Mae angen inni herio modelau gwasanaeth sy’n bodoli eisoes a choleddu technolegau sy’n dod i’r amlwg er mwyn cynyddu effeithlonrwydd a sicrhau gwerth am arian.
Bydd angen inni ddysgu o’r arferion gorau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a bod yn barod i gymryd risgiau a reolir yn dda.
Byddwn yn gwneud ymchwil helaeth i ddarganfod modelau darparu gwasanaethau arloesol llwyddiannus, ac ynghyd â hyn bydd y staff yn cael eu hannog i edrych ar ffyrdd amgen o ddarparu gwasanaethau trwy Ganiatâd i Arloesi.
Os oes gan ein staff syniadau da gofynnir iddynt eu gwirio yn erbyn y meini prawf canlynol: -
Os bodlonir y meini prawf hyn bydd gan y staff “Ganiatâd i Arloesi”.
Bydd manylion llawn y fenter “Caniatâd i Arloesi” yn cael eu lansio yn y Sioeau Teithiol i’r Staff sydd i fod i gael eu cynnal yn yr hydref.
Byddwn hefyd yn cydnabod ymroddiad y staff ac yn cyflwyno cynllun cydnabod: Ymdrechu at Ragoriaeth. Yn aml nid oes neb yn sylwi ar waith da, ond rydym eisiau cymryd amser i anadlu, edrych o gwmpas a gwobrwyo ymdrechion ein gweithlu.
Rydym ni eisiau i’n staff wneud awgrymiadau, treialu dulliau newydd a chyfrannau at
drawsnewid yr awdurdod trwy’r Caniatâd i Arloesi.
Byddwn yn cydnabod ac yn cefnogi syniadau sy’n ysgogi arloesedd i #TîmCaerffili.
Ein harwyddair newydd i’n staff fydd:-
BYDDWCH YN FEIDDGAR! BYDDWCH YN DDEWR! BYDDWCH YN WYCH!
CAMAU GWEITHREDU ALLWEDDOL | AMSERLEN |
---|---|
Menter Caniatâd i Arloesi i gael ei lansio | Yn ystod y Sioeau Teithiol i’r Staff (Hydref 2019) |
Cynllun cydnabod y staff Ymdrechu at Ragoriaeth i gael ei lansio | Yn ystod y Sioeau Teithiol i’r Staff (Hydref 2019) |