Bydd ein ffyrdd newydd o weithio’n galw am weddnewid ein diwylliant ac arweiniad bwriadus, effeithiol gan wleidyddion a swyddogion i fwrw ymlaen â’r agenda newid uchelgeisiol. Mae angen i weithwyr ac Aelodau Etholedig ar bob lefel ddeall pam mae’r sefydliad yn newid, a bydd hefyd angen iddynt goleddu diwylliant a fydd yn helpu i siapio’r ffordd mae’r Cyngor yn gweithio yn y dyfodol. Nhw yw’r galluogwyr allweddol ac mae llwyddiant ein taith trawsnewid yn dibynnu ar ymrwymiad a chefnogaeth gan ein gweithlu.
Mae’n bwysig i bob gweithiwr ddeall ble mae’n ffitio yn ei faes gwasanaeth ei hun ac yn y sefydliad ehangach. Mae pob maes gwasanaeth yn datblygu ei ddatganiad o ddiben ei hun, a fydd yn helpu’r staff ar bob lefel i ddeall yn well y rhan allweddol maent yn ei chwarae yn ethos #TîmCaerffili.
Mae Llyfr Diwylliant newydd #TîmCaerffili yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a bydd hwn yn cynnwys datganiadau o ddiben i bob Cyfarwyddiaeth, ynghyd â manylion y blaenoriaethau allweddol i feysydd gwasanaeth. Bydd y Llyfr Diwylliant hwn ar gael mewn fformatau digidol a phrintiedig, a bydd hefyd yn cynnwys manylion y gwerthoedd ac ymddygiadau y byddwn yn eu hybu ymysg ein staff i gefnogi’r diwylliant y bydd arnom ei angen er mwyn cyflawni ein model gweithredu newydd.
Er bod yna set ymhlyg o werthoedd ac ymddygiadau y disgwylir i’r staff eu coleddu (fel y nodir yng Nghod Ymddygiad y Cyngor), nid oes gennym offeryn cyfeirio hawdd ei ddefnyddio sy’n disgrifio’r gwerthoedd ac ymddygiadau o ddydd i ddydd mae’r Cyngor yn eu disgwyl gan ei gyflogeion yn y gweithle.
Bydd y Llyfr Diwylliant yn ffynhonnell gyfeirio allweddol i’r staff, yn ogystal â bod yn offeryn rheoli defnyddiol i’w ddefnyddio yn ystod sesiynau ymsefydlu staff, cyfarfodydd un i un ac adolygiadau datblygu perfformiad ac ati.
Yn dilyn cyfres o Sioeau Teithiol i’r Staff yn 2018, dywedodd y staff wrthym ni pa fath o amgylchedd roeddent eisiau gweithio ynddo a beth oedd yn bwysig iddynt:-
Byddwn yn anrhydeddu hyn yn ein rhyngweithio â’n staff. Bydd cyfleu’r weledigaeth ar gyfer yr awdurdod a’r gwerthoedd ac ymddygiadau a rannwn yn allweddol wrth drawsnewid yr awdurdod, a bydd hyn yn cael ei nodi yn ein Llyfr Diwylliant.
Rydym eisoes wedi rhannu set newydd o werthoedd ac ymddygiadau gyda’n staff mewn gwahanol ddigwyddiadau ymgysylltu mewnol, ac yn awr bydd y rhain yn cael eu gwreiddio’n llawn yn ein model gweithredu newydd: -
Mae’r gwerthoedd ac ymddygiadau hyn yn cydategu ein Safonau Gwasanaeth Cwsmeriaid, sydd eisoes wedi’u mabwysiadu, sef y byddwn bob amser: -
Yn darparu effaith gwrtais, gadarnhaol a pharhaol.
Wrth inni anelu at newid pethau er gwell.
Adeiladu perthnasoedd hirdymor ar ymddiriedaeth a thryloywder.
Byddwn yn ymdrechu bob amser i wneud y peth iawn.
Yn rhyngweithiol ac yn amrywiol wrth gyfathrebu.
CAMAU GWEITHREDU ALLWEDDOL | AMSERLEN |
---|---|
Rhoi’r wedd derfynol ar y Llyfr Diwylliant, ei gymeradwyo a’i lansio’n ffurfiol gyda’r staff | 30 Tachwedd 2019 |