 2020/21 i 2023/24.

Mae hyn, ynghyd â’r galwadau cynyddol sy’n gysylltiedig â phoblogaeth sy’n heneiddio, helpu pobl ag anghenion iechyd cymhleth i aros yn eu cartrefi eu hunain, y bwlch rhwng tlodi a ffyniant, y newid yn yr hinsawdd a datblygiadau digidol, yn galw am ymagwedd newydd sy’n ein galluogi i gyflawni “mwy gyda llai”.

Hyd yma mae’r Cyngor wedi ymateb i’r her ariannol heb lawer o effaith ar wasanaethau rheng flaen. Fodd bynnag, wrth gynllunio ar gyfer dyfodol y Fwrdeistref Sirol, gwyddom fod anghenion ein cymunedau a phroffil demograffig ein poblogaeth yn newid. Er enghraifft, erbyn 2036 bydd nifer y bobl hŷn nag 85 oed sy’n byw yn y Fwrdeistref Sirol yn cynyddu 119%.

Gwyddom y bydd technoleg yn sail i swyddi, sgiliau, cyflogaeth ac addysg yn y dyfodol. Bydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnig y cyfle pwysicaf i ysgogi’r economi leol am genedlaethau i ddod. Mae cyflogaeth yn arwain at ffyniant a chyfle cyfartal.

Mae arnom ddyletswydd i fod yn gyfrifol yn fyd-eang ym mhopeth a wnawn ac mae’n rhaid inni ddarparu ein gwasanaethau mewn ffordd effeithlon, effeithiol a chynaliadwy.

Mae ein partneriaid yn gweithredu mewn amgylchedd yr un mor heriol ac mae angen inni wneud y mwyaf o’n cyd-alluoedd trwy gydweithio ar draws y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a chymunedol.

Rydym yn ailddiffinio ein gweledigaeth a’n gwerthoedd fel sefydliad. Bydd angen i’n hegwyddorion gweithredu newid er mwyn gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.Rydym yn datblygu set newydd o werthoedd ac mae ein staff wedi cael eu cynnwys yn y cyfle cyffrous hwn ar gyfer newid cadarnhaol.Byddwn yn eu helpu gyda hyn trwy arferion cymorth a datblygiad newydd.

Rydym wedi nodi prosiectau allweddol yr awdurdod lleol a fydd yn gwella ein cydnerthedd a byddwn yn cyflawni’r rhain trwy waith rheoli rhaglenni trylwyr. Mae ein Strategaeth Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden Egnïol, a fabwysiadwyd yn ddiweddar, yn enghraifft dda o’n hymagwedd yn y dyfodol – atgyfnerthu a chefnogi gwasanaethau hyfyw i’r dyfodol.

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i amddiffyn pobl agored i niwed a darparu gwasanaethau mewn ffordd mor deg ag sy’n bosibl ar draws y fwrdeistref sirol gyfan. Fodd bynnag, rhaid inni feddwl yn fwy masnachol yn ein dulliau o ddarparu gwasanaethau, a chwilio am gyfleoedd i gynyddu incwm y gellir ei ailfuddsoddi mewn gwasanaethau.

Rhaid i’r ffordd yr ydym yn rhyngweithio ac ymgysylltu â’n cymunedau fod yn fwy ystyrlon a chael ei hintegreiddio’n llawn i’n strategaethau, felly bydd angen i’n hymagwedd bresennol newid. Rhaid inni reoli disgwyliadau ein cymunedau a datblygu cyd-ddealltwriaeth na allwn ddarparu gwasanaethau yn yr un ffyrdd ag o’r blaen. Byddwn yn gwrando’n ofalus ar farn ein cymunedau wrth siapio gwasanaethau yn y dyfodol a byddwn yn esbonio’r rhesymau y tu ôl i unrhyw benderfyniadau a wneir.

Bydd angen gwneud dewisiadau anodd a bydd angen inni roi blaenoriaeth i wasanaethau hanfodol. Byddwn yn agored ac yn onest yn y ffordd y gwnawn y dewisiadau hyn ac rydym eisiau i’n cymunedau a’n staff fod yn rhan o’r drafodaeth.

Mae ein staff yn adnodd ymroddedig a gwerthfawr a byddwn yn sicrhau ein bod yn eu cynorthwyo a’u harfogi â’r sgiliau a chymwyseddau y bydd arnynt eu hangen i sicrhau y bydd y model gweithredu newydd a fydd yn sail i’r rhaglen trawsnewid hon yn cael ei gyflawni’n llwyddiannus.